Y Brodyr Francis: gwrthod cytundeb gyda label recordio HMV
- Cyhoeddwyd

Griffith (chwith), Owen (dde)
Gwrthod cytundeb gyda label recordio HMV, un o brif labeli Prydain a ffurfiwyd yn 1901 wnaeth y ddau frawd o Ddyffryn Nantlle; Griffith ac Owen Francis.
Yn sgil hynny does 'run recordiad o'r ddeuawd gerddorol Y Brodyr Francis, sydd wedi cael eu galw'n "gantorion pop cyntaf y diwylliant Cymraeg".
Dr Ffion Eluned Owen o Ddyffryn Nantlle fu'n rhannu ei hymchwil ar y ddau chwarelwr fu'n serennu ar lwyfannau Cymru a thu hwnt ar ddechrau'r 20fed ganrif gyda Cymru Fyw.
Gwrandewch ar raglen Dei Tomos, BBC Radio Cymru i glywed rhagor.

Caledi cynnar Y Brodyr Francis
Cafodd Griffith ac Owen Francis eu geni yng Nghwm Pennant i William a Mary Francis. Roedd William yn rheolwr yn chwarel y Moelfre. Ganwyd iddynt dri o blant; Annie (1875), Griffith (1876) ac Owen (1879).
Roedd eu mam, Mary Francis, yn gantores soprano boblogaidd ac yn perfformio o dan ei henw llwyfan, Mair Alaw. Deuai o deulu cerddorol yn Nhalysarn a chyfarfu hi â thad y Brodyr Francis, William Francis o Ryd-ddu, tra'n canu gyda'r Talysarn Glee Singers.
Ar y ffordd i gyngerdd yn Lerpwl cafodd Mair Alaw ei thaflu o gart a cheffyl, ac fe effeithiodd y ddamwain yn fawr ar ei hiechyd. Bu farw yn 1881, pan oedd y tri phlentyn dan bump oed. Blwyddyn yn ddiweddarach bu farw'r tad, William Francis.

Cyfansoddodd Y Brodyr Francis alaw yn enw eu Mam maes o law. Mae'n debyg mai Owen fyddai wedi cyfansoddi'r dôn, i gyd-fynd â cherdd 'Iesu' gan Griffith
Symudodd y plant at eu Taid a'i ail wraig i Glogwyn Brwnt yn Nrws-y-coed ger Rhyd-ddu. Collodd y plant eu Taid yn sydyn yn 1889, ond arhosodd y plant yng Nghlogwyn Brwnt nes marwolaeth eu Nain.

Clogwyn Brwnt, Drws-y-coed lle magwyd Annie, Griffith ac Owen gan eu Taid, Griffith Francis, a'i ail wraig, Margaret, y ddau mewn tipyn o oedran. Mae nifer o gerddi Griffith yn dogfennu hanes eu plentyndod yn Nrws-y-coed
Mynychodd y tri Ysgol Rhyd-ddu lle'r oedd Henry Parry-Williams, tad T. H. Parry-Williams yn athro dylanwadol. Eto i gyd, gadael yr ysgol yn 14 a 12 wnaeth Griffith ac Owen i weithio yn chwarel Glanrafon, cyn symud i chwarel Pen-yr-orsedd lle gweithiodd y ddau am weddill eu hoes.

Llechen yng Nghlogwyn Brwnt heddiw
'Dau deulu fel un yn ymgolli mewn cerddoriaeth'
Cafodd Annie, Griffith ac Owen eu haelwyd eu hunain yn 1897 yn Nhŷ Nant Isaf, Nantlle pan oedd Annie yr hynaf ddim ond yn 21, ac yn cadw'r tŷ.

Mewn trychineb arall, bu hanes trist i Annie Francis, eu chwaer fawr; bu farw yn 33 mlwydd oed yn 1909 wrth i'w hiechyd ddioddef ar ôl taro ei phen
Tŷ hynafol 350 oed ar gyrion chwarel Pen-yr-orsedd oedd Tŷ Nant; mae straeon mai yma oedd safle llys a gorsedd y Tywysogion Cymreig a'i fod yn gartref i Tudur Ab Engan, Arglwydd Baladeulyn yn y dyddiau a fu.
Yn gymdogion i'r teulu Francis yn Nhŷ Nant oedd teulu cerddorol arall sef y teulu Hughes, a dyma ddechrau cyfnod hapus iawn i'r Brodyr Francis, a chychwyn ar eu gyrfa gerddorol.
Disgrifiwyd y berthynas rhwng y ddau deulu fel "dau deulu fel un yn ymgolli mewn cerddoriaeth." Dechreuodd y Brodyr Francis gyfansoddi a pherfformio mewn cyngherddau bychain, lleol ac aelodau eraill y ddau deulu yn eu cefnogi; roedd Lora a'i brawd Owen o deulu'r Hughes yn gyfeilyddion iddynt; brawd arall, William Hughes yn chwarae'r crwth, ac Annie Francis yn gantores fedrus fel ei mam.

