Copa90: Sut daeth Cymreictod a’r iaith i galon stori pêl-droed Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae digon o sôn wedi bod am lwyddiant pêl-droed Cymru ar y cae, yn enwedig yn ddiweddar ers Ewros 2016 ond oddi ar y cae dewch chi o hyd i stori unigryw arall.
Mae'r cefnogwyr sydd wedi'u hysbrydoli gan eu tîm wedi creu diwylliant arbennig gyda'r iaith Gymraeg yn cael ei hybu.
Mae rhaglen ddogfen Independent Football Nation yn adrodd hanes sut mae dilyn pêl-droed Cymru, yn enwedig ar deithiau oddi cartref, wedi dod yn rhan o hunaniaeth Gymraeg fodern, ddwyieithog.
Y bêl yn dechrau rowlio...
Greg Caine, 28 o Saundersfoot yn wreiddiol ond nawr yn byw yn Lerpwl yw'r cyfarwyddwr.
Cyn Independent Football Nation dim ond un rhaglen ddogfen roedd wedi ei chreu o'r blaen, sef ffilm am dîm rygbi Pont-y-pŵl yn ceisio cael dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru drwy gêm ail gyfle yn erbyn Llanelli.
Pan gyhoeddwyd bod cefnogwyr yn cael mynd i wylio Cymru yn chwarae yn erbyn Y Weriniaeth Tsiec ac Estonia, neidiodd Greg ar y cyfle.
"Trafodais fy syniad gyda rhai o gefnogwyr y genhedlaeth hon am yr iaith ac ati; roedden nhw'n pwysleisio nad ydy e wastad wedi bod fel hyn, mae hyn yn rhywbeth modern iawn.
"Ychydig flynyddoedd yn ôl, mae'n anodd iawn credu eu bod yn pwmpio'r anthem lawr y seinydd oherwydd doedd dim digon o dorf a hefyd gan nad oedd y chwaraewyr yn gwybod y geiriau. Mae'r gymhariaeth yna i'r dorf yn canu'n acapella heddiw yn un enfawr!
"Roedd stori fan hyn, ac es i ati yn syth i gasglu cyfweliadau!"
Ar y pryd doedd Greg heb gael comisiwn i greu'r rhaglen ddogfen, a'i fwriad oedd casglu cyfweliadau a'u rhoi ar ei sianel YouTube.
"Ond pan gyhoeddwyd bod cefnogwyr yn cael mynd oddi cartref, lenwes i daflen gyda fy syniadau am raglen ar wefan Creator Commissions Copa90.
"Sgwennes i draethawd! Doedd dim angen fi ysgrifennu gymaint i ddweud y gwir. Eglurais i bopeth am Gymru oddi cartref, hunaniaeth Gymraeg a'r iaith.
"Ac fe ymatebon nhw nôl yr un diwrnod - 'Ni'n caru'r syniad, ni eisiau hwn ddigwydd'."
Mae Copa90, dolen allanol yn wefan bêl-droed sy'n dathlu popeth i'w wneud â'r diwylliant pêl-droed dros y byd drwy gynnwys fel fideos, erthyglau a newyddion.
"O'r eiliad hynny ymlaen, roedd popeth yn rhuthr gwyllt. Roedd rhaid i ni ffeindio ein ffordd i'r gemau oddi cartref!" meddai.
"Penderfynais i fod rhaid i fi wneud y rhaglen cyn i neb arall ddwyn fy syniad. Doedd e ddim ond yn fater o amser tan fod rhywun yn meddwl bod cyfle i greu'r cynnwys yma.
"Roedd hefyd yn esgus gwych i fi allu mynd ar fy nhrip oddi cartref cyntaf gyda Chymru!"
Chwyldro Pêl-droed Cymru
"Rydw i'n siarad ar ran sawl person pan dwi'n dweud bod newid amlwg wedi bod o fewn pêl-droed Cymru yn ddiweddar. Mae pawb wedi profi'r newid yma yn Stadiwm Dinas Caerdydd, y teimlad bod Cymreictod yn dod yn fwy amlwg wrth adeiladu tuag at gemau ond hefyd yn y gemau eu hun.
"Yn 2017 dechreuodd y dorf ganu'r anthem yn ddigyfeiliant a mwy o ganeuon Cymraeg yn cael eu canu gan y cefnogwyr. Dyma oedd wedi dechrau fy angerdd i wneud y rhaglen ddogfen; y canu a'r Cymreictod.
