Mwy a mwy yn troi at elusen 'oherwydd prinder gofalwyr'
- Cyhoeddwyd
Dywed elusen yng Ngheredigion eu bod wedi gweld cynnydd yn y nifer sy'n cael eu cyfeirio atyn nhw am help oherwydd prinder gofalwyr yn y gymuned.
Gwirfoddolwyr sy'n arwain elusen HAHAV yn Aberystwyth, gafodd ei sefydlu yn 2015.
Maen nhw'n gweithio gyda chleifion â salwch sy'n cyfyngu ar fywyd, a'u gofalwyr.
Dywed yr elusen fod pwysau sy'n wynebu'r GIG a phrinder gofalwyr yn golygu bod mwy a mwy o bobl yn troi atyn nhw am help.
Maen nhw'n apelio am wirfoddolwyr i helpu gyda'u gwasanaeth cwmnïaeth a chymorth am fod "cynnydd cyson mewn atgyfeiriadau".
Dywedodd Peter Skitt, cyfarwyddwr sirol Bwrdd Iechyd Hywel Dda, fod gwasanaeth gofal lliniarol arbenigol yn cael ei ddarparu yn y sir ar gyfer ysbytai, y gymuned a gofal yn y cartref.
Yn ôl Dr Alan Axford, cadeirydd bwrdd yr ymddiriedolwyr a chyn-gyfarwyddwr meddygol yn Ysbyty Bronglais yn y dref: "Mae galw cynyddol ar gyfer gofalu am gleifion yn eu cartrefi.
"Mae 80% o gleifion sy ag anghenion diwedd oes yn dewis aros yn eu cartrefi eu hunain yn hytrach na mynd i ysbyty.
"Mae hyn yn rhoi baich ar deuluoedd, gofalwyr a'r gymuned, ac felly fe naethon ni sefydlu'r elusen am ein bod ni'n teimlo bod angen gwneud rhywbeth yng Ngheredigion i gefnogi teuluoedd yn yr amgylchiadau yna."
Mae'r elusen bron yn llwyr ddibynnol ar wirfoddolwyr, ac mae Gwen Aaron yn un ohonyn nhw.
Mae hi'n helpu pobl mewn profedigaeth pan fod y gofal lliniarol wedi dod i ben.
"Mae rhai teuluoedd yn ei chael hi yn anodd iawn, iawn, ac maen nhw ishe cymorth i fynd trwy eu galar," meddai.
"Mae rhai pobl mewn galar dwys iawn. Mae pob galar yn anodd iawn, iawn, ond mae rhai pobl wedi eu dal yn sownd ynghanol y galar, a methu symud mas o'r dwnjwn mawr.
"Felly mae angen amynedd mawr bryd hynny, a weithie' ry'ch chi jest yn teimlo eich bod chi yn cadw cwmni iddyn nhw yn eu galar - jest cefnogaeth neu gynhaliaeth yw e.
"Maen nhw jest yn rhannu baich - does dim magic o gwbl i'r peth - ond ar y cyfan ry'ch chi'n gobeithio eich bod chi yn gallu helpu pobl i symud ymlaen."
Un o'r teuluoedd sy'n defnyddio'r ganolfan yn gyson yw Megan Jones Roberts a'i gŵr Peter, sydd ag Alzheimer's.
"Rwy'n dod â fy ngŵr i yma er mwyn cymysgu â phobl sydd â'r un salwch a fe," meddai Ms Roberts.
"Mae'r elfen gymdeithasol yn un fawr iawn, a phwysig, achos ma' cyfle i drafod â phobl yn yr un sefyllfa â chi.
"Ni'n trafod â phobl â'r un amgylchiadau a rhannu syniadau a rhannu be' dwi wedi'i ddysgu yn y 10 mlynedd diwethaf gyda rhai pobl sydd efallai yn dechre' yn y cyflwr nawr - mae'n braf rhannu profiad, er mor anodd yw'r salwch.
"Mae'r heriau yn fawr ar y funud oherwydd yr amgylchiadau gyda Covid, ond trwy ddod fan hyn chi'n anghofio eich bod ar ben eich hunan a ma' hynny'n bwysig iawn."
Fe ddechreuodd Mark Mainwaring ddod i'r caffi dementia er mwyn cael cyfle i gymdeithasu, ac i ganu'r piano i bobl wrth iddyn nhw gael eu te p'nawn.
Mae gan ei wraig Susan barlys ymledol - neu multiple sclerosis.
"Mae'r ganolfan wedi ymestyn tu hwnt i ofal diwedd oes. Rwy'n meddwl bod e'n helpu Susan i gymdeithasu, ac yn helpu fi hefyd," meddai Mr Mainwaring.
"Rwy'n ofalwr llawn amser felly dwi ddim yn cael llawer o gyfle i gymdeithasu fy hunan, a ma' llawer o bobl fan hyn yn yr un sefyllfa, felly ma' hwn yn gyfle bendigedig i gwrdd â phobl a chymdeithasu."
Ar hyn o bryd mae gan HAHAV les am dair blynedd ar adeilad cyn-westy Plas Antaron, ond maen nhw'n gobeithio prynu'r adeilad ac wedi lansio apêl i godi £500,000 ymhen blwyddyn.
Yn ôl un o reolwyr yr elusen, James Dunbar, mae hyn brosiect pwysig.
"Mae'r pwyslais fan hyn ar godi ysbryd pobl yn eu blynydde' olaf, yn hytrach na'u hwythnosau olaf," meddai.
"Ry'n ni hefyd yn dod â phobl at ei gilydd er mwyn cynnig cefnogaeth. Ry'n ni'n ddibynnol iawn ar ein gwirfoddolwyr, a 'chydig iawn ohonom ni sy'n staff llawn amser.
"Ry'n ni wedi gweld cynnydd cyson yn nifer y gwirfoddolwyr ond mae wastad angen mwy, ac mae yna gynnydd ar hyn o bryd mewn galw am y gwasanaeth ry'n ni'n ei gynnig oherwydd bod prinder gofalwyr yn y gymuned."
Wrth apelio am wirfoddolwyr mae'r elusen yn dweud fod pobl sydd eisoes yn helpu gyda'r gwaith yn gweld y profiad fel un pwysig a buddiol.
Un o'r rheiny yw Jenny Ward, sy'n gwirfoddoli yn y gegin wrth bobi teisennau a thorri brechdanau ar gyfer y caffi dementia.
"Rwy'n paratoi bwyd ar gyfer y caffi ac yna yn mwynhau dod yma ac eistedd i siarad â'r bobl sy'n dod yma am baned a sgwrs," meddai.
"Mae gwirfoddoli fan hyn yn un o'r pethe' gorau dwi 'di gwneud - mae pobl mor ddiolchgar.
"Ry'ch chi'n teimlo eich bod chi'n gneud rhywbeth sy'n cael ei werthfawrogi gan bobl.
"Rwy'n teimlo'n wych ar ôl bod yn y caffi ar ddydd Mercher - uchafbwynt fy wythnos heb unrhyw amheuaeth!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2020