Cwestiynu'r angen i lorio cymaint o goed llarwydd

  • Cyhoeddwyd
Coed ar lethrau Moel FamauFfynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Coed llarwydd ar lethrau Moel Famau

Bydd 26 hectar o goed llarwydd yn cael eu torri yn Sir Ddinbych i arafu ymlediad clefyd.

Mae'r planhigion ar lethrau Moel Famau wedi eu heintio â phytophthora ramorum, sy'n debygol o'u lladd yn y pendraw.

Yn ôl Nick Thomas o Gyfoeth Naturiol Cymru, mae deilio â'r haint yma yn "her fawr".

Ond mae gwyddonydd yn codi cwestiynau am yr angen i lorio cymaint o goed.

Nid dyma'r ardal gyntaf o bell ffordd i gael ei heffeithio gan y clwy, ond mae'n arwydd o'i ledaeniad tua'r gogledd a'r dwyrain.

Mae gan Lywodraeth Cymru strategaeth genedlaethol i fynd i'r afael â'r sefyllfa, ac yn gynharach eleni, ailagorwyd Coedwig Cwmcarn yn Sir Caerffili wedi chwe blynedd o waith difa coed.

Disgrifiad o’r llun,

Rhaid torri'r coed i arafu ymlediad haint sy'n eu lladd, medd Nick Thomas o Gyfoeth Naturiol Cymru

Gan gydnabod yr "her fawr" o arafu ymlediad yr haint, dywedodd Mr Thomas bod rhaid torri'r goedwig ar Foel Famau.

"Mae'n fater o drio arafu llediad yr afiechyd, yn anffodus," meddai. "Rhywbryd bydd yn rhaid eu cwympo nhw, oherwydd maen nhw'n mynd i farw.

"Mae'r coed yn weddol hen yn barod, a dydyn nhw ddim yn bell o fod yn barod i gael eu cwympo beth bynnag - a dyna pam maen nhw wedi cael eu plannu yn y lle cyntaf."

Bydd y 4,500 tunnell o goed o lethrau'r mynydd yn cael eu gwerthu a'u prosesu, a'r pren yn cael ei droi'n ddeunydd adeiladu a thanwydd.

Yn ôl yr Athro Gareth Griffith, mycolegydd o Brifysgol Aberystwyth, mae rheswm da dros dorri'r coed aeddfed, ond llai o gyfiawnhad yn achos coed iau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl opsiwn amgen, yn ôl Yr Athro Gareth Griffith

"Os ydyn nhw'n rhy fach i'w gwerthu nhw, mae 'na achos i'w gadael nhw yn eu lle," meddai.

"Os ydych chi'n eu lladd nhw efo chwynladdwr… mae modd wedyn eu bod nhw'n marw ar y sbot, a storio carbon am sbel a chreu cynefin newydd a defnyddiol i fywyd gwyllt."

Dywedodd yr Athro Griffith bod angen ystyried hefyd ai ailblannu coed yw'r ffordd orau o gadw carbon yn yr ucheldiroedd.

"Mae'n anodd ond mae angen ffactora'r agweddau newydd 'ma o gadw carbon yn y pridd neu mewn llystyfiant, ac erydiad pridd a phethau fel 'na," meddai.

"Dwi'n meddwl bod angen i ni feddwl am be' 'dan ni'n ei wneud efo'r tir, yn enwedig y tir sydd wedi ei goedwigo'n barod."

Ffynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru

Bwriad Cyfoeth Naturiol Cymru ydy plannu rhagor o goed gwahanol ar lethrau Moel Famau, gyda'r rhan fwyaf wedi eu clustnodi ar gyfer cynhyrchu pren yn y pen draw.

Bydd y gwaith yn dechrau ym mis Ionawr 2022 ac yn gorffen tua diwedd mis Mawrth 2022.

Mae disgwyl y bydd ffyrdd cyfagos a llwybrau ar gau am gyfnod tra bydd hynny'n digwydd.

Yn y cyfamser, bydd swyddogion yn bresennol ym maes parcio Moel Famau ar 5 a 6 Rhagfyr i ateb cwestiynau am y gwaith.

Pynciau cysylltiedig