'Sioc lwyr' teulu wedi llofruddiaeth menyw 65 oed
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau enw'r fenyw y cafwyd hyd iddi'n farw mewn eiddo yn Rhondda Cynon Taf dros y penwythnos.
Roedd June Fox-Roberts yn 65 oed ac yn byw yn St Anne's Drive yn Llanilltud Faerdref ger Pontypridd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'w chartref tua 14:45 brynhawn Sul wedi i berthynas fynegi pryder amdani.
Mae'r llu hefyd wedi cadarnhau bod dyn yn y ddalfa ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
"Nid yw'r dioddefwr wedi ei adnabod yn ffurfiol eto, ond mae swyddogion yn credu mai preswylydd lleol, June Fox-Roberts sy'n 65 oed, yw'r fenyw," medd y llu mewn datganiad.
"Gellir cadarnhau hefyd taw ei chyfeiriad hi yw'r tŷ yn St Anne's Drive, ble cafwyd hyd i'r corff ddydd Sul."
'Menyw garedig a haelionus'
Mae swyddogion arbenigol yn rhoi cymorth i deulu Mrs Fox-Roberts a ddywedodd: "Rydym mewn sioc lwyr dros farwolaeth ein mam.
"Ni wnaiff ei llofruddiaeth synnwyr i ni byth. Roedd yn fenyw garedig a haelionus oedd wastad ar ei hapusaf gyda theulu a chyfeillion o'i chwmpas.
"Roedd yn caru ei theulu'n fawr iawn a ni fyddwn ni byth yr un fath. Mae ein calonnau wedi torri."
Mae'r teulu wedi apelio ar bobl i barchu eu preifatrwydd er mwyn "galaru a dod i delerau gyda'r hyn sydd wedi digwydd".
Yn gynharach brynhawn Mawrth, fe ddaeth i'r amlwg bod yr heddlu wedi bod yn archwilio coedwig y tu ôl i'r tŷ.
Mae swyddogion heddlu ac ymchwilwyr lleoliadau troseddau yn parhau yn yr ardal ddydd Mawrth, lle mae tâp yr heddlu wedi cael ei osod i atal mynediad i'r stryd.
Mae'r mynedfaoedd i'r goedwig ger Canolfan Gymunedol Llanilltud Faerdref a Heol Dowlais hefyd wedi cael eu rhwystro.
Nid oedd yr heddlu'n fodlon cadarnhau am beth roedden nhw'n chwilio amdano yn y goedwig.
Dywedodd llefarydd ar eu rhan bod "unrhyw weithgareddau rydych chi'n ei weld o gwmpas y lleoliad yn amlwg yn gysylltiedig â'r ymchwiliad i'r llofruddiaeth."
Mwy o batrolau
Yn eu datganiad diweddaraf, dywedodd y llu bod cordon yn parhau tu allan i dŷ Mrs Fox-Roberts a'r tir o'i amgylch.
"Mae patrolau wedi cynyddu ac mae swyddogion yn parhau i holi o ddrws i ddrws a dilyn pob ddarn o wybodaeth gan y cyhoedd," meddai'r datganiad.
Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Darren George "Mae fy meddyliau gyda theulu June ar yr adeg ofnadwy yma...
"Mae arestiad heddiw'n gam arwyddocaol ond rwy'n pwysleisio bod yr ymchwiliad yn parhau ac rydym yn erfyn ar unrhyw un â gwybodaeth sydd heb gysylltu â ni eto i wneud hynny, waeth pa mor ddibwys mae'r wybodaeth yn ymddangos.
"Mae'r llofruddiaeth yma, yn naturiol, wedi ysgwyd pawb yn y pentref a'r ardaloedd cyfagos.
"Mae ein presenoldeb yn y pentref wedi cynyddu, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n rhoi sicrwydd i'r gymuned. Bydd ein presenoldeb yn parhau tra bo'r ymchwiliad yn mynd rhagddo."
Mae ditectifs eisiau clywed gan unrhyw un yn y pentref a allai fod wedi clywed neu weld "unrhyw beth amheus" rhwng 00:01 ddydd Gwener, 19 Tachwedd a 14:40 ddydd Sul, 21 Tachwedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2021