Olion chwarel lechi Pen-yr-orsedd lle gweithiai Griffith ac Owen; Griffith yn curo yn yr efail, ac Owen yn pleinio yn y sied ar gyfer Inigo Jones
Roedd y tri yn Nhŷ Nant am chwe blynedd cyn cael gorchymyn i adael am fod tomen y chwarel yn mynd i gladdu'r tŷ. Adeiladwyd dau dŷ newydd - Tŷ Nant a Llys Alaw - i'r ddau deulu yng nghanol pentref Nantlle. Symudwyd yno yn 1908, gan barhau â'u nosweithiau llawen.

Hen lun o bentref Nantlle. Y talcen tŷ gwyn gyda'r holl ffenestri yng nghanol y llun yw'r Tŷ Nant newydd
Diwylliant y Dyffryn
Rhoddodd fywiogrwydd cerddorol a diwylliannol Dyffryn Nantlle ar ddechrau'r ugeinfed ganrif sylfaen gref i'r Brodyr Francis:
• Bwrlwm cerddorol: Roedd nifer o gorau, bandiau pres, unawdwyr, offerynwyr a chyngherddau ac eisteddfodau di-ri yn y dyffryn yn y cyfnod hwn. Roedd Griffith yn canu yng Nghôr Undebol Dyffryn Nantlle a daeth Owen yn arweinydd Band Deulyn yn 1908.
• Dylanwad y caban: Roedd Griffith ac Owen yn aelodau o gaban Ponc yr Offis ym Mhen-yr-orsedd. Dyma gaban mwyaf diwylliannol Dyffryn Nantlle yn ôl pob sôn gyda llawer o gerddorion, adroddwyr a thynnu coes! Roedd sawl awr ginio yn cael ei dreulio yn yr efail yn gwrando ar y Brodyr yn ymarfer.

Seindorf Linynnol Dyffryn Nantlle 1900-1910, o dan arweiniad Richard Owen (Pencerdd Llyfnwy), mab Hugh Owen, arweinydd y Talysarn Glee Singers lle bu i rieni'r Brodyr Francis gyfarfod
Cyfnod euraidd
Y cyfnod euraidd i'r Brodyr Francis oedd yr 1920au a dechrau'r 1930au. Roedd y seilwaith yno cyn y Rhyfel Byd Cyntaf o ran perfformio'n lleol a gwneud enw iddyn nhw eu hunain, ond ar ôl y rhyfel daeth y bri mawr a phawb yng Nghymru a thu hwnt eisiau'r ddau chwarelwr yn eu neuaddau pentref.

Posteri cyngherddau'r Brodyr Francis

Rhai o raglenni cyngherddau'r Brodyr Francis. Peth cyffredin oedd iddynt dreulio wythnos gyfan yng nghyffiniau Lerpwl neu Llundain, gydag ymweliadau cyson â llwyfannau enwog fel yr Houldsworth Hall a'r Free Trade Hall ym Manceinion.
Roedd Owen a Griffith yn aml-ddawnus; Griffith yn fardd ac Owen yn gerddor da iawn, a'r ddau gyda lleisiau gwych. Owen oedd y tenor a Griffith y bariton.
Byddai Owen yn cyfansoddi cerddoriaeth i gyd-fynd gyda cherddi Griffith. Byddai Griffith yn cynnwys patrymau odli, ailadrodd ac ambell i linell gloff yn rhai o'i gerddi er mwyn cyd-fynd gyda'r tonau oedd Owen wedi'u cyfansoddi ac er mwyn eu perfformio.

