Cyhuddo dyn o lofruddio dyn 31 oed yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn achos o drywanu yng nghanol Caerdydd.
Bu farw Jordan Cody-Foster, oedd yn 31 ac o'r ddinas, yn dilyn ymosodiad ar Stryd Hansen, Tre-biwt ddydd Mawrth.
Bu dyn 44 oed, Steven White, a gafodd ei arestio'r un diwrnod yn ardal Sblot, o flaen Llys Ynadon Caerdydd ddydd Iau. Cafodd ei gadw yn y ddalfa cyn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener.
Yn eu teyrnged iddo mae teulu Mr Cody-Foster wedi apelio am dawelwch gan erfyn ar bobl i beidio â chymryd camau ar eu liwt eu hunain mewn ymateb i'w farwolaeth.
Dywedodd y teulu yn eu datganiad: "Rydym mewn galar ac yn tristáu yn sgil llofruddiaeth sydyn, greulon ein mab, nai, cefnder, brawd a thad. Roedd pawb yn ei garu'n ddwfn.
"Roedd blynyddoedd cynnar bywyd Jordan yn llawn cariad a gobaith, ac roedd yn mwynhau sawl gweithgaredd chwaraeon.
"Rydym hefyd yn gweddïo am hedd Duw i gynnal a chysuro ni a chyfeillion Jordan yn y cyfnod anodd yma.
"Rydym hefyd yn gofyn am dawelwch ymhlith y rhai oedd yn ei 'nabod er parch i'r cof amdano ac i beidio â gweithredu ar eu liwt eu hunain."
Mae Heddlu De Cymru wedi dweud nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r ymosodiad a ddigwyddodd tua 09:00 fore Mawrth ger Canolfan Huggard.
Fe wnaeth aelodau staff y ganolfan helpu trin anafiadau Mr Cody-Foster ond bu farw yn ddiweddarach.
"Mae ein meddyliau gyda theulu a chyfeillion Jordan sydd wedi eu llorio gan ei farwolaeth," meddai'r Ditectif Prif Arolygydd Matt Davies.
"Yn naturiol mae ei farwolaeth hefyd wedi ysgwyd y gymuned, yn arbennig pobl sy'n gweithio ac yn byw ger Canolfan Huggard, a hoffwn eu diolch am y gefnogaeth maen nhw wedi ei rhoi i'r ymchwiliad."
Mae'r heddlu'n parhau i apelio i'r cyhoedd am wybodaeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2021