"Ond pam ddim gwneud y rhaglen yng Nghymru? Y rheswm aethom ni oddi cartref oedd oherwydd mae'n debyg bod yr hunaniaeth Cymraeg wedi cael ei sbarcio oddi cartref gyntaf ac wedyn cael ei gyflwyno mewn gemau cartref. Mae hyn oherwydd dim ond y cefnogwyr die hard sy'n mynd oddi cartref gan amlaf.
"Roedd yn gwneud mwy o synnwyr i fynd allan i Ewrop a gwneud y ddogfen, wrth siarad gyda'r cefnogwyr mwyaf brwd miloedd o filltiroedd i ffwrdd o Gymru.
"Dwi'n credu falle bod yr angerdd yn dangos drwyddo yn fwy tramor oherwydd bod niferoedd yn llai, ond hefyd oherwydd bod pawb ar eu gwyliau ac wedi cael peint!"
Creu darlun Cymreig i weddill y byd
"Er bod yr iaith Gymraeg yn rhan fawr o ddiwylliant pêl-droed Cymru erbyn heddiw, nid dyna'r holl beth," eglura Greg.
"Dyw e ddim fel bod y cefnogwyr yn canu'n Gymraeg am 90 munud cyfan pob gêm. Mae hefyd llwyth o ganeuon Saesneg mae'r cefnogwyr yn eu canu.
"Wrth ffilmio, yr her oedd fod cyfleoedd am fod yn brin pan mae pobl yn dechrau canu yn Gymraeg felly roedd rhaid i ni fod yn barod i ddechrau recordio ar unrhyw eiliad.
"Yn ystod y gemau oedd y darn caletaf. Roedd y gemau yn rhai pwysig felly roedd rhan ohono i eisiau gwylio'r gêm ond hefyd angen ffilmio ymateb y dorf a'r canu.
"Unwaith roeddwn i'n dechrau clywed nodau cyntaf Calon Lân roeddwn i angen cael y camera allan mor gyflym â phosib!"
Ysbrydoliaeth Greg
Mae Greg yn teimlo nad oes digon o gynnwys dwyieithog ar blatfformau cymdeithasol heddiw. Creda na ddylai gael ei ystyried fel rhywbeth sy'n gwanhau cynnwys, ond rhywbeth sy'n ei gryfhau.
"Un ffordd wych o normaleiddio'r iaith i siaradwyr di-Gymraeg yw cynnwys isdeitlau neu eiriau mewn cynnwys Saesneg. Mae'n rhoi mwy o reswm i bobl sydd wedi gadael ysgol a ddim siarad gair o Gymraeg ers hynny i wylio mwy o gynnwys, a, gwell fyth, ei ddeall.
"Doedd Copa90 erioed wedi gwneud rhywbeth fel hyn o'r blaen. Roeddwn i'n amheus iawn ar y cychwyn am gael y caniatâd i ddefnyddio'r iaith. Ond unwaith ddes i 'nabod y bobl o fewn Copa90, y mwya' sylwes i faint oedden nhw eisiau i'r Gymraeg fod yn flaengar yn y rhaglen ddogfen."
Ar y dechrau dim ond un cyfweliad oedd yn Gymraeg ond erbyn diwedd y golygu, roedd sawl cyfweliad yn y Gymraeg ac isdeitlau Cymraeg drwy gydol y rhaglen.
"Mae'n gwneud fi'n falch iawn fy mod i wedi llwyddo i wneud hyn ar un o blatfformau cynnwys mwyaf y byd pêl-droed," meddai Greg.
Mae'r ymateb wedi bod yn wych a dwi mor falch o'r hyn dwi wedi gallu ei gyflawni, ond hefyd y platfform dwi wedi rhoi i'r iaith Gymraeg.
"Mae'r ffaith bod 1.4 miliwn o bobl wedi tanysgrifio i Copa90 ar YouTube yn syfrdanol, dwi'n teimlo bod e mor bwysig bod pobl yn gwybod am y Gymraeg. Mater arall yw dysgu'r iaith. Ond mae cynulleidfa enfawr angen gwybod bod Cymraeg yn bodoli a'i bod yn iaith fyw.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Mae pêl-droed Cymru wedi gwneud yr iaith Gymraeg yn cŵl. Mae'r tîm wedi gwneud e'n hygyrch ac mae e wedi gwneud i bobl eisiau ei dysgu.
"Os oes un person hyd yn oed yn dysgu rhywbeth am hunaniaeth Cymru neu, yn well fyth, rhywun o Gymru yn penderfynu rhoi tro ar ddysgu ychydig eiriau yn Gymraeg ar ôl gwylio fy rhaglen, byddai hynny'n anhygoel!"