Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Glasgow 33-14 Dreigiau
- Cyhoeddwyd

Sgoriodd Jack Dempsey drydydd cais Glasgow Warriors yn erbyn y Dreigiau nos Sadwrn
Symudodd Glasgow i fyny i'r pumed safle ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig gyda buddugoliaeth a phwynt bonws yn erbyn y Dreigiau.
Croesodd Sione Tuipulotu, Kyle Steyn a Jack Dempsey wrth i'r Warriors fynd 19-0 ar y blaen hanner amser.
Sicrhaodd cais Ali Price y pwynt bonws a chafodd Jonny Matthews bumed cais y tîm cartref.
Fe sgoriodd Ellis Shipp a Mesake Doge geisiau cysur i'r Dreigiau yn hwyr yn yr ail hanner.
Mae tîm Dean Ryan yn 13eg yn y gynghrair.