Gyrwyr bws Arriva i dderbyn cyflog uwch yn dilyn streic
- Cyhoeddwyd
Bydd gyrwyr bysiau Arriva yn derbyn codiad cyflog i £12 yr awr yn dilyn streic diweddar.
Fe bleidleisiodd dros 400 o weithwyr am y newid ar ôl streic pum diwrnod o hyd gan fod gweithwyr yng ngogledd Lloegr yn derbyn cyflog uwch na gyrwyr yng Nghymru.
Cafodd y streic ei ohirio gan fod y cwmni wedi cynnig tâl gwell i'r gweithwyr.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol undeb Unite na fyddai'r undeb yn derbyn "cyfraddau tâl tlodi".
Mae cwmni Bysiau Arriva Cymru wedi dweud eu bod yn "falch" o gynnig y cytundeb yn swyddogol.
Yn ôl undeb Unite, roedd gyrwyr yn Lloegr yn ennill tua £1.80 yr awr yn fwy na gyrwyr yng Nghymru.
Fe aeth tua 400 o weithwyr ar streic ym mis Tachwedd gan effeithio ar ganolfannau'r cwmni yn Amlwch, Bangor, Penarlâg, Llandudno, Y Rhyl a Wrecsam.
Dywedodd Unite y byddai'r streic, oedd i fod i bara pum wythnos, yn parhau tan fod cynnig "derbyniol" o dâl yn cael ei gyflwyno a'i dderbyn gan y gweithlu.
Cafodd y streic ei ohirio ar ôl pum diwrnod ar 18 Tachwedd gan fod Arriva wedi cynnig cynyddu'r cyflog i £12 yr awr.
Dywedodd llefarydd ar ran Bysiau Arriva Cymru: "Rydym yn falch i ddatgan bod ein cynnig cyflog diweddaraf wedi ei dderbyn sy'n golygu y bydd gwasanaethau Arriva yn parhau i weithredu fel yr arfer yng Nghymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2021