Mari Phillips: ‘Cymysgu’r traddodiadol gyda’r modern’
- Cyhoeddwyd
Mae'r artist Mari Phillips yn cael ei hysbrydoli gan chwedlau sy'n dweud stori arwyr benywaidd a LHDT+ (Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thraws+). Trwy ei gwaith mae hi'n rhoi ogwydd newydd, gyfoes ar rai o enwau mwya' adnabyddus chwedloniaeth Gymreig.
Mae Mari, sy'n wreiddiol o Landysilio, Sir Benfro ond sy' bellach yn byw yng Nghaerdydd, yn esbonio'r ysbrydoliaeth tu ôl i'w gwaith: "O'n i'n mynd ar wylie rownd Ewrop a'n gwrando ar podcast oedd yn sôn am fytholeg Groegaidd mewn ffordd ffeminist a newydd.
"O'n i'n gwrando arno a ges i ddim cwsg o gwbl, jyst aros lan a gwrando ar y straeon i gyd.
"Wedyn nes i sylweddoli fod lot o bobl yn 'neud pethe Groegaidd a dechreuais i edrych mewn i fytholeg Cymreig. Dwi'n hoffi edrych mewn i fytholeg ac ymchwilio i weld pwy yw'r ffeminist yn y straeon, beth mae'r cymeriadau fel fel menywod a thrio ffeindio mas straeon queer mewn mytholeg hefyd.
"Gallwch chi 'neud beth bynnag chi mo'yn allan o fytholeg.
"Does dim lot o fersiynau o'r Mabinogion felly mae'n syniad da i roi fersiwn queer iddo achos stori yw e ac mae'n ffordd neis o gynnwys pobl queer."
Dechreuodd Mari y cyfrif Instagram mythsntits ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd ac mae'n arddangos ei gwaith ar y cyfrif. Dyma'r ysbrydoliaeth tu ôl i rai o'i lluniau mwyaf trawiadol, meddai:
O'n i ishe neud Merched Beca mewn fashion houses gwahanol. O'n i'n hoffi'r syniad o nhw'n chwarae gyda rhywedd nhw - gwisgo mewn dillad mamau a chwiorydd nhw a sylweddoli bod nhw'n queer ac yn hoffi gwisgo dillad merched a byw bywyd i'r eithaf.
Gyda hon o'n i ishe creu elfen hunk - yn cymryd ysbrydoliaeth o wisg Vivienne Westwood. Mae hi wastad yn creu ballgowns anhygoel gyda lot o ddefnydd a phethau wedi ysgrifennu ar y ffrogiau.
Mae pobl Cymru yn eitha' punk ac yn gweiddi mas yn erbyn beth sy'n digwydd iddyn nhw drwy'r amser. Mae lot o drafferthion horibl 'di digwydd i Gymru - Tryweryn, Aberfan, Merched Beca. O'n i'n meddwl ysgrifennu hwnna mewn i'r ffrog a dangos bod ni'n protestio yn erbyn e.
Drag yw e ac mae drag yn brotest yn erbyn rhywedd hefyd a 'na pam fi wedi rhoi'r colur trawiadol iddi.
Mae Nerys fel y Black Nun ac mae Cerys fel Twm Sion Cati yn dangos y trend o wisgo mewn ffordd rhywiol a 'neud e mewn ffordd Cymreig. Mae pawb wedi cael profiad o stori'r ysbryd Black Nun wrth fynd i Glan-llyn a Llangrannog - o'n i'n meddwl bod hwnna'n rili ffyni ac eiconig.
Hefyd mae'n rili cwl i 'neud Twm Sion Cati yn steil Robin Hood, achos mae e'n eicon Cymreig s'dim lot o bobl yn gwybod amdano. Mae lot o ddilynwyr fi yn byw tu fas i Gymru a'n dysgu lot am hanes Cymru trwy gwaith fi. Dwi'n ffan mawr o hanes.
O'n i'n creu portreadau o bobl Cymreig yn y gwisg traddodiadol ac o'n i ishe chwarae gyda rhywedd mewn pethau Cymreig. Osian yw hwn - o'n i ishe creu dyn queer, yn gwisgo het gyda hoop earrings felly'n 'neud e'n fodern hefyd. Mae e'n gwisgo siol paisley felly'n cymysgu'r traddodiadol gyda'r modern.
Oedd un o teulu fi'n meddwl bod e'n edrych fel rhywun o Batagonia - dwi'n hoffi pobl yn creu straeon nhw am lluniau fi.
Mae mamgu fi'n mynd yn wallgo' bob tro dwi'n rhoi llun lan ac ishe i fi neud llun heb sigarets! Hwn oedd y llun cynta' nes i o ledis Cymreig ar Ddydd Gŵyl Dewi a'r llun cynta' o Nerys a Cerys - dwy ferch sy' wedi eu ysbrydoli gan fi a ffrindie fi a sut ni'n bihafio fel ledis Cymreig yn gwisgo'r gwisg traddodiadol.
Maen nhw yn smocio, maen nhw bach yn cheeky - mae'n ffordd neis o greu celf mae merched a phobl ifanc yn gallu uniaethu gyda. Pan ni'n edrych am ysbrydoliaeth ni'n edrych trwy lunie o hen fenywod Cymreig, maen nhw'n edrych yn prim ond ti'n gallu gweld fod cymeriad 'da nhw.
Dwi heb beni hwn ond dyma Efnisien fel villain queer y Mabinogion. Yn Disney maen nhw wastod yn neud y villains yn queer, fel Ursula yn The Little Mermaid, fel bod pobl yn ofni nhw - ond mae pobl queer yn cymryd y cymeriad 'na a'n troi nhw mewn i eicon.
O'n i wedi cael fy ysbrydoli gan Henry Paget, y pumed Marcwis o Fôn - ac 'oedd e'n rili flamboyant a'n gwastraffu ei arian ar ddiemwntau, sioeau ac ati. Mae'n gymeriad rili diddorol i ailgreu yn y Mabinogion.
O'n i'n meddwl am Efnisien a beth wnaeth e i Branwen, gan ladd ceffylau gŵr Branwen, felly creu dyn rili hunanol yn gwisgo pethe rili ffansi ac ishe bod y brenin nesaf.
Dyma Ