Ystyried cyfyngiadau wedi anhrefn parcio ger Moel Famau

  • Cyhoeddwyd
Anhrefn parcio Moel Famau
Disgrifiad o’r llun,

Rhesi o geir ger Moel Famau fis Gorffennaf 2020, ar ôl codi rheolau teithio Covid-19

Gallai cyfyngiadau parcio gael eu gosod i ddelio â thagfeydd ger cyrchfan boblogaidd yn Sir Ddinbych.

Dan gynlluniau newydd, fe fyddai llinellau melyn dwbl ar hyd 3.1km (dwy filltir) o'r ffordd ger Moel Famau.

Mae'r safle'n denu 300,000 o ymwelwyr y flwyddyn, ac roedd problemau traffig "annerbyniol" yno wedi codi rheolau teithio Covid-19 yn ystod haf 2020.

Yn ôl swyddogion, creodd hynny sefyllfa "anodd ei rheoli" oedd yn rhwystro mynediad i drigolion lleol a'r gwasanaeth brys.

'Anodd i bobl leol fynd i'w tai'

Gyda mwy yn mynd ar wyliau'n nes at adref, mae awdurdodau mewn ardaloedd twristaidd yng Nghymru wedi gorfod newid trefniadau parcio.

Ym Mhen-y-Pass ar droed yr Wyddfa, mae'n rhaid archebu lle parcio o flaen llaw bellach - ac mae ceir sydd wedi'u "parcio'n beryglus" wedi cael eu symud.

Disgrifiad o’r llun,

Disgrifiodd Ceri Lloyd y sefyllfa "anodd iawn i'w rheoli" ger Moel Famau

Mae Ceri Lloyd o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn credu ei bod hi'n "bwysig iawn" ystyried newidiadau ym Moel Famau hefyd.

"Pan mae hi'n brysur, mae hi'n gallu bod yn brysur iawn, iawn - ac yn sefyllfa wael iawn sy'n anodd iawn i'w rheoli," meddai.

Dywedodd bod "ceir ar hyd y ffyrdd" gan ei gwneud hi'n "anodd iawn i bobl leol yn enwedig, sydd efallai methu mynd i'w tai".

"Mae hynny'n annerbyniol i ni fel awdurdod."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r safle'n denu 300,000 o ymwelwyr y flwyddyn

Byddai'r cynllun yn golygu gosod llinellau melyn dwbl am 3.1 km (2 filltir) ar hyd ffordd Bwlch Pen Barras - lleoliad meysydd parcio Moel Famau - i gyfeiriad pentref Tafarn y Gelyn.

Ymhlith y mesurau eraill mae Cyngor Sir Ddinbych a'r AHNE wedi eu cymryd i leddfu'r broblem mae creu 50 o lefydd parcio newydd.

"Be' welon ni ydy fod 'na lawer o bobl yn parcio ar y ffordd pan doedd dim rhaid iddyn nhw, felly efallai bod ganddyn nhw ddim arian i'r peiriant tocynnau," meddai Ms Lloyd.

"Roedden nhw wedyn yn gosod patrwm i'r ceir eraill tu ôl iddyn nhw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae 50 o lefydd parcio newydd eisoes wedi cael eu creu i leddfu'r broblem

"Bellach 'dan ni wedi gosod peiriannau tocynnau newydd digyffwrdd, ddylai helpu'r sefyllfa, ac mae'r llefydd parcio ychwanegol 'dan ni wedi eu cyflwyno'n barod yn ddigonol i nifer yr ymwelwyr.

"Dylai'r llefydd ychwanegol y byddwn yn eu darparu hefyd helpu os bydd mwy o ymwelwyr yn dod."

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn ymgynghori gyda'r cyhoedd am y cynlluniau, yn dilyn trafodaethau blaenorol gyda'r heddlu a chynghorwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran yr awdurdod lleol: "Mae'r ymgynghoriad bellach wedi gorffen a byddwn yn adolygu ymatebion y cyhoedd gydag aelodau etholedig lleol a Heddlu Gogledd Cymru cyn cymryd unrhyw gamau pellach."

Pynciau cysylltiedig