Y Gynghrair Genedlaethol: Halifax Town 1-2 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
pel

Fe sgoriodd Paul Mullin gôl hwyr i sicrhau buddugoliaeth i Wrecsam oddi cartref yn erbyn Halifax Town.

Y tîm cartref oedd wedi sgorio gôl gyntaf y noson - fe anelodd Jordan Slew y bêl trwy goesau'r golwr Rob Lainton i rwydo wedi 67 o funudau.

Llwyddodd James Jones i unioni'r sgôr gyda'i gôl gyntaf i Wrecsam wedi 83 o funudau ar ôl i Jordan Davies greu'r cyfle iddo.

Sgoriodd Mullin ei nawfed gôl o'r tymor ar ddechrau'r amser ychwanegol i sicrhau'r triphwynt i dîm Phil Parkinson.

Golyga'r canlyniad bod Wrecsam yn codi un i wythfed safle'r tabl, gyda 27 o bwyntiau - dau bwynt yn llai na Solihull Moors sy'n seithfed - ac mae Halifax yn aros yn y pumed safle.