Ehangu pasys Covid i sinemâu, theatrau a chyngherddau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Popcorn in cinemaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd unrhyw un dros 18 yn gorfod dangos pàs Covid i fynd i sinema neu theatr

Mae'n ofynnol bellach i bob person dros 18 oed ddangos pàs Covid os ydyn nhw am fynd i weld cyngerdd, ffilm mewn sinema neu ddrama mewn theatr.

Fe ddaeth y rheolau newydd i rym ddydd Llun.

Mae pobl sydd yn mynychu clybiau nos neu ddigwyddiadau torfol eisoes yn gorfod dangos eu pasys cyn medru cael mynediad i'r lleoliadau hynny.

Mae'r pàs yn eich galluogi i ddangos i eraill eich bod wedi cael eich brechu, neu eich bod wedi cael canlyniad prawf llif unffordd negatif.

Lle sydd angen pàs?

Fe fydd y pasys yn ofynnol i oedolion dros 18 oed ar gyfer y lleoliadau canlynol:

  • Sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd;

  • Clybiau nos neu leoliadau tebyg;

  • Digwyddiadau dan do ar gyfer mwy na 500 o bobl;

  • Digwyddiadau awyr agored ar gyfer mwy na 4,000 o bobl;

  • Unrhyw ddigwyddiad ar gyfer torf o 10,000 neu fwy.

Disgrifiad,

Steffan Lloyd: 'Sefyllfa anodd i ni fel cwmni theatr'

Yng Nghastell-nedd, mae cwmni Theatr Fach y dre wedi bod yn ymarfer ar gyfer perfformiad o Happiest Days of your Life.

Mae Steffan Lloyd yn chwarae rhan Tassell, ac mae'n bryderus am effaith y cynllun pasys Covid ar aelodau hŷn y gynulleidfa.

"Rwy'n credu bod y cyflymder daethon nhw mewn yn sioc i ni. Doedd dim un ohonom ni yn erbyn y pasys ond roedd y cyflymder yn sioc oherwydd yr holl bethau rhaid sicrhau efo pobl yn cael y pasys," meddai.

"Ni'n theatr sydd yn byw mas o'r gymuned ac felly mae llawer o'r gynulleidfa yn hŷn.

"Dydyn nhw ddim yn gwybod sut i gael Covid pass a hefyd os nad oes ffôn neu gyfrifiadur mae'n rhaid cael pàs papur sydd yn cymryd falle wythnos. Mae'n sefyllfa anodd i ni fel cwmni theatr."

Gall unrhyw un sydd yn 16 oed neu'n hŷn cael pàs Covid os ydyn nhw wedi cael eu brechu yn llawn neu wedi cael prawf llif unffordd negyddol yn ystod y 48 awr flaenorol.

Fe bleidleisiodd 39 aelod o'r senedd o blaid ymestyn y cynllun, gyda 15 yn erbyn. Fe bleidleisiodd y Ceidwadwyr Cymreig a'r Democrat Rhyddfrydol Jane Dodds yn erbyn y cynllun.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r pasys Covid ar gael yn ddigidol ond mae'n rhaid cofrestru yn gyntaf ar wefan y Gwasanaeth Iechyd, dolen allanol.

Fe fydd disgwyl i chi uwchlwytho llun o gerdyn adnabod perthnasol (trwydded yrru neu basport).

Bydd hynny yn caniatáu i chi greu pàs Covid gyda chymorth ffôn clyfar neu gyfrifiadur. Mae'r pàs Covid yn cynnwys côd bar ac yn medru para am 30 diwrnod, cyn bod angen ei adnewyddu ar-lein.

Os nad oes gennych chi gerdyn adnabod ffotograffig, yna mae modd gwneud cais am bàs Covid papur.

Fe fydd cynghorau yn cadw golwg ar fusnesau i wirio eu bod nhw'n cadw at y rheolau.

Mae yna beth pryder y gallai'r rheolau gael eu hymestyn i dafarndai a bwytai, ar drothwy cyfnod prysur y Nadolig.

Mae prif weithredwr Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Cymru, Emma McClarking, wedi dweud y byddai hynny yn "destun pryder" i'r byd lletygarwch.

'Pàs yn un peth arall'

Mae'r cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol, Dafydd Jones, yn rhedeg tafarn y Butchers Arms yn Llanddarog gyda'i deulu.

"Mae hi wedi bod yn amser anodd, cyfnod anodd i bawb ac i ni fel busnes," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Byddai gorfod dangos pàs Covid yn un her arall i'r diwydiant lletygarwch, medd Dafydd Jones

"Bydde hyn yn un peth arall, un her arall bydde rhaid i ni ddod drosto. Bydde fe'n anodd. Bydde fe'n cymryd amser a falle bydde dim modd cymryd gymaint o bobl mewn i'r bwyty.

"Yn amlwg bydde fe'n fwy o waith, ond dewn ni ben ac ymdopi mae'n siŵr. Oes rhaid cael e? Sai'n siŵr. Ni'n cymryd gofal fan hyn, ac i ni'n neud fel ni'n gallu i wneud yn siŵr fod pawb yn saff."

Ymestyn yn bellach?

Wrth siarad ar Radio Wales fore Llun dywedodd y dirprwy weinidog ar gyfer y celfyddydau a chwaraeon, Dawn Bowden, nad oedd penderfyniad wedi cael ei wneud eto ar yr angen i gael pàs Covid i fynd i dafarndai.

Ond dywedodd bod gweinidogion yn ystyried y syniad: "Does dim penderfyniad hyd yma.

"Mae'r adolygiad tair wythnosol ar fin digwydd ond mae'r sector lletygarwch yn gwybod bod hyn yn cael ei ystyried.

"Ry'n ni'n cynnal trafodaethau gyda'r diwydiant lletygarwch petai'r llywodraeth yn dod i'r penderfyniad hwnnw. Ond dyw'r penderfyniad ddim eto wedi cael ei wneud.

"Fe fydd yn ddibynnol ar sefyllfa'r feirws, ei drosglwyddiad a'r nifer o bobl sydd mewn ysbytai."

'Pasys yw'r peth olaf sydd angen'

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar y llywodraeth i ymrwymo i beidio ymestyn pasys i unrhyw leoliadau pellach.

Dywedodd llefarydd y blaid ar yr economi, Paul Davies AS, bod tafarndai a bwytai wedi teimlo effaith y pandemig yn arbennig, ac mai'r "peth olaf sydd angen nawr yw'r bygythiad o ddelio gyda phasys Covid".

"Nid yn unig does dim tystiolaeth bod y pasys yma'n atal lledaeniad y feirws, ond byddan nhw'n niweidio ein hadferiad economaidd ar gyfnod pan ddylem fod yn gwneud popeth yn ein gallu i'w helpu."