Carcharu dyn dorrodd i mewn i dai i ymosod ar ddwy ddynes

  • Cyhoeddwyd
Anthony WilliamsFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Mae dyn wedi ei ddedfrydu i 12 mlynedd yn y carchar am geisio treisio dwy ddynes yn eu cartrefi.

Fe wnaeth Anthony Williams, 32, ddringo trwy ffenest un fenyw yng Nghaerdydd wrth iddi gysgu a cheisio ei threisio.

Yna fe wnaeth ymosod ar ddynes arall yn ei chartref ychydig oriau yn ddiweddarach.

Dywedodd un o'r dioddefwyr wrth Lys y Goron Casnewydd ei bod hi'n cael ôl-fflachiau parhaus i'r digwyddiad.

Dywedodd y Barnwr Daniel Williams fod y diffynnydd yn berygl difrifol i fenywod.

Ymosod tra bod eraill yn y tŷ

Dywedodd un o'r dioddefwyr ei bod hi bellach yn teimlo'n fwy diogel mewn mannau cyhoeddus na'i chartref.

Fe wnaeth Williams dorri mewn i dŷ un fenyw tra'r oedd hi'n cysgu, ymosod arni'n rhywiol a cheisio'i threisio.

Gwaeddodd y ddynes am ei gŵr, oedd yn y tŷ ar y pryd, a llwyddodd i gael Williams oddi arni.

Yna fe wnaeth Williams ddwyn £60 a mynd allan i'r stryd ble cafodd ei weld gan gymdogion.

O fewn ychydig oriau fe dorrodd Williams i gartref arall a gwthio dynes i'w soffa, cyn rhedeg o'r cartref pan waeddodd hi am ei gŵr.

Clywodd y llys fod plant y ddynes hefyd yn y tŷ.

'Digwyddiadau brawychus'

Dywedodd Kelly Huggins o Wasanaeth Erlyn y Goron: "Mae'n rhaid bod rhain wedi bod yn ddigwyddiadau brawychus i'r dioddefwyr.

"Mae pawb yn haeddu teimlo'n ddiogel yn eu cartref nhw eu hunain."

Clywodd y llys bod Williams wedi cael trafferth gyda'i iechyd meddwl a cham-ddefnyddio sylweddau.

Cafwyd Williams yn euog o ddau gyhuddiad o geisio treisio, dau gyhuddiad o ymosodiad rhyw, a chyhuddiadau o fyrgleriaeth a lladrad.

Bydd yn y carchar am 12 mlynedd gyda chwe blynedd arall ar drwydded, ac yn aros ar y gofrestr troseddwyr rhyw yn ddiderfyn.

Pynciau cysylltiedig