Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 1-0 Weymouth

  • Cyhoeddwyd
Jordan DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jordan Davies sgoriodd y gôl fuddugol

Llwyddodd Wrecsam i drechu Weymouth adref yn Y Gynghrair Genedlaethol nos Sadwrn.

Jordan Davies sgoriodd y gôl fuddugol gyda chic rydd ardderchog i Wrecsam wedi hanner awr o chwarae.

Bu bron i Davies â dyblu'r fantais toc cyn hanner amser, ond cafodd yr ergyd ei chlirio oddi ar ei linell.

Galwodd Weymouth am gic gosb gan honni fod Sean Shields wedi ei dynnu i lawr yn y blwch cosb, ond gwrthodwyd y cais gan y dyfarnwr ac felly roedd Wrecsam ddim wedi ildio'r fantais.

Un gôl oedd ynddi unwaith eto i'r Dreigiau, canlyniad tebyg i'r un yn Dover wythnos diwethaf ond mae Wrecsam bellach wedi codi i'r pedwerydd safle yn Y Gynghrair Genedlaethol, tra bod Weymouth - wedi eu pumed colled yn olynol - wedi disgyn i'r 20fed safle.