'Rheolau Covid yn ddibynnol ar lle mae rhywun yn byw'
- Cyhoeddwyd
Mae'r modd y mae rheolau Covid yn cael eu gweithredu yn gallu bod yn ddibynnol ar lle mae rhywun yn byw, medd un o brif gyfreithwyr Cymru.
Mae deddfwriaeth Covid yn rhoi hawl i Lywodraeth Cymru a chynghorau i orfodi cyfyngiadau.
Yn ôl Michael Imperato mae yna fylchau wedi digwydd wrth ysgrifennu'r cyfreithiau a'r canllawiau.
Mae hynny'n golygu nad ydyn nhw'n cael eu gweithredu yr un fath ymhobman, meddai.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod "wedi ymdrechu'n galed i sicrhau fod pawb yn deall y gofynion cyfreithiol".
Mae Michael Imperato yn un o'r cyfreithwyr prin yng Nghymru sydd wedi herio'r cyfyngiadau yn y llys.
Mae'n dweud bod y cyfreithiau yn "amwys" ar brydiau ac felly bod cynghorau yn eu dehongli yn wahanol.
O ganlyniad, mater o "loteri cod post" yw hi'n aml wrth i benderfyniadau gael eu gwneud am hawliau sylfaenol a rhyddid, fel addysg.
Oherwydd y pandemig, fe all deddfwriaeth gael ei hysgrifennu mewn llai na dwy awr a does dim angen cymaint o graffu.
Dywed Llywodraeth Cymru bod y pandemig yn golygu eu bod wedi "gorfod gweithredu ar frys i amddiffyn iechyd cyhoeddus".
Er bod gan pob llywodraeth bwerau brys eang, dywed Mr Imperato bod y cyfreithiau a'r canllawiau yn gallu bod yn "amwys" ac yn anodd i'w canfod sy'n golygu bod pobl yn "ymbalfalu" ar adegau.
'Anodd herio cwsmeriaid'
Mae aelodau o Twristiaeth Gogledd Cymru hefyd wedi codi pryderon am ddyletswyddau cyfreithiol busnesau i sicrhau bod cwsmeriaid yn cadw at y rheolau.
Mae Nicky Williams, sy'n cyd-berchen tafarn y West Arms yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog ger Llangollen, yn dweud nad oes cyngor wedi ei roi am sut y dylid delio â rhywun sy'n gwrthod gwisgo mwgwd.
Mae herio cwsmeriaid yn gallu bod yn "brofiad anghyffyrddus", meddai.
Dywed bod hi'n anodd egluro os yw'r cyfyngiadau yn newid ar fyr rybudd.
"Chi ddim yn gwybod os bydd angen [pasys] brechu mewn deuddydd," meddai.
'Cyfathrebu'n glir'
Fe gysylltodd BBC Cymru gyda 22 awdurdod lleol Cymru gan ofyn faint o fusnesau oedd wedi derbyn sancsiynau am dorri rheolau Covid.
Fe wnaeth 20 cyngor ymateb gan ddweud eu bod wedi gweithredu 914 gorchymyn gwella a 26 gorchymyn cau.
Dywed arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Cynghorydd Andrew Morgan, mai gorfodaeth yw'r dewis diwethaf i gynghorau.
"Wrth i reolau fynd a dod, rwy'n awgrymu y dylai pawb ddysgu o'u camgymeriadau a sicrhau bod unrhyw newid yn cael ei gyfathrebu mewn ffordd glir," meddai.
Ers Mawrth 2020 mae'n bosib i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau heb sêl bendith y Senedd.
Mae modd i lywodraethau'r Alban, Gogledd Iwerddon a'r DU weithredu yn yr un modd.
Does dim rhaid iddyn nhw gydymffurfio â phob rheol ac mae modd galw am gyfnod clo, er enghraifft.
Dywed Michael Imperato bod diffyg craffu yn golygu y gallai cyflwyno cyfreithiau newydd gael effaith ar grwpiau bregus mewn cymdeithas.
"Be sy'n digwydd yw mai lle ry'ch chi'n byw sy'n penderfynu a oes hawl gan blant ddychwelyd i'r ysgol ai peidio," meddai.
"Yn amlwg ry'n wedi cael argyfwng iechyd, ond fe fyddai rhai pobl yn dweud ein bod wedi cael argyfwng hawliau dynol hefyd: ddylai hi ddim bod yn bosib tynnu hawliau dynol a rhyddid pobl oddi arnynt yn rhwydd."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r ymateb i'r pandemig yn golygu ein bod yn aml wedi gorfod gweithredu ar frys i amddiffyn iechyd cyhoeddus.
"Mae rhain yn amseroedd anodd i bawb - ein blaenoriaeth wastad yw cadw pobl yn ddiogel.
"Ry'n wedi ymdrechu'n galed i sicrhau fod pawb yn deall y gofynion cyfreithiol yn iawn a wastad wedi ceisio rhoi cymaint o rybudd â phosib i fusnesau am y newidiadau gan gynnal adolygiad bob tair wythnos yn ystod y pandemig.
"Mae'r Senedd wedi craffu ar yr holl reoliadau ac y mae'r broses o graffu democrataidd yn golygu bod modd eu newid. Mae'r rheoliadau sy'n ymwneud â'r coronafeirws i'w gweld, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar ein gwefan."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2021