Storm Arwen yn llorio dros 50 o goed prin Gerddi Bodnant
- Cyhoeddwyd

Syrthiodd y coed yn ardal Y Glyn y gerddi bydenwog
Mae gwaith clirio ar droed yn un o erddi mwyaf adnabyddus Cymru wedi i dros 50 o goed prin hynafol gael eu llorio yn ystod Storm Arwen.
Syrthiodd y coed yng Ngerddi Bodnant, yn Nyffryn Conwy wedi gwyntoedd cryfion dros wythnos yn ôl.
Roedd y coed yn cynnwys cochwydden 140 oed a llarwydden brin.
Dywedodd rheolwr cyffredinol y gerddi, John Walker: "Hwn, mwyaf tebyg, oedd y storm waethaf yn y 25 mlynedd diwethaf."
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy'n gyfrifol am y gerddi, yn amcangyfrif y bydd y difrod yn costio miloedd o bunnoedd.

Mae'r coed yn cael eu torri'n ddarnau llai er mwyn eu symud o'r Glyn
Wrth syrthio, fe achosodd y coed niwed sylweddol i nifer o lwyni a phlanhigion eraill, yn bennaf yn ardal Y Glyn, sef rhan isaf y gerddi.
Dim ond pum mlynedd yn ôl y cafodd rhannau o'r ardal dan sylw eu hagor i'r cyhoedd am y tro cyntaf erioed.
"Roeddan ni mewn sioc o weld y difrod pan ddaethon ni yma ddydd Sadwrn," meddai Mr Walker.
"Mae'n wir peri gofid ac mae'n mynd i gymryd amser i'w hailosod, creu cynllun, ond dydan ni byth yn mynd i gael y coed yma yn ôl."
Y gred yw bod rhwng 50 a 70 o goed wedi eu llorio yn ystod Storm Arwen.

Fe allith hi gostio miloedd o bunnoedd i symud coed ac adfer y gerddi
Gan fod y difrod wedi ei gyfyngu i ran benodol o'r safle, mae'r gerddi'n parhau ar agor i ymwelwyr ac fe fydd yn bosib iddyn nhw weld rhywfaint o'r niwed wrth fynd heibio.
Mae'r prif arddwr dros dro, Adam Salvin a'i gydweithwyr nawr yn dechrau clirio'r coed a gwympodd cyn asesu maint y difrod i'r gerddi.
"Roedd llawer o bethau newydd gael eu plannu pan wnaethon ni adfer yr ardal yma tua phum mlynedd yn ôl," meddai.
"Rhaid mynd trwy'r safle a gweld beth sydd ar ôl a beth sy'n bwysig - bydd yn waith trwyadl iawn."

Rhaid mynd trwy'r safle'n drylwyr, medd Adam Salvin
Mae casgliad Gerddi Bodnant o rododendronau a magnolias yn adnabyddus ac mae pryder bod nifer wedi eu colli o ganlyniad i goed mor fawr gwympo ar eu pennau.
"Mae tîm Y Glyn wedi treulio blynyddoedd yn adfer yr ardal yma ac mae'n ofidus iddyn nhw weld hyn," medd Mr Salvin.

Mae disgwyl i'r gwaith clirio gymryd misoedd lawer
Dywedodd bod holl aelodau'r tîm, sy'n cynnwys 25 o arddwyr, wedi treulio'r wythnos hon yn dechrau clirio a diogelu'r mannau lle mae difrod a bydd gwirfoddolwyr yn ymuno â'r gwaith wythnos nesaf.
Mae disgwyl i'r gwaith gymryd sawl mis.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2014