Y Bencampwriaeth Rygbi Unedig: Connacht 46-18 Gweilch
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n noson siomedig i'r Gweilch yn Galway nos Wener wrth i Connacht eu trechu 46-18, gan sgorio saith cais dan amodau gwyntog a gwlyb.
Roedd y tîm o Gymru ar ei hôl hi o'r ail funud pan sgoriodd Mark Hansen cais cyntaf Connacht, ac fe lwyddodd y Gwyddelod i osgoi ildio'r fantais am weddill y gêm.
Er i'r Gweilch gael tri phwynt ar y bwrdd gyda chic gosb lwyddiannus Stephen Myler rhyw funudau yn ddiweddarach, doedd hi ddim yn hir cyn i Connacht ddilyn eu hesiampl ac ennill tri i'w hunain.
Erbyn yr egwyl roedd Connacht yn arwain 18-11 ar ôl sgorio tri chais.
Ar ôl sgorio cais cyntaf y Gweilch yn yr hanner cyntaf, cafodd Luke Morgan garden melyn am dacl uchel ar Peter Robb wedi tua awr o chwarae.
Gyda hynny - a Connacht eisoes ar y blaen o 32-18 - gwan oedd gobeithion yr ymwelwyr am weddill y gêm er eu hail gais gan Joe Hawkins a chicio Myler.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2021