O Edward H i Roughion: Hanes cerddoriaeth ddawns Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae pawb yn gwybod am draddodiad cerddoriaeth bop neu werin yn Gymraeg, ond beth am gerddoriaeth ddawns?
Yn annisgwyl i rai, efallai, mae'r genre yma wedi bod yn rhan o ddiwylliant miwsig Cymraeg ers degawdau, ac yn parhau i ffynnu.
Gwion Ap Iago, sy'n DJ, yn rhedeg y label electronig Afanc ac yn aelod o'r band Roughion, sy'n ein tywys drwy hanes cerddoriaeth ddawns ac electronig Gymraeg:
Mae hanes cerddoriaeth ddawns Cymru yn wahanol i llawer o scenes eraill Cymru.
Pam dwi'n dweud hyn? Doedd dim dechreuad pendant.
Gallech ddadlau fod cerddoriaeth ddawns Cymru wedi dechrau gydag Edward H Dafis yn canu Smo Fi Ishe Mynd, sy'n gân soul/funk - y party track cyntaf yn Gymraeg, o bosib - neu pan ddechreuodd Injaroc gyda'u caneuon disgo, neu Endaf Emlyn gyda'i albwm Hiraeth ac yn hwyrach Dawnsionara.
Ond be' dwi am ei drafod yn fyr iawn yw hanes cerddoriaeth electronig a dawns trwy ddewis caneuon sydd yn dangos y genre, sy'n rhoi ychydig o trivia i chi neu sydd jest banger go iawn!
Malcolm Neon - Y Cwsg (1980)
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn fy marn i, dyma Kraftwerk Cymru. Arloeswr gwych greodd nifer o ganeuon a rhyddhau llawer o ganeuon ar ei label ei hun, Recordiau Neon.
Gweithiodd ag amryw o arloeswyr eraill, fel Datblygu a Gorwel Owen. Defnydd cynnar iawn o drum machine 808 yn yr iaith Gymraeg.
Bando - Sgen Ti Sws i Mi (1981)
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Trac disgo cynnar a'r cyntaf sydd â'r elfen hip hop, gyda'r rap Dau Gi Bach a hwiangerddi eraill - tebyg i waith Chic yn America o'r 70au.
Oddi ar yr albym Shampŵ, record oedd gan fy rhieni, a phan 'nes i ddechre chware sets Cymraeg 'nes i roi'r caneuon ar mp3 cyn i'r albym gael ei ryddhau yn ddigidol.
Gallech ddweud bod y Cymry wedi bod y bobl gyntaf ym Mhrydain i rhoi rap mewn cân; cafodd Rapture gan Blondie ei rhyddhau yr un flwyddyn, ond Sgen Ti Sws i Mi gafodd ei recordio gyntaf.
Eirin Peryglus - Y Llosg (1989)
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Italo Disco cynnar iawn Cymraeg, oddi ar label recordiau Ofn. Dyma fand arall â Gorwel Owen yn rhan ohono.
Dechreuodd cerddoriaeth house yn Chicago yn 1987, ac yn y gân yma chi'n gallu clywed yr elfennau yna'n dechrau dod trwyddo gyda'r peiriant drymio 808 wedi ei seilio yn gryf yn y mix.
Tŷ Gwydr - Anwaraidd (1992)
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Let's get ravey baby. Trac gwych sydd yn mynd â chi'n ôl i'r 90au, partis am ddim, hardcore, tracksuits FILA a trainers mwdlyd.
Swnio'n debyg i nawr a dyna'r peth am y traciau yma, yn enwedig rhai Tŷ Gwydr - maen nhw'n timeless.
Llwybr Llaethog - Cracataca (2001)
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Jungle drum and bass cyntaf Cymraeg yn defnyddio sampl gan Siân James.
Legends gyda nifer o ganeuon eraill wedi eu rhyddhau o 1987-00au, ond hwn i fi yw'r un sydd yn sefyll allan fel un o'r rhai mwyaf diddorol.
Dyna'n fras ganeuon cyntaf y genre ni'n gyfarwydd â yng Nghymru. Gyda nifer fawr iawn o artistiaid wedi bodoli a nifer anferth o ganeuon sydd ddim ar gael ar-lein eto, mae 'na gymaint i'w ddarganfod ond 'neith y caneuon yma eich rhoi chi ar ben y ffordd.
Heddiw, mae 'na artistiaid yn creu cerddoriaeth electronig anhygoel yn y Gymraeg; Endaf, Eädyth, Iosphex, Sachasom ac wrth gwrs fy mand i Roughion...
Roughion - Newport Road (2021)
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ymlaen i'r 20 mlynedd nesaf o gerddoriaeth electronig Cymraeg!
Hefyd o ddiddordeb: