Gerddi cudd yn agor

  • Cyhoeddwyd
Gerddi BodnantFfynhonnell y llun, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Doedd y cyhoedd heb weld y gerddi ers dros ganrif

Mae rhan guddiedig Gerddi Bodnant ger Conwy wedi agor am y tro cyntaf yn ei hanes.

Agorodd y gerddi Himalaiaidd ddydd Sadwrn.

Wedi'i henwi ar ôl y coed ywen sy'n tyfu yno mae Pant yr Ywen yn goedlan sy'n llawn rhododendron hynafol prin gyda nant yn rhedeg trwyddi sy'n atgoffa rhywun o lannerch yn yr Himalaia.

Mae'r penwythnos agoriadol wedi nodi camau cyntaf y prosiect adnewyddu.

Fe gafodd y goedlan 3.5 erw ei sefydlu yn yr 1870au gan grëwr Gerddi Bodnant, Henry Pochin.

Roedd yntau wedi cael ei ysbrydoli gan y cynllunydd Fictorianaidd William Robinson oedd yn argymhell cymysgu planhigion brodorol a rhai egsotig oedd yn addas ar gyfer math arbennig o hinsawdd a thirwedd.

Tirwedd arw

Mi roedd poblogrwydd y syniad hwn, ynghyd â chymysgedd o blanhigion a gasglwyd o dramor, wedi arwain at greu coedlannau tebyg i'r rheiny ym Modnant, sy'n cyfuno coed a phlanhigion o wledydd pell.

Mae tirwedd arw Eryri wedi profi'n addas ar gyfer nifer o blanhigion Asiaidd, yn arbennig rhai o ardal yr Himalaia fel y rhodondendron.

Erbyn hyn, mae Pant yr Ywen yn gartref nifer o goed rhododendron sydd wedi cael eu tyfu o hadau gan yr helwyr hadau George Forrest a Frank Kingdon-Ward yn ystod eu teithiau i Asia yn nechrau'r 1900au.

Dim ond ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae garddwyr wedi bod yn chwynnu, yn torri mieri ac yn adnewyddu'r llwybrau ac ati.

Mae dros 160,000 o bobl yn ymweld â Gerddi Bodnant bob blwyddyn.