Heddlu'n ymddiheuro am ymateb i gwynion cam-drin
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent wedi ymddiheuro i ddwy fenyw am y ffordd y deliodd y llu gyda'u cwynion am ymddygiad swyddog arall.
Adroddodd Jodie, nid ei henw iawn, wrth Heddlu Gwent bron i ddegawd yn ôl am gamdriniaeth gan ei chyn-gariad, PC Clarke Joslyn.
Gwasanaethodd Mr Joslyn fel heddwas am 26 mlynedd, ond yn 2019 dyfarnodd panel ei fod wedi torri safonau proffesiynol yr heddlu.
Dywedodd Heddlu Gwent ei fod yn "flin iawn" bod y menywod wedi cael eu gadael i lawr "pan oeddynt yn teimlo gwir angen ein cefnogaeth".
'Distrywio fy ngyrfa'
Flynyddoedd wedi iddi gwyno am ymddygiad treisgar a rheoli drwy orfodaeth cyd-swyddog, mae Jodie wedi cael yr ymddiheuriad y bu'n aros amdano.
"Fyddwn i ddim yn bod yn ddramatig wrth ddweud bod hyn wedi distrywio fy ngyrfa," meddai Jodie.
Yn 2012 cwynodd Jodie bod PC Clarke Joslyn yn ei haflonyddu ar ôl i'w perthynas ddod i ben.
Er iddo dderbyn rhybudd am ei ymddygiad, dechreuodd yr heddwas berthynas gyda swyddog benywaidd arall yn ddiweddarach y flwyddyn honno.
Ond cymerodd tan 2019 i banel ei ganfod yn euog o gamymddwyn difrifol am gynnal "ymddygiad camdriniol parhaus" tuag at fenywod. Gwadodd Mr Joslyn y cyhuddiadau.
Nawr mae Heddlu Gwent wedi mynd gam ymhellach, gan ymddiheuro'n gyhoeddus am y ffordd y deliodd y llu â chwynion gan ddwy o'i swyddogion.
"Roedden ni just yn teimlo fel ein bod yn cael ein hanwybyddu, nad oeddem yn cyfri', ac nad oeddem hyd yn oed yn cael ein credu, efallai", meddai Jodie.
"Ond iddyn nhw ymddiheuro, mae'n dangos eu bod o'r diwedd, ar ôl yr holl flynyddoedd, wedi gwrando ar yr hyn oedd gennym i'w ddweud."
Roedd Heddlu Gwent wedi cael ei gyhuddo o fethu a chymryd camau i amddiffyn ei swyddogion benywaidd ac o anwybyddu rhybuddion am ymddygiad un o'i swyddogion.
"Yr hyn roeddwn i'n ffeindio'n anodd oedd, roeddwn i'n swyddog ymateb ar y pryd ac roeddwn yn delio gyda phethau llai difrifol na'r hyn yr oeddwn i'n mynd drwyddo fy hun. Ond yn fy achos i doedd dim yn cael ei wneud," meddai Jodie.
Angen 'wynebu maint y broblem'
Dywedodd Y Ganolfan Dros Gyfiawnder i Ferched, yr elusen oedd yn cynrychioli Jodie, bod ei hachos yn codi materion "systemig" ynglŷn â diwylliant plismona tu hwnt i Heddlu Gwent.
"Mae'n ymwneud â diffyg gweithdrefnau i sicrhau ymchwiliad annibynnol pan fo pethau'n mynd o chwith, lle mae swyddogion yn cael eu cyhuddo o gamddefnyddio'u sefyllfa," meddai Kate Ellis, twrnai gyda'r elusen.
"Hyd nes y bydd heddluoedd yn wynebu maint y broblem, nid ydym am weld newid systemig, ystyrlon."