Un o daflenni tonau Owen Francis. Byddai'n enwi ei donau ar ôl llefydd neu bobl a oedd yn bwysig iddo. Ei dôn 'Nantlle' yw tôn rhif 598 yn y Caneuon Ffydd, Llyfr Emynau a Thonau'r MC

Telyn Eryri; cyfrol farddoniaeth Griffith Francis a gyhoeddwyd yn 1932. Roedd Griffith yn fardd gwlad safonol. Gwerthwyd 800 copi o'i gyfrol ym mlwyddyn ei chyhoeddi ac roedd yn ysu i gyhoeddi ail gyfrol, na welodd olau dydd yn y diwedd
Roedden nhw hefyd yn canu caneuon poblogaidd y byddai pobl yn eu hadnabod ac yn un o'r cyntaf i osod barddoniaeth gyfarwydd ar alawon poblogaidd, fel Y Border Bach gan Crwys ar alaw Home Sweet Home.
Y Brodyr Francis - nid Jac a Wil - ganodd Y Border Bach gyntaf!
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Gwrthod cytundeb recordio gyda label HMV
Bob Owen o Ddrws-y-coed fu cyfeilydd y brodyr o'r cyfnod wedi'r rhyfel hyd y diwedd. Eu teyrngarwch i'w cyfeilydd a'u ffrind yw'r prif reswm na fu erioed record o'u canu, er iddynt wneud cytundeb yn wreiddiol gyda label recordio HMV.
Wedi cyrraedd y stiwdio recordio yn Nulyn, daeth hi'n amlwg bod y cwmni am iddyn nhw ganu gyda'r delyn, offeryn nad oedd Bob Owen yn gallu ei chwarae.
Gan nad oedd Griffith ac Owen yn fodlon recordio heb Bob a'r cwmni'n gwrthod cyfaddawdu drwy recordio gyda'r piano, ni fu recordio, sydd erbyn heddiw yn gadael hanes canu poblogaidd Cymru yn llawer tlotach.

Owen Francis, Bob Owen a Griffith Francis. Roedd eu hymddangosiad yn rhan fawr o'u hapêl, gan wisgo tailcoats, wing collars a 'tei bo' ar y llwyfan bob amser

Roedd y label recordio HMV yn un o brif labeli Prydain yn y cyfnod; mor fawr nes i gadwyn o siopau cerddoriaeth y stryd fawr etifeddu'r enw. Ond doedd HMV ddim yn ddigon da i'r Brodyr Francis am awgrymu y dylent newid eu cyfeilydd
Y cyngerdd Cymraeg cyntaf ar y radio
Ond bu Griffith, Owen a Bob yn Iwerddon ar o leiaf un achlysur mawr arall, sef ar gyfer cymryd rhan yn y cyngerdd cyntaf erioed yn y Gymraeg ar y radio.
Pregethau crefyddol fu'r unig Gymraeg ar y radio cyn nos Wener, 4 Mawrth 1927, pan benderfynodd gorsaf Wyddeleg 2RN ddarlledu awr a hanner o adloniant cerddorol cyfrwng Cymraeg ar nos Wener gyntaf bob mis.
Y Brodyr Francis o Ddyffryn Nantlle gafodd eu dewis ar gyfer y rhaglen gyntaf un; dyma arwydd o'u statws a'u bri erbyn hynny. Roedd clywed y lleisiau cyfarwydd yn brofiad emosiynol i bobl Nantlle, yn enwedig pan ddaeth llais Owen ar y diwedd i ddymuno, "Nos da, bobl Nantlle".

Y Brodyr Francis yn cymryd rhan yn y cyngerdd Cymraeg cyntaf ar y radio o Iwerddon, 4 Mawrth 1927. Mae Griffith, Owen a Bob yn sefyll yn y cefn, ac W. S. Gwynn Williams, golygydd Y Cerddor Newydd, a fu'n gyfrifol am berswadio'r awdurdodau yn Iwerddon i ddarlledu adloniant Cymraeg, yn eistedd o'u blaenau
Dim ond tri set radio oedd yn y pentref, a'r tai hynny'n llawn i'r ymylon, gydag eraill wedi ceisio creu eu setiau eu hunain. Cafodd hyd yn oed staff Plas Baladeulyn sefyll yn nrws y gegin y noson honno i wrando ar y radio.
Ar ôl cyd-ganu am dros chwarter canrif, bu farw'r Brodyr o fewn 10 wythnos i'w gilydd yn 1936, Owen yn 56 mlwydd oed a Griffith yn 59.

Cofeb i'r Brodyr Francis; Owen Francis, Bob Owen a Griffith Francis, gan T. Alun Williams, sydd yng nghapel Drws-y-coed
I glywed rhagor gwrandewch ar raglen Dei Tomos ar BBC Radio Cymru.
Hefyd o ddiddordeb: