Cynghorydd yn beio 'tramorwyr' am bwysau ambiwlans

  • Cyhoeddwyd
Cafodd y sylwadau eu gwneud dros gyfarfod Zoom y cyngor ddydd IauFfynhonnell y llun, Zoom/Cyngor Ceredigion
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y sylwadau eu gwneud dros gyfarfod Zoom y cyngor ddydd Iau

Mae'r heddlu wedi derbyn nifer o gwynion ar ôl i gynghorydd o Geredigion awgrymu mai "tramorwyr" sy'n rhannol gyfrifol am roi gwasanaethau ambiwlans y sir dan straen.

Daeth sylwadau'r Cynghorydd Lloyd Edwards, aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol ar Gyngor Ceredigion, mewn trafodaeth ynghylch toriadau posib i griwiau ambiwlans y sir.

"Dwi'n credu bod yna lot o fewnfudwyr wedi dod fewn i'r sir yma ac maen nhw'n cael yr un cymorth â phobl sydd wedi eu geni a'u magu yn y sir," meddai yn y cyfarfod rhithiol ddydd Iau.

"A wedyn mae e'n rhoi mwy o bwyse' ar weithlu'r ambiwlans. A dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi dala 'mlaen i rywbeth maen nhw wedi gwneud, trwy ddod â mewnfudwyr fewn i Gymru ac i Geredigion... Pobl tramor 'wy'n siarad am nawr.

"Maen nhw'n cael union yr un gwasanaeth â ma' pobl gyffredin yn gael."

Dywed y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig eu bod nhw'n cynnal ymchwiliad i'r mater.

Mae'r Cynghorydd Edwards wedi cael cais am sylw.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau eu bod nhw wedi derbyn nifer o gwynion yn dilyn y sylwadau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na bryderon wedi'u datgan am doriadau i orsafoedd ambiwlans Aberteifi ac Aberystwyth

Yn sgil y sylwadau, ymatebodd arweinydd y Cyngor, Ellen ap Gwynn, yn y cyfarfod gan ddweud mai dim ond 50 o bobl oedd wedi cael eu croesawu i Geredigion.

Ychwanegodd mai "ffoaduriaid oedden nhw, nid mewnfudwyr" a'u bod wedi dod yma "i gael ein help ni".

Yn ôl un o'r ddau gynghorydd wnaeth gyflwyno'r rhybudd gynnig, y Cynghorydd Bryan Davies, roedd sylwadau Lloyd Edwards yn "anffodus".

"Beth 'wedodd e, cystal â bod, oedd bod nhw yn creu mwy o bwyse' i'r gwasanaeth ambiwlans ond fi'n credu i'r gwrthwyneb," meddai.

"Mae'r tramorwyr sydd gyda ni, mae lot yn gweithio yn y sector gofal a hefyd gyda'r gwasanaeth iechyd ac maen nhw'n cynnig mwy na maen nhw'n tynnu mas o'r gwasanaeth."

'Annerbyniol ac ofnadwy'

Mae eraill wedi bod yn chwyrn eu beirniadaeth.

Dywedodd Dylan Lewis-Rowlands, cyn-ymgeisydd i'r Blaid Lafur, ei fod wedi gwrando ar y sylwadau gyda "syndod a sioc".

"Mae'n rhywbeth pwysig roedden nhw yn trafod," meddai wrth BBC Cymru.

"Y gwasanaethau ambiwlans, mae'n fater pwysig iawn - ac roedd e'n dod mewn gyda'i rant. Mae'n annerbyniol ac yn ofnadwy."

Mae Mr Lewis-Rowlands wedi galw ar y Cynghorydd Edwards i ymddiheuro.

Disgrifiad o’r llun,

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, wedi condemnio sylwadau'r cynghorydd

Mae'r mudiad Safwn yn Erbyn Hiliaeth wedi condemnio ei sylwadau, gan alw ar Gyngor Ceredigion i wneud hynny hefyd.

Mewn datganiad nos Wener, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds AS: "Nid yw'r sylwadau hyn yn adlewyrchu fy marn i na gwerthoedd ein Plaid ac rwy'n eu condemnio.

"Bydd ymchwiliad mewnol annibynnol nawr yn penderfynu ar unrhyw gamau yn y dyfodol."

Dywedodd llefarydd y blaid: "Dylai Ceredigion fod yn lle agored i unrhyw un sy'n dewis byw yno, gan gynnwys ceiswyr lloches a ffoaduriaid.

"Mae gan Gymru a Cheredigion hanes balch o groesawu'r rhai sy'n chwilio am noddfa a bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn parhau i ymladd i wneud yn siŵr bod hynny'n wir."