Parti Rhif 10: Dyn gollodd ei fam yn 'gynddeiriog'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mr Edwards gyda'i famFfynhonnell y llun, Andrew Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Hazel Davies (chwith), Andrew Edwards a'i chwaer Mel Beckley

Mae dyn o Wrecsam nad oedd yn gallu bod wrth ochr ei fam pan y bu farw ar noson parti Nadolig yn Downing Street wedi dweud ei fod yn "gynddeiriog".

Bu farw mam Andrew Edwards y llynedd pan nad oedd teuluoedd yn cael ymweld â'u hanwyliaid yn yr ysbyty oherwydd rheolau Covid-19.

Roedd yna barti yn Downing Street ar 18 Rhagfyr, gyda ffynhonnell yn dweud wrth y BBC fod "dwsinau" o bobl yno.

Mae'r Prif Weinidog Boris Johnson wedi gorchymyn ymchwiliad i ddarganfod a gafodd rheolau Covid eu torri.

Dywedodd hefyd ei fod wedi cael ei "sicrhau sawl gwaith nad oedd yna barti ac nad oedd unrhyw reolau Covid wedi eu torri".

Fe wnaeth aelod o staff Downing Street oedd yn chwerthin am y parti mewn fideo, Allegra Stratton, ymddiswyddo ddydd Mercher.

"Mae'n rhaid i'r bobl sy'n creu'r gyfraith i ddilyn y gyfraith," oedd ymateb Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford.

"Dyna beth 'yn ni wedi trio neud yma yng Nghymru."

'Annerbyniol ar bob lefel'

Fe wnaeth Andrew Edwards, ymgyrchydd awtistiaeth, brofi "smorgasbord o emosiynau" pan glywodd am y parti.

Digwyddodd y parti pan nad oedd pobl yn cael cwrdd, a phobl ddim y chwaith yn cael gweld eu hanwyliaid yn yr ysbyty.

Disgrifiad o’r llun,

"Nhw sydd yn creu'r rheolau, pam na allen nhw eu dilyn?" meddai Mr Edwards

Bu farw mam a gofalwr Mr Edwards, Hazel Davies, ar noson y parti wedi iddi ddal Covid-19 a chael niwmonia.

Roedd nyrs gofal dwys gyda hi pan fu farw, ond doedd dim hawl gan ei theulu i fod gyda hi

"Mae'n fy nghythruddo. Mae'n annerbyniol ar bob lefel," meddai Mr Edwards.

"Nhw sydd yn creu'r rheolau, pam na allen nhw eu dilyn?

"Yn anffodus, ychydig iawn sydd yn fy synnu am Boris Johnson."

Ffynhonnell y llun, Andrew Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw mam a gofalwr Mr Edwards, Hazel Davies, ar noson y parti wedi iddi ddal Covid-19 a chael niwmonia

Dywedodd Mr Edwards bod fideo yn dangos staff Downing Street yn chwerthin am y parti yn gwneud pethau'n waeth, ond nad yw'n annisgwyl.

"Nid yw'r fideo yn fy synnu i, dydy'r bobl hyn ddim yn deall sut beth yw byw yn y byd go iawn."

Staff yn chwerthin

Mae Mr Johnson wedi dweud y bydd pobl yn cael eu cosbi os gafodd unrhyw rheolau eu torri.

Mae Mr Johnson hefyd wedi ymddiheuro am fideo yn dangos ei staff yn chwerthin am barti Nadolig.

Fe wnaeth yr aelod o staff yn y fideo hwnnw, Allegra Stratton, ymddiswyddo ddydd Mercher.

"Fe fyddaf yn difaru'r sylwadau hynny am weddill fy oes ac rwy'n ymddiheuro'n llawn i chi adref amdanyn nhw," meddai.