Prinder staff yn golygu llai o nwyddau ar silffoedd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cigydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sector prosesu bwyd wedi dibynnu ar staff o wledydd yr Undeb Ewropeaidd ers blynyddoedd

Mae prinder staff prosesu bwyd a gyrwyr loriau yn amharu ar faint o nwyddau sydd ar gynnig ar silffoedd archfarchnadoedd yng Nghymru.

Dywed cwmni Avara Foods, sy'n cyflogi 350 o weithwyr yn ei ffatri prosesu twrci yn Y Fenni, bod hanner ei staff yn arfer bod yn weithwyr o wledydd yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl cigydd teuluol ym Mhowys dyw pobl ifanc ddim yn ymuno â'r sector er mwyn llenwi'r bylchau wrth i weithwyr hŷn ymddeol.

Mae Avara Foods, sy'n cyflenwi bwytai a sawl adwerthwr mawr ar draws y DU, wedi dibynnu ar weithwyr o'r UE dros y blynyddoedd, ac mae nawr yn cael trafferth penodi gweithwyr.

'Dim gweithlu yma'

"Yn syml, doedd dim gweithlu yma yn y DU," meddai rheolwr cyfathrebu'r cwmni, Jim Roberts.

Dywed eu bod yn arfer derbyn tua 200 o geisiadau am waith bob mis, ond mae'r nifer wedi gostwng i hyd at 30.

"Mae'n ymddangos i ni fod e'n bennaf yn gysylltiedig â Brexit, ond nid yn gyfan gwbl," meddai.

"Mae Covid yn ddi-os wedi chwarae rhan ond yn sicr nid dyna'r unig reswm [chwaith]."

Mae'n dweud bod nifer y staff sy'n absennol oherwydd Covid "yn isel iawn, iawn - mae'n edrych mwy fel gweithlu sydd wedi crebachu ac mae hynny'n bennaf gan fod gweithwyr o du hwnt i'r DU yn dychwelyd adref".

Disgrifiad o’r llun,

"Wrth i bobl ymddeol does 'na neb yn dod i gymryd eu llefydd nhw," meddai Chris George

Mae cwmni Avara'n galw am ymestyn y cynllun gweithwyr tymhorol er mwyn ymdopi gyda phrysurdeb cyfnod y Nadolig.

"Yn achos nifer o swyddi medrus, yn enwedig bwtsieraeth, bydden nhw'n dod yma am gyfnod byr ac yna'n dychwelyd gartref," meddai Mr Roberts.

"Roedd gyda ni lawer o bobl oedd yn gwneud hynny bob blwyddyn ac roedden ni'n gallu llenwi'r angen am lafur fel'na."

'Pobl ifanc ddim eisiau ei wneud e'

Roedd gan siop WJ George yn Nhalgarth, Powys, chwe chigydd nes yn ddiweddar, ond mae hynny wedi gostwng i ddau yn sydyn iawn.

"Wrth i bobl ymddeol does 'na neb yn dod i gymryd eu llefydd nhw," meddai'r perchennog Chris George.

"Dydy pobl ifanc ddim eisiau ei wneud e - dyw e ddim yn le glamorous i weithio felly rwy'n credu i lawer o bobl ifanc bod eistedd o flaen cyfrifiadur yn pwyso botymau yn fwy o apêl."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae amcangyfrif bod 90,000 o swyddi gwag ledled y DU ar gyfer gyrwyr

Yn ogystal â diffyg sgiliau yn y diwydiant cig, mae prinder o yrwyr loriau yn parhau hefyd.

"Allwn ni ddim gwadu bod gwneuthurwyr yn cael problemau, ond y broblem fwyaf ydy cludiant," meddai Andy Richardson, cadeirydd Bwrdd Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru.

Mae amcangyfrif bod 90,000 o swyddi gwag ledled y DU ar gyfer gyrwyr - a'r prif reswm dros hynny ydy bod gyrwyr o'r Undeb Ewropeaidd wedi gadael yn sgil Brexit.

Ychwanegodd Mr Richardson ei fod yn "galw ar y llywodraeth i edrych ar ddatrysiadau tymor byr yn ogystal â thymor hir", a bod y prinder gyrwyr wedi cael ei amlygu i'r llywodraeth "ers misoedd".

'Cydnabod y caledi'

Dywedodd Llywodraeth y DU ei bod yn "cydnabod y caledi" o fewn y diwydiant bwyd.

"Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'r diwydiant i ddeall yr anghenion llafur a'r galw, ac yn ei gefnogi i sicrhau bod ganddo'r llafur sydd ei angen," meddai llefarydd.

"Yn 2021 a thu hwnt bydd busnesau bwyd a ffermio yn gallu parhau i ddibynnu ar ddinasyddion o'r UE sy'n byw yn y DU sydd â statws sefydlog.

"Rydyn ni'n gweithio gydag adrannau eraill i annog a chefnogi'r diwydiant er mwyn denu mwy o weithwyr domestig trwy gynnig hyfforddiant, opsiynau gyrfa a chodiad cyflog, yn ogystal â buddsoddi mewn technoleg awtomateiddio."

Pynciau cysylltiedig