Cofnodi pedwar achos newydd o Omicron yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
PrawfFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae pedwar achos ychwanegol o amrywiolyn Omicron wedi eu cofnodi yng Nghymru.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod dau o'r achosion wedi eu cofnodi yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, un yn ardal Bwrdd Iechyd Bae Abertawe ac un arall yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Mae nifer yr achosion o'r amrywiolyn newydd sydd wedi eu cofnodi yng Nghymru bellach yn 13. Mae pedwar ohonynt yn gysylltiedig â theithio rhyngwladol.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod disgwyl i nifer yr achosion o Omicron gynyddu.

Yn y cyfamser mae naw o farwolaethau pellach yn gysylltiedig a Covid-19 wedi eu cofnodi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae'n golygu bod 6,476 o farwolaethau wedi eu cofnodi ers dechrau'r pandemig.

Cafodd 2,462 o achosion ychwanegol eu cofnodi hefyd hyd at 09:00 fore Iau, gan ddod a'r cyfanswm i 532,302, yn ôl y dull yma o gofnodi.

Mae'r gyfradd saith diwrnod am bob 100,000 o bobl wedi gostwng ychydig o 507.1 i 504.6.

Mae cyfradd y profion positif wedi gostwng fymryn i 16.8%.

Cyhoeddwyd hefyd bod dros filiwn (1,018,630) o bobl bellach wedi cael pigiad atgyfnerthu yng Nghymru.

O'r achosion newydd i gael eu hadrodd, roedd 191 yn Abertawe, a 180 yn Wrecsam a Chaerdydd.

Ynys Môn bellach sydd â'r gyfradd achosion uchaf ar 840.9 fesul 100,000 o bobl, gyda Gwynedd wedi disgyn o 872.7 i 789.2.

Mae cyfraddau Wrecsam (617.8), a Phen-y-bont ar Ogwr (617.5) hefyd yn uchel.

Mae'r gyfradd isaf yng Ngheredigion (293).

Mae 2,276,428 o bobl wedi cael dau ddos o frechlyn erbyn hyn.

Pynciau cysylltiedig