Pont Llannerch: Cefnogaeth mewn egwyddor i bont newydd

  • Cyhoeddwyd
Pont afon ClwydFfynhonnell y llun, Liahll Bruce
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Pont Llannerch ei dinistrio ym mis Ionawr

Mae cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cytuno mewn egwyddor i adeiladu pont newydd ar ôl i bont hynafol gofrestredig gael ei dinistrio ddechrau'r flwyddyn.

Fe wnaeth Pont Llannerch, a oedd yn cael ei defnyddio fel man croesi Afon Clwyd rhwng Trefnant a Thremeirchion ac fel llwybr i'r A55, ddymchwel yn ystod Storm Christoph ym mis Ionawr.

Yn ystod cyfarfod ddydd Mawrth, fe wnaeth aelodau o'r cabinet gefnogi cael pont yn ei lle, ond fe fydd hynny'n amodol ar sicrhau'r cyllid angenrheidiol.

Fe fydd y cyngor hefyd yn gofyn am gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru tuag at y gwaith.

Fe ddywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant ac Amgylchedd y Cyngor bod y penderfyniad gan y cabinet yn "gam allweddol tuag at ddarparu'r cyswllt hanfodol hwn unwaith eto".

Dywedodd hefyd bod y diddordeb mewn ymgynghoriad cyhoeddus diweddar, pan gafwyd tua 750 o ymatebion yn dangos pa mor bwysig ydi'r llwybr.

Ers i'r bont ddymchwel, mae rhai pobl wedi wynebu dargyfeiriad saith milltir o hyd. Roedd 95% o'r rhai wnaeth ymateb i'r ymgynghoriad o blaid cael pont newydd cyn gynted â phosib.

'Ddim yn broses gyflym na hawdd'

Ond fe allai'r gwaith ail-adeiladu gostio £7m, a does gan Gyngor Sir Ddinbych ddim arian wedi ei glustnodi ar gyfer y prosiect.

Fe fydd y cyngor yn comisiynu ymchwiliad tir pellach a gwaith modelu llifogydd i sicrhau bod posib datblygu cynllun a fydd yn bodloni gofynion y broses gynllunio.

Mae'r Cynghorydd Jones yn dweud bod llawer o waith i'w wneud eto cyn gallu ceisio sicrhau cyllid ar gyfer y prosiect.

"Yn anffodus, ni fydd disodli Pont Llannerch yn broses gyflym na hawdd," meddai.

"Ni fydd modd darparu amserlen nes y byddwn wedi sicrhau cyllid ar gyfer prosiect."

Pynciau cysylltiedig