Barnwr yn gorchymyn cau Cinema & Co yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mae sinema a chaffi lle'r oedd y perchennog yn gwrthod gofyn i gwsmeriaid ddangos pàs Covid wedi cael gorchymyn i gau.
Fe wnaeth Cyngor Abertawe roi hysbysiad cau i Cinema & Co. wedi iddynt dorri cyfres o reoliadau coronafeirws.
Ond fe arhosodd y caffi ar agor wedi'r gorchymyn.
Roedd y perchennog Anna Redfern yn gwrthod ufuddhau i orchmynion Covid Llywodraeth Cymru am y credai eu bod yn "annheg" ac yn lladd "y diwydiant adloniant".
Ddydd Mawrth dywedodd y barnwr rhanbarthol, Neale Thomas, ei fod yn rhoi ei sêl bendith i gais y cyngor.
Cafodd Ms Redfern orchymyn i dalu costau cyfreithiol o £5,265 i Gyngor Abertawe.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2021