Cymorth llywodraeth yn 'ofnadwy' i dîm rygbi sy'n sownd
- Cyhoeddwyd
Mae Rygbi Caerdydd wedi cyhuddo'r llywodraeth o ddangos "empathi a chefnogaeth ofnadwy" ers i'r tîm fod yn sownd yn Ne Affrica yn dilyn newidiadau i reolau Covid-19.
Mae Rygbi Caerdydd a'r Scarlets wedi bod yn ceisio dychwelyd adref ers dydd Gwener, ar ôl i Dde Affrica gael ei rhoi ar 'restr goch' y DU.
Roedd hynny'n golygu bod rhaid hunan-ynysu mewn gwesty arbennig, ond nid oes cyfleuster o'i fath yng Nghymru ar hyn o bryd.
Dywedodd y gweinidog iechyd ddydd Mawrth nad oedd modd cael unrhyw eithriadau i'r rheolau.
Dywedodd y rhanbarth nos Fawrth y byddan nhw'n dychwelyd i'r DU fore Iau, wedi iddyn nhw lwyddo i logi awyren a sicrhau lle mewn gwesty cwarantin yn Lloegr.
Fe fydd yn rhaid iddyn nhw yna dreulio 10 diwrnod yn y gwesty cyn dychwelyd i Gymru.
Ychwanegodd y clwb eu bod yn diolch i'r Bencampwriaeth Rygbi Unedig, Undeb Rygbi Cymru ac asiantaethau llywodraeth De Affrica am eu cymorth.
'Addewidion gwag'
Dywedodd prif swyddog gweithredol Rygbi Caerdydd, Rhys Blumberg, bod y gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn "ofnadwy".
Ychwanegodd pennaeth perfformiad y rhanbarth, Trystan Bevan, bod yr ymateb yn "siomedig".
Dywedodd Mr Bevan, sydd yn Ne Affrica, bod addewidion "gwag" y gweinidog iechyd, "yn anffodus o'r un math a'r rhethreg wag y mae Llywodraeth Cymru mor barod i'w wrthod am fod yn San Steffan-aidd".
Mae'n rhaid i unrhyw deithwyr sy'n cyrraedd o wlad 'goch' dreulio 10 diwrnod o gwarantin mewn gwesty, yn hytrach nag adref, yn sgil pryderon am yr amrywiolyn Omicron.
Mae'r Scarlets bellach wedi teithio i Belffast, ble mae'r garfan yn hunan-ynysu.
Yn dilyn dau achos positif Covid o fewn carfan Caerdydd, doedd y tîm ddim wedi gallu teithio ar yr un hediad â'r Scarlets fel y bwriad.
Mae'r rhanbarth yn dal i geisio sicrhau llwybr allan o Dde Affrica, ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oes lle iddyn nhw gwblhau eu cwarantin yng Nghymru.
Dim eithriad
Yn ystod y gynhadledd ddiweddaraf ddydd Mawrth, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, "na fydd eithriad" i reolau hunan-ynysu.
"Ry'n ni am i'r bechgyn ddychwelyd adref ond fe fydd rhaid i'r amodau fod yr un fath â phawb arall. Fyddan nhw ddim yn eithriad," meddai.
"Fe fydd yn rhaid iddyn nhw hunan-ynysu ond does dim lle yng Nghymru iddyn nhw wneud hynny.
"Fe fyddai eu trosglwyddo o'r maes awyr i westy yng Nghymru yn cynyddu'r risg ac fe fyddai gofyn i westy yng Nghymru ddod yn westy hunan-ynysu cyn y Nadolig yn ormod i'w ofyn."
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw pellach.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2021