Toriadau'n bosib heb ragor o arian, medd hosbisau

  • Cyhoeddwyd
gofal diwedd oes

Mae yna rybudd y bydd rhaid torri rhai o wasanaethau tair hosbis y gogledd oni bai bod bwrdd iechyd y rhanbarth yn cynyddu eu cyfraniad tuag at y costau gofal.

Mae hosbisau Tŷ'r Eos yn Wrecsam, Sant Cyndeyrn yn Llanelwy a Dewi Sant, Llandudno yn dweud eu bod yn derbyn llawer llai o arian cyhoeddus na sefydliadau tebyg yn ne Cymru ac yn Lloegr.

Ond yn ôl Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr mae'n rhaid iddyn nhw ofalu am ofynion ariannol eu gwasanaethau eraill cyn rhoi mwy o arian i'r hosbisau.

Mae'n costio tua £14m y flwyddyn i redeg y tair hosbis, sy'n rhoi gofal diwedd oes i oddeutu 600 o gleifion bob blwyddyn.

Disgrifiad o’r llun,

Gwerthu paneidiau drwy ffenest caffi Hosbis Dewi Sant Llandudno

Mae caffi Hosbis Dewi Sant, Llandudno wedi gorfod addasu oherwydd y cyfyngiadau coronafeirws trwy wasanaethu cwsmeriaid drwy'r ffenest.

Pryder rheolwyr yw y bydd rhaid addasu a chwtogi gwasanaethau eraill hefyd am nad ydyn nhw'n cael gymaint o arian gan fwrdd iechyd y gogledd, o'i gymharu â de Cymru.

"Be 'dan ni'n ofyn am ydy llwyfan deg efo hosbisau er'ill yn y de o ran sut 'dan ni'n ca'l ein harian craidd gan y gwasanaeth iechyd," meddai prif weithredwr yr hosbis, Trystan Pritchard.

"Y gymhariaeth yn fras ydy bo' ni yn y gogledd fel tair hosbis yn derbyn tua hanner be' ma' rhai o'r prif hosbisau fedran ni gymharu efo [nhw] yn y de."

Disgrifiad o’r llun,

Mae hosbisau'n arbed swm "enfawr" i'r GIG, medd Trystan Pritchard

Ychwanegodd: "'Dan ni'n derbyn tua 16% o'n costa' clinigol gan y bwrdd iechyd. Y gweddill - 84% - 'dan ni'n gorfod ffeindio ein hunain o'n cymuneda' ni mewn gwahanol ffyrdd.

"Be 'dan ni'n ofyn am ydy 30%, a gofyn i'r bwrdd iechyd 'neud yn iawn ar eu haddewid nhw i 'neud hynny i ni dros drafodaeth 'da ni 'di ga'l ers tua blwyddyn erbyn hyn.

"Y math o gleifion a'r cymlethdoda' o ran be' ma' nhw'n ddiodde 'dan ni'n derbyn, mae'n debyg y byddan nhw'n cael eu gofalu am mewn gwely mewn prif ysbyty... o gwmpas £500-£600 y noson mewn costa' i'r gwasanaeth iechyd.

"Fan hyn, efo'r holl betha' er'ill ma' nhw'n ga'l o ran y gwasanaetha', ma'r bwrdd iechyd yn cyfrannu £100 y noson. Felly mae 'na fwlch enfawr rhwng y ddau ffigwr yna a'r arbedion 'dan ni'n eu cynnig."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bev Parsons ym mhriodas ei merch, Ella Baxendale

Tair blynedd yn ôl, mi fuodd mam Ella Baxendale o Langefni yn yr hosbis. Roedd gan Bev Parsons diwmor ar yr ymennydd, a bu farw yn 49 oed.

"'Sa chi 'di meddwl bod hi mewn gwesty pum seren - o'dd hi wrth ei bodd yma," meddai Ms Baxendale.

"Fedra' i'm canmol y gofal digon. O'ddan ni'n ca'l cymaint fwy o sylw na fysan ni'n ca'l mewn ysbyty cyffredin.

"Ma'r gwasanaeth iechyd yn ffantastig, 'dan ni'n lwcus iawn i ga'l o yn y wlad yma. Ond ma'r gofal yn fa'ma - mae o jest ar lefel hollol wahanol."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Ella Baxendale i'r hosbis roi gofal "amhrisiadwy" i'w mam

Mae Ms Baxendale cefnogi apêl yr hosbisau am fwy o gyllid gan y bwrdd iechyd. "Dylia fo ddim bod yn ormod o ofyn am driniaeth gyfartal," meddai.

"Pam ddylia rhywun ga'l triniaeth lai jest achos bod nhw'n byw yma yng ngogledd Cymru, yn hytrach nag yn y de? 'Di o ddim yn deg o gwbl."

Blaenoriaethu rhestrau aros

Mewn ymateb i alw'r hosbisau dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fod eu gwasanaethau'n "hynod o bwysig, sy'n rhoi cefnogaeth aruthrol i gleifion, teuluoedd a gofalwyr".

Mae'r bwrdd yn cydnabod yr heriau ariannol mae'r hosbisau'n eu hwynebu, "yn enwedig gyda'r pandemig" ac yn dweud eu bod yn "gweithio i'w cefnogi gymaint â phosib".

Ond mae'n dweud bod angen "cyllid ychwanegol sylweddol" ar gyfer gwasanaethau y mae'r bwrdd yn eu darparu'n uniongyrchol, gan gynnwys "cefnogi ymdrechion i leihau rhestrau aros am driniaethau oherwydd Covid-19".

Ychwanegodd: "Rydym wedi rhoi cynnydd uwch na chwyddiant i'r hosbisau dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac yn ymroddi i gydweithio â nhw i barhau i gynyddu ein cyfraniad yn y dyfodol heb amharu ar ein gwasanaethau GIG craidd."

'Dim dewis ond torri gwasanaethau'

Mewn ymateb i hynny, dywedodd Trystan Pritchard fod rheolwyr hosbisau'n "cydymdeimlo'n llwyr efo sefyllfa'r bwrdd iechyd - ma'r wasgfa yn wir i bawb".

"Be 'dan ni'n trio dangos iddyn nhw - ac wedi rhoi lot fawr o dystiolaeth - ydy'r miliyna' o bunnoedd 'dan ni wedi arbed iddyn nhw drwy'r gwasanaetha' 'dan ni 'di cynnig yn fan hyn," meddai.

"A hefyd i beidio esgeuluso'r flaenoriaeth sydd rhaid i ni roi i bobl sydd yn yr adeg mwya' bregus o'u bywyd, sef ar ddiwedd eu hoes."

Ychwanegodd: "Ma' cyfraniad y bwrdd iechyd mewn terma' real wedi mynd i lawr flwyddyn ar ôl blwyddyn, a 'dan ni 'di gallu cynnal ein gwasanaethau hyd yma.

"Ond mae'n dod i'r pwynt rŵan os nad ydy Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wir yn chwarae'u rhan yn helpu ni i ddarparu'r gwasanaetha' ma', bydd gennym ni ddim dewis ond edrych ar dorri ar y gwasanaetha', yn anffodus."