Sut mae Americanwyr yn dathlu Diolchgarwch?
- Cyhoeddwyd
"Ges i Ddiolchgarwch diddorol yng Nghymru!"
Un o ddinas Boston yn yr Unol Daleithiau yw Adam Barnett. Mae'n 27 oed a bellach yn byw yn Manchester, New Hampshire.
Bu'n byw yng Nghaerdydd am flwyddyn yn 2017 pan ddaeth o draw i astudio Astudiaethau Cymraeg a Cheltaidd yn Ysgol y Gymraeg, Caerdydd.
Dyma "ddiwrnod gorau'r flwyddyn," i'r Americanwr, er ei fod yn gallu cael ei ystyried "fel gwyliau eithaf dadleuol!"
Mae'r diwrnod yn cymryd lle ar y pedwerydd dydd Iau bob mis Tachwedd ac mae'n dyddio mor bell yn ôl a 1621.
Cymru Fyw sydd wedi holi Adam sut mae Americanwyr yn dathlu'r achlysur ac am y "diolchgarwch diddorol..." gafodd o gyda'i ffrindiau yng Nghymru.
Beth wyt ti'n gwneud ar gyfer Diolchgarwch eleni?
Bydda i yn mynd i aros gyda fy rhieni yn Boston, bydd teulu yn dod draw. Dim byd rhy arbennig ond dyna be dwi'n gwneud bob blwyddyn.
Bydd saith ohonom ni yna. Fi, fy mrawd, Mam a Dad ac eleni mae fy Modryb a'i phlant hi'n dod hefyd.
Pa mor bwysig yw Diolchgarwch i ti?
Hwn yw fy hoff wyliau drwy gydol y flwyddyn!
Er mae yn gallu cael ei weld fel gwyliau eithaf dadleuol. Mae fy ffrind, fel enghraifft, a'i deulu yn casáu bwyd Diolchgarwch, ac yn lle twrci mi fyddan nhw'n cael tecawê chinese. Os byswn i'n crybwyll gwneud hyn yn fy nghartref i, bydde pobl yn mynd yn wyllt!
Ond i'r gwrthwyneb i hyn, gan fy mod i'n Iddewig, byddwn ni fel teulu yn cael tecawê chinese ar ddiwrnod 'Dolig. Mae pawb gyda'i beth - Diolchgarwch yw fy hoff ŵyl!
Mae hefyd yn wyliau cenedlaethol felly ni fyddai'n gweithio! A pan roeddwn i'n ysgol, roeddem ni'n cael dydd iau a dydd Gwener i ffwrdd felly 4 diwrnod o wyliau! Ond eleni dwi wedi gorfod bwcio dydd Gwener i ffwrdd er mwyn cael treulio'r penwythnos gyda'r teulu.
Oes unrhyw draddodiad chi'n gwneud?
Dim o reidrwydd, mae rhai teuluoedd yn hoff o chwarae gem fach o bêl-droed Americanaidd yn yr ardd neu wylio gem o bêl-droed Americanaidd. Byddwn i'n gwylio!
Ond mae'r diwrnod i ni yn fwy amd dal fyny gyda teulu a phryd o fwyd mawr!
Beth fyddwch chi'n bwyta?
Fel pob teulu arall, twrci yw prif gynnwys unrhyw wledd Diolchgarwch.
Ond yn annhebyg i deuluoedd eraill, ni dal yn cael stwffin o fewn y twrci sydd ddim mor gyffredin heddiw oherwydd pryder hylendid bwyd, ond dwi'n trystio Mam i beidio ein gwenwyno!
Ac wrth gwrs, saws llugaeronen (cranberry). Bydd fy modryb i'n dod a saws cartref llugaeronen gyda hi ond mae fy nhad a fi yn gredwyr cryf bod saws llugaeronen go iawn yn dod allan o jar ac yn cadw ei siâp pan mae'n cael ei rhoi mewn i bowlen!
Pam nes di ddod draw i Gymru?
Es i Gaerdydd ar ôl gorffen fy astudiaethau isradd. Mae gen i ddiddordeb mawr yn hanes yr Hen Ogledd.
Anfones i e-bost i rywun o Gaerdydd a chynigodd ysgoloriaeth i mi fynd i astudio cwrs meistr ym Mhrifysgol Caerdydd mewn astudiaethau Celtaidd a Chymraeg.
Er nad ydw i'n defnyddio'r radd yna heddiw, hwn yw'r peth gorau dwi erioed wedi gwneud.
Wnes di ddathlu Diolchgarwch yng Nghymru?
Do! Hwn yw'r unig Ddiolchgarwch i mi ddathlu heb fy nheulu yn Boston.
Ges i Ddiolchgarwch diddorol yng Nghymru.
Penderfynes i wahodd criw o ffrindiau draw a gwneud pryd o fwyd iddyn nhw ond sylwes i yn sydyn iawn bod y cynhwysion roeddwn i angen yng Nghymru yn anoddach ffeindio na'r disgwyl!
Pan rydych chi tu allan o America, dydych chi methu cerdded mewn i archfarchnad a phrynu twrci cyfan, yn ôl y sôn mae rhaid iddo fo fod o fewn tymor penodol, doedd hwn ddim yn rhywbeth roeddwn i'n gyfarwydd gyda.
Doeddwn i methu gwneud fy hoff bwdin chwaith - Pei Pecan gan nad oeddwn i'n gallu ffeindio syryp corn.
Ond doedd hwn ddim am stopio fi ddathlu Diolchgarwch, yn lle twrci a stwffin, gafo ni pizzas o Dominos a Budweiser!