Streic gyrwyr Arriva yn 'drychinebus' i deithwyr a busnesau
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 72 oed sydd yn dibynnu ar fysus wedi disgrifio streic gyrwyr Arriva yn y gogledd fel un "trychinebus".
Daw hyn wrth i Arriva ac undeb Unite ailgychwyn trafodaethau ddydd Mawrth er mwyn ceisio datrys yr anghydfod dros gyflog wnaeth arwain at y streic.
Mae Unite yn dweud bod gyrwyr yn ennill tâl uwch yng ngogledd-orllewin Lloegr nag yng ngogledd Cymru.
Yn ôl David Williams, 72, teithwyr sydd yn cael eu heffeithio gan y streic, nid y cwmni.
'Nid pawb sy'n berchen ar gar'
Dywedodd Mr Williams er ei fod yn cydymdeimlo â'r gyrwyr, mae'r streic yn golygu ei fod yn "sownd yn Llandudno, fel llawer o bobl eraill".
"Nid pawb sy'n berchen ar gar neu sy'n gallu fforddio talu am dacsis," meddai.
Dywedodd Mr Williams ei fod wedi defnyddio'r bws trwy gydol ei fywyd, a'i fod bellach yn ei ddefnyddio sawl gwaith yr wythnos er mwyn ymweld â'i ffrindiau, siopa, a chael o le i le.
Roedd tad Mr Williams yn yrrwr bws, ac mae'n dweud ei fod methu deall pam nad ydy gyrwyr y gogledd yn cael eu talu gymaint â gyrwyr yng ngogledd-orllewin Lloegr.
Ond dywedodd mai teithwyr sy'n cael eu heffeithio gan y streic, nid Arriva.
Mae Mr Williams hefyd yn bryderus am yr effaith ar fusnesau cyn y Nadolig.
"Mae pobl yn dod i Landudno er mwyn gwneud eu siopa Nadolig… sut fyddwn nhw'n dod yma os nad oes ganddyn nhw drafnidiaeth eu hunain?"
Streic pum wythnos o hyd
Mae trafodaethau rhwng Unite ac Arriva wedi ailgychwyn ddydd Mawrth.
Dywedodd Unite y byddai'r streic yn parhau tan fod cynnig "derbyniol" o dâl yn cael ei gyflwyno a'i dderbyn gan y gweithlu.
Fe allai'r streic bara am bum wythnos.
Dywedodd swyddog rhanbarthol Unite, Jo Goodchild, eu bod yn "croesawu'r newyddion fod Arriva Cymru wedi cytuno i ailddechrau trafodaethau".
"Rydym ni'n gobeithio bydd y cwmni wedi ystyried eu safbwynt ac y byddant nawr yn cyflwyno cynnig o dâl sydd yn gyfatebol i ddisgwyliadau ein haelodau," meddai.
Yn ôl Unite, mae gyrwyr yng ngogledd-orllewin Lloegr yn ennill tua £1.80 yn fwy yr awr na gyrwyr yng ngogledd Cymru.
'Gwneud yr un gwaith'
Dywedodd Dale Spragg, gyrrwr bws o Fangor sy'n streicio ddydd Mawrth: "Y broblem ydy 'da ni yng Nghymru yn cael llai o dâl na'r rheina sy'n gweithio yn Lerpwl.
"Mae hyn wedi bod yn mynd ymlaen ers dipyn rŵan. 'Da ni wedi cael digon.
"'Da ni isio'r un tâl a rheina sy'n gweithio'n Lerpwl yn gwneud yr un gwaith.
"Does neb yn fa'ma isio streicio ond mae'n rhaid i ni gael Arriva i wrando ar be 'da ni isio."
Pan gafodd y streic ei chyhoeddi dywedodd Arriva eu bod wedi "gweithio'n ddiflino" i'w hosgoi, a'u bod wedi cyflwyno "sawl cynnig gwell" i'r undeb fyddai wedi codi cyflogau i £12 yr awr yn 2022.
Mae'r streic yn effeithio ar ganolfannau'r cwmni yn Amlwch, Bangor, Penarlâg, Llandudno, Y Rhyl a Wrecsam.
'Dim cyfiawnhad' am wahaniaeth tâl
Dywedodd Aelod Plaid Cymru o'r Senedd ar gyfer Gogledd Cymru fod "dim cyfiawnhad" i yrwyr yng Nghymru dderbyn cyn lleied o dâl o'i gymharu â'r rheiny dros y ffin.
Ychwanegodd ei bod yn "gwbl ddealladwy fod gyrwyr bws yn teimlo fel nad oes ganddynt opsiwn arall ond gweithredu".
"Mae'r rhain yn weithwyr allweddol oedd yn cael eu clodfori fel arwyr yn ystod y cyfnod clo.
"Beth am i ni eu trin nhw fel arwyr a rhoi codiad cyflog iawn iddyn nhw a gweithwyr allweddol eraill."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd27 Awst 2021