Cyngor i wisgo mygydau yn yr ystafell ddosbarth

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Disgyblion Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy fu'n rhannu eu barn am y rheolau newydd ar fygydau

Bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn i bawb wisgo mygydau mewn dosbarthiadau ysgol uwchradd, colegau a phrifysgolion ac ardaloedd cymunedol.

Mewn cyfweliad ar radio LBC, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford mai nawr yw'r amser i gyflwyno mesurau diogelwch pellach mewn ysgolion.

"Mae yna dair wythnos yn weddill o'r tymor ac mae'n ddyletswydd arnom i gadw'r plant a staff yn ddiogel," meddai.

Dywedodd hefyd bod gweinidogion yn parhau i drafod yr awgrym o gau ysgolion yn gynt dros y Nadolig - mae'r trafodaethau hynny yn cael eu cynnal gydag undebau ac awdurdodau lleol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Nos Lun dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles: "Mae ymddangosiad yr amrywiad newydd hwn yn ddatblygiad difrifol yn y pandemig parhaus.

"Rydym eisoes wedi cymryd camau cyflym ar deithio rhyngwladol, ochr yn ochr â llywodraethau eraill y DU.

"Rydym nawr yn cyflwyno mesur ychwanegol, tra ein bod ni yn dod i ddeall mwy am y straen newydd hwn.

"Dylai holl staff a dysgwyr yn ein hysgolion uwchradd, colegau a phrifysgolion nawr wisgo gorchuddion wyneb dan do lle nad oes modd cynnal pellter corfforol.

"Mae nifer o leoliadau eisoes yn gweithredu ar y sail hwn, wedi llywio gan eu hasesiadau risg, ond bydd hwn nawr drefniant cenedlaethol.

"Mesur rhagofalus dros dro yw hwn a fydd ar waith ar gyfer yr wythnosau o'r tymor sy'n weddill ac ar yr adeg honno bydd y sefyllfa'n cael ei hadolygu. Dylai hyn ddod i rym ym mhob lleoliad cyn gynted â phosibl."

'Synhwyrol'

Wrth ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts (Sir y Fflint), Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Dwi'n croesawu penderfyniad y Gweinidog heddiw i ail-gyflwyno gorchuddion wyneb mewn ysgolion uwchradd.

"Mae'n ymateb synhwyrol a chymesur i'r sefyllfa pryderus sy'n datblygu, ac yn cael ei wneud er lles disgyblion a'r holl staff."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

'Fe ddylai Nadolig eleni fod yn well,' meddai'r Prif Weinidog ond rhaid bod yn ofalus

Mae angen i bobl fod yn ofalus wrth wneud eu cynlluniau Nadolig eleni, ychwanegodd y Prif Weinidog.

Daw sylwadau Mr Drakeford yn sgil pryderon am yr amrywiolyn newydd o coronafeirws - Omicron.

Dywedodd hefyd bod tîm brechu Cymru yn bwrw ymlaen â chynlluniau i roi brechlyn atgyfnerthu i bob oedolyn dri mis wedi iddyn nhw gael yr ail ddos.

'Nadolig yn well eleni'

Yn gynharach fe ddywedodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) y dylai brechlynnau atgyfnerthu gael eu cynnig i bawb dros 18 er mwyn atal ton newydd o achosion yn sgil Omicron.

"Mae mwy o waith i'w wneud, wrth gwrs, gyda'n partneriaid yn y byrddau iechyd lleol ond ry'n am symud ymlaen cyn gynted â phosib," dywedodd Mr Drakeford wrth y BBC yn gynharach.

Ychwanegodd: "Rhaid i bobl baratoi at y Nadolig yn y modd ry'n wedi'u cynghori gydol yr amser.

"Fe ddylai Nadolig fod yn wahanol eleni. Fe ddylai Nadolig fod yn well eleni.

"Ond dyw hynna ddim yn golygu y dylai pobl ddiystyru y pethau syml yna sy'n ein diogelu ni ac eraill.

"Meddyliwch am bobl fregus - os oes pobl yn eich teulu yn debygol o ddioddef o coronafeirws - ystyriwch yn ofalus a ydych yn ymweld â nhw ac yn eu cynnwys yn eich cynlluniau.

"Gwnewch brawf llif unffordd os ydych yn mynd i rywle all fod yn risg i chi ac eraill a gwisgwch fwgwd mewn llefydd poblog cyhoeddus."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae naw achos o amrywiolyn Omicron wedi eu cadarnhau yn y DU

Dywed Mr Drakeford nad oes cynlluniau ar hyn o bryd i gau busnesau - er bod llythyr wedi cael ei anfon i'r Trysorlys yn gofyn am gymorth petai Llywodraeth Cymru yn dewis cymryd mesurau pellach.

"Pwynt y llythyr yw sicrhau na fydd Llywodraeth y DU yn gwneud yr hyn a wnaethont llynedd.

"Pan ro'n i angen help, fe ddywedodd y Trysorlys 'na dyw hynna ddim yn bosib'.

"Ond bythefnos wedyn pan roedd pethau wedi newid yn Lloegr fe ddywedon nhw 'iawn', doedd hynna ddim yn deg i neb a dyna ddiben y llythyr," ychwanegodd.

Mae argymhellion newydd y JCVI yn nodi hefyd y dylid cwtogi'r bwlch rhwng cael yr ail frechlyn a'r brechlyn atgyfnerthu i dri mis.

Nodwyd yn ogystal y dylai plant oed 12 i 15 gael eu gwahodd am ail ddos dri mis wedi cael y cyntaf.

Dywedodd yr Athro Wei Shen Lim, cadeirydd y JCVI, nad yw'n rhagweld y bydd yr amrywiolyn newydd yn gafael yn y DU ond bod arbenigwyr eisiau bod yn y lle gorau posib petai mwy o achosion.

Mae'r JCVI yn rhoi cyngor i weinidogion ar draws y DU ond gwleidyddion sy'n dewis gweithredu'r argymhellion ai peidio.