Llifogydd: Dioddefwyr yn gymwys i wneud cais am £1,000
- Cyhoeddwyd
Bydd pob cartref sydd wedi'u heffeithio gan lifogydd yng Nghymru yn gallu gwneud cais am hyd at £1,000 i helpu'r gwaith o'i adfer, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Mae ardaloedd ledled Cymru wedi cael eu taro gan lifogydd yr wythnos hon, gyda mannau fel Sgiwen yng Nghastell-nedd Port Talbot, Bangor Is-Coed yn Wrecsam a Rhuthun, Sir Ddinbych wedi'u heffeithio'n ddrwg.
Cafodd teulu eu hachub gan hofrennydd ar ôl cael eu hynysu gan lifogydd ger pentref Yr Orsedd yn Wrecsam nos Iau.
Fe wnaeth Gwasanaeth Tân ag Achub Gogledd Cymru anfon cwch i achub y ddau oedolyn a phlentyn chwech oed, oedd mewn dŵr at ei pengliniau, ond roedd yn rhy beryglus i fynd yn agos.
Bu'n rhaid galw am gymorth hofrennydd i gludo'r teulu a'i dau gi o'r eiddo anghysbell ar lannau afon Dyfrdwy am 20:20.
Bydd criwiau tân hefyd yn dychwelyd i Sgiwen fore Gwener i barhau i bwmpio dŵr ar ôl i'r awdurdodau gyhoeddi "digwyddiad difrifol" wnaeth effeithio o leiaf wyth stryd ddydd Iau.
Mae nifer o rybuddion am lifogydd yn parhau mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol, gan gynnwys dau rybudd difrifol, wrth i'r glaw ddechrau cilio.
Mae rhybudd melyn arall am rew mewn grym dros rannau o ganolbarth a gogledd Cymru nes fore Gwener, sy'n debygol o arwain at amodau gyrru anodd.
'Amseroedd digynsail'
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Lesley Griffiths: "Yn drist iawn, rydyn ni unwaith eto wedi gweld y difrod sy'n gallu cael ei achosi gan lifogydd - y tro hwn o ganlyniad i Storm Christoph.
"Mae nifer o bobl ar draws Cymru yn wynebu'r broblem ddwbl o gartref dan ddŵr a'r pandemig coronafeirws.
"Mae'r rhain wir yn amseroedd digynsail.
"Byddwn yn cefnogi pobl yn yr amgylchiadau yma, fel y gwnaethon ni yn dilyn stormydd Ciara a Dennis y llynedd, trwy weithio gydag awdurdodau lleol i wneud taliadau o rhwng £500 a £1,000 ar gael i bob cartref sydd wedi'u heffeithio."
Ychwanegodd Ms Griffiths y byddai rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi ddydd Gwener.
Bu'n rhaid i tua 80 o bobl gael eu cludo o'u cartrefi yn Sgiwen ddydd Iau, gydag awgrym fod y broblem yn ardal Parc Goshen yn ymwneud â safleoedd cloddio glo lleol.
Dywedodd arweinydd y cyngor sir, Rob Jones, brynhawn Iau fod "arwyddion cynnar yn awgrymu cyswllt gyda safleoedd cloddio - ond bod llif y dŵr yn ei gwneud yn anodd i wneud asesiad llawn o'r sefyllfa".
Ychwanegodd y gwasanaeth tân ac achub bod 11 o griwiau tân wedi bod yno yn rhoi cymorth i drigolion ddydd Iau, ac mae'r gwasanaethau brys wedi cadarnhau y byddan nhw'n aros yno trwy'r nos.
Mae "digwyddiad difrifol" wedi'i gyhoeddi yno, gydag asiantaethau yn ymchwilio i achos y llifogydd a'n parhau i fonitro lefel y dŵr.
Daw'r trafferthion yno yn dilyn glaw trwm Storm Christoph, wnaeth arwain hefyd at symud pobl o'u cartrefi ym Mangor Is-Coed ger Wrecsam, a Rhuthun, Sir Ddinbych.
Yn Wrecsam, bu'n rhaid i'r gwasanaethau brys ddiogelu ffatri sy'n cynhyrchu brechlyn Covid-19 ar stad ddiwydiannol y dref am gyfnod oherwydd pryder y byddai lefel y dŵr yn codi.
Cafodd hyd at 30 o bobl eu symud o'u cartrefi ym Mangor Is-Coed, ac fe gafodd naw adeilad yn New Broughton gerllaw hefyd eu gwagio.
Bu'n rhaid i rai trigolion adael eu tai yn Rhuthun yn ogystal, ac mae cartref Clwb Pêl droed Porthmadog - Y Traeth - hefyd wedi bod dan ddŵr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2021