Gohirio streic gyrwyr bysus Arriva yn y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae streic gyrwyr bysiau Arriva yn y gogledd wedi cael ei gohirio ar ôl i'r cwmni gynnig tâl gwell i'r gweithwyr.
Dywedodd undeb Unite y bydd gyrwyr yn dychwelyd i'w gwaith tra bod pleidlais yn cael ei chynnal ymysg y gweithwyr ynglŷn â sut i ymateb i'r cynnig.
Does dim bysus Arriva wedi bod yn rhedeg mewn rhannau helaeth o'r gogledd ers dydd Sul.
Roedd Unite wedi dweud eu bod yn barod i streicio am bum wythnos.
Mae'r undeb yn dweud bod gyrwyr yn ennill tâl uwch yng ngogledd-orllewin Lloegr nag yng ngogledd Cymru, ac mai hynny sydd wedi arwain at y gweithredu diwydiannol.
Yn ôl Unite, mae gyrwyr dros y ffin yn ennill tua £1.80 yn fwy yr awr na gyrwyr yn y gogledd.
Dywedodd yr undeb ddechrau'r wythnos y byddai'r streic yn parhau tan fod cynnig "derbyniol" o dâl yn cael ei gyflwyno a'i dderbyn gan y gweithlu.
Dywedodd swyddog rhanbarthol Unite, Jo Goodchild brynhawn Iau eu bod yn "gohirio'r gweithredu diwydiannol yn dilyn cynnig tâl gwell gan y cyflogwr".
"Fe fyddwn nawr yn cynnal pleidlais ymysg ein haelodau ynglŷn â'r cynnig newydd."
Pan gafodd y streic ei chyhoeddi dywedodd Arriva eu bod wedi "gweithio'n ddiflino" i'w hosgoi, a'u bod wedi cyflwyno "sawl cynnig gwell" i'r undeb fyddai wedi codi cyflogau i £12 yr awr yn 2022.
Dywedodd y cwmni ddydd Iau y bydd y gwasanaethau yn ailddechrau fore Gwener, ond efallai y bydd oedi yn gynnar yn y bore.
"Mae hyn yn newyddion da i'n cwsmeriaid yng ngogledd Cymru a Chaer ac rydyn ni'n falch bod ein trafodaethau'r wythnos hon wedi gweld y ddwy ochr yn ymrwymo i ganfod ffordd ymlaen fel y gall gwasanaethau ailddechrau," meddai llefarydd.
Roedd y streic yn effeithio ar ganolfannau'r cwmni yn Amlwch, Bangor, Penarlâg, Llandudno, Y Rhyl a Wrecsam.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2021