Covid: Dros 9,000 wedi marw yng Nghymru ers dechrau'r pandemig
- Cyhoeddwyd
Mae'r nifer o farwolaethau sy'n gysylltiedig â Covid-19 wedi cyrraedd 9,000 ers dechrau'r pandemig yng Nghymru.
Yn ôl ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) mae 9,051 o bobl wedi marw.
Cafodd 61 o farwolaethau eu cofnodi yn yr wythnos hyd at 3 Rhagfyr, sy'n ostyngiad o'r 77 marwolaeth yn yr wythnos flaenorol.
Mae dull cofnodi'r ONS yn cynnwys cofnodion o farwolaethau mewn mwy o sefyllfaoedd o'i gymharu â chofnodion dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Caerdydd gofnododd y nifer uchaf o farwolaethau yn gysylltiedig â Covid-19 yn yr wythnos ddiweddaraf. Cafodd saith marwolaeth eu cofnodi.
Yn ystod y mis diwethaf, mae 291 o farwolaethau'n gysylltiedig â Covid wedi eu cofnodi, sydd o gwmpas naw marwolaeth y dydd ar gyfartaledd.
Ers cychwyn y drydedd don ym mis Medi, mae'r ONS wedi cofnodi deg marwolaeth y dydd ar gyfartaledd.
Yn ystod yr ail don y llynedd, gwelwyd tua 42 o farwolaethau'r dydd ar gyfartaledd.
Trwy gydol y pandemig, Rhondda Cynon Taf sydd wedi cofnodi'r nifer fwyaf o farwolaethau'n gysylltiedig â Covid-19 yng Nghymru - 1,003.
Dyma'r seithfed gyfradd uchaf o farwolaethau ar hyd Cymru a Lloegr.
Dull cofnodi'r Swyddfa Ystadegau Gwladol
Yn wahanol i ystadegau dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae dull cofnodi ONS yn cynnwys marwolaethau Covid mewn cartrefi, hosbisau a mannau eraill, yn ogystal ag ysbytai a chartrefi gofal.
Mae dull cofnodi Iechyd Cyhoeddus Cymru yn mesur y marwolaethau o fewn 28 diwrnod ac ar ôl prawf positif Covid-19 mewn labordy ac fel arfer mewn ysbytai.
Dydy'r cofnodion ddim yn cynnwys marwolaethau yn gysylltiedig â Covid mewn mannau eraill, gan gynnwys nifer o farwolaethau yn ystod ton gyntaf y pandemig a phobl fu farw yn eu cartrefi lle'r oedd doctoriaid yn tybio bod Covid-19 yn rhan o achos y farwolaeth.