Perchennog sinema ddim yn y llys am achos pasys Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cinema & Co.
Disgrifiad o’r llun,

Honnir bod Anna Redfern o Cinema & Co. wedi gwrthod cydymffurfio â rheolau Llywodraeth Cymru

Mae perchennog caffi a sinema o Abertawe wedi methu ag ymddangos gerbron llys yn dilyn honiadau ei bod wedi torri rheolau coronafeirws a deddfwriaeth i amddiffyn iechyd cyhoeddus.

Cafodd Anna Redfern, perchennog Cinema and Co. ar Stryd y Castell, orchymyn i gau gan Gyngor Dinas Abertawe ar 18 Tachwedd, ar ôl honiadau ei bod hi wedi gwrthod cydymffurfio gyda rheolau coronafeirws.

Roedd Ms Redfern wedi dweud na fyddai'n barod i ofyn am basys Covid gan gwsmeriaid, er gwaetha'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rheolau newydd.

Cafodd yr achos ei ohirio wrth i'r barnwr ofyn am esboniad o'r angen am orchymyn i gau'r safle.

'Heb gyflwyno mesurau rhesymol'

Mewn cais am orchymyn sifil, mae'r cyngor yn honni nad yw Cinema and Co. wedi cwblhau asesiad risg Covid, ddim wedi rhoi gwybodaeth i staff ar sut i atal lledaeniad y feirws, ddim wedi cyflwyno mesurau rhesymol fel pasys Covid a ddim wedi darparu deunyddiau glanhau digonol i leihau lledaeniad y feirws.

Yn Llys Ynadon Abertawe, dywedodd y Barnwr Rhanbarthol, Neale Thomas, ei fod yn pryderu bod cais y cyngor i gau'r busnes yn cael ei gyflwyno dan adran 45 Deddf Iechyd Cyhoeddus 1984 (Rheoli Heintiau) ac nid o dan ddeddfwriaeth coronafeirws Llywodraeth Cymru.

Yn ôl Mr Thomas, roedd hi'n opsiwn i Lywodraeth Cymru gynnwys pwerau gweithredu yn y ddeddfwriaeth, ond roedd y llywodraeth wedi penderfynu peidio gwneud.

Anna Redfern
Disgrifiad o’r llun,

Gwadodd yr erlynydd honiadau Anna Redfern bod hwn yn ymosodiad ar y diwydiant sinema

Yn ôl yr erlynydd, Lee Reynolds, roedd deddfwriaeth coronafeirws Llywodraeth Cymru yn "gyfyng iawn" ac roedd hi'n ofynnol felly i gyflwyno gorchymyn i gau'r busnes o dan y ddeddf iechyd cyhoeddus.

Fe ofynnodd y barnwr am ddatganiad ysgrifenedig gan y cyngor yn esbonio'r angen am orchymyn i gau'r busnes.

Dywedodd Mr Reynolds, ar ran Cyngor Dinas Abertawe, ei fod yn bryderus am "unrhyw oedi" gyda'r achos yn sgil "cyflwr y lle".

'Sylwadau ymfflamychol a dadleuol'

Dywedodd Mr Reynolds bod Ms Redfern wedi bod yn gwneud "sylwadau ymfflamychol a dadleuol tu hwnt" yn y wasg ac nad oedd ei busnes yn "cydnabod bod y pandemig" yn bodoli.

Gwadodd Mr Reynolds honiadau Ms Redfern bod hwn yn ymosodiad ar y diwydiant sinema.

Fe ddywedodd y barnwr wrth Mr Reynolds ei fod yn awyddus i "gydbwyso'r angen i osgoi oedi, gyda'r angen i ddatrys y materion cyfreithiol".

Fe ohiriwyd yr achos nes 30 Tachwedd.