Mae ymddygiad rhai swyddogion gwrywaidd tuag at ferched, a gallu'r heddluoedd i gynnal ymchwiliadau boddhaol iddynt, wedi dod dan y chwydd-wydr ar ôl i swyddog gyda Heddlu'r Met, Wayne Couzens, gael ei ganfod yn euog o lofruddio Sarah Everard ym mis Mawrth eleni.
Dywedodd y gweinidog cartref, Priti Patel, y byddai'n cynnal ymchwiliad i'r materion a godwyd o ganlyniad i'r achos hwnnw.
Ond mae ymgyrchwyr, yn cynnwys Y Ganolfan Dros Gyfiawnder i Ferched, wedi galw arni i ehangu sgôp yr ymchwiliad i gynnwys enghreifftiau eraill o gam-drin gan swyddogion heddlu.
Ymchwiliadau annibynnol
Yn ôl Jodie roedd achosion fel ei hachos hi yn dangos y dylai ymchwiliadau i ymddygiad swyddogion fod yn annibynnol, ac na ddylent gael eu cynnal gan gydweithwyr o'r un llu.
Mae hi hefyd yn rhwystredig nad oedd y person fu'n ei cham-drin yn gwasanaethu gyda'r heddlu erbyn i'r achos yn ei erbyn gael ei brofi.
"Pan gafodd [yr achos] ei wthio mor bell ag yr oedd am fynd ac roedd o'n gwybod ei fod am gael ei ganfod yn euog o gamymddwyn difrifol, fe ymddiswyddodd. Roedd yr elfen olaf o reolaeth ganddo yn y fan yna.
"Yn bendant os yw rhywun wedi cael ei ymchwilio am gamymddwyn difrifol, dwi'n meddwl na ddylent gael caniatâd i ymddiswyddo."
Beth ddywedodd Heddlu Gwent?
Dywedodd dirprwy brif gwnstabl Heddlu Gwent, Amanda Blakeman, ei bod wedi cwrdd â'r ddwy fenyw yn yr achos i glywed eu profiadau ac i ymddiheuro.
"Mae'n flin iawn gennyf ein bod wedi eu gadael nhw i lawr ar adeg pan oeddynt yn teimlo gwir angen ein cefnogaeth," meddai.
Dywedodd bod y llu wedi "gwrando, myfyrio a gweithredu'r camau oedd eu hangen i gael hyn yn iawn yn y dyfodol".
"Rydym yn cymryd unrhyw honiadau o'r math yma o ddifrif a byddant yn cael eu hymchwilio'n drylwyr, a byddwn yn gweithredu. Byddwn hefyd yn gweithio gydag unigolion sy'n codi pryderon i wneud yn siŵr eu bod yn cael y gefnogaeth sydd ei eisiau arnynt a'i angen.
"Yn gymwys iawn, mae disgwyliadau cyhoeddus ynglŷn â'n safonau yn uchel iawn.
"Nid oes lle yn ein llu i ymddygiad amhriodol yn y gweithle, nac i gamddefnyddio sefyllfa unigolyn er mwyn cymryd mantais ar eraill.
"Rydym yn disgwyl i bawb o fewn Heddlu Gwent gadw safonau uchel o ymddygiad proffesiynol - mae mwyafrif helaeth ein staff yn gweithio'n ddiflino i wasanaethu eu cymunedau gyda phroffesiynoldeb, gonestrwydd a chywirdeb.
"Rydym wedi ymrwymo i adnabod a gweithredu yn erbyn yr unigolion hynny sy'n torri'r safonau hyn.
"Mae'n rhaid i'r cyhoedd gael yr hyder eithaf yng ngonestrwydd ein swyddogion ac rydym yn eglur iawn nad oes dyfodol yn y llu hwn i unrhyw un sy'n tanseilio ymddiriedaeth y cyhoedd."
Dywedodd y llu bod pob achos yn ymwneud â swyddogion yn camddefnyddio'u swydd wedi cael eu hadrodd i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, fyddai yna'n ystyried camau pellach.