Cefnogi penodi Swyddog Materion Cymraeg llawn amser
- Cyhoeddwyd
Mae cyfarfod blynyddol Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi cefnogi cynnig i benodi Swyddog Materion Cymraeg llawn amser - cynnig fydd nawr yn mynd gerbron Bwrdd yr Ymddiriedolwyr.
Roedd yna anniddigrwydd ymhith nifer o fyfyrwyr nad oedd gan Brifysgol Caerdydd Swyddog Materion Cymraeg llawn amser, er mai hi yw'r brifysgol fwyaf.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn 2018 fe gafodd cynnig ei gymeradwyo a fyddai, ym marn y cynigwyr, wedi arwain at benodi swyddog llawn amser.
Ar y pryd, dywedodd Undeb Myfyrwyr y brifysgol mai galw ar Fwrdd yr Ymddiriedolwyr i ystyried creu'r swydd oedd y cynnig, a dim mwy na hynny.
Yn 2019 fe sefydlwyd gweithgor i edrych ar y sefyllfa ond gan nad oedd fawr wedi digwydd roedd rhai myfyrwyr yn honni bod yr undeb wedi defnyddio'r pandemig fel "esgus" i beidio gweithredu.
Annell Dyfri yw Swyddog yr Iaith Gymraeg ar hyn o bryd - swydd rhan amser - ac fe lansiodd hi ddeiseb ar-lein yn pwyso am newid.
'Pŵer nawr gyda'r ymddiriedolwyr'
Wrth ymateb i'r ffaith bod yr undeb wedi cefnogi cynnig i benodi Swyddog Materion Cymraeg llawn amser dywedodd: "Mae cymaint o fyfyrwyr cyn ni wedi bod yn yr un sefyllfa â ni o'r blaen a 'dan ni'n ail adrodd y broses mewn ffordd ac yn dangos bod ni dal yma yn dal i frwydro a bod ni'n haeddu cael eu clywed.
"Felly mae'r myfyrwyr wedi siarad, ma'r pŵer nawr gyda'r ymddiriedolwyr ond 'dan ni wedi bod fan hyn yn barod - felly mae'n amlwg bod hon yn broblem sydd dal yn effeithio arnon ni fel myfyrwyr cyfrwng Cymraeg."
Ychwanegodd bod nifer o'r myfyrwyr yn teimlo'n angerddol am y mater.
"Mi oedd pobl yn cymeradwyo am oesoedd ar ôl i mi orffen yr araith," meddai, "pobl yn sefyll ar eu traed, pobl yn gweiddi, pawb o blaid, pob un myfyriwr o blaid y newid yma.
"Felly yn amlwg mae'n rhywbeth ma'r myfyrwyr yn teimlo'n angerddol amdano fe... gobeithio yn wir nawr 'neuth yr undeb wrando ar lais y myfyrwyr.
"Mae 'na alw mawr am swyddog llawn amser yma fel sydd 'na ym mhrifysgolion eraill Cymru.
"Mae'n swydd heriol yn enwedig pan yn 'neud [hi'n rhan amser] fel rhan o'ch cwrs yn y drydedd flwyddyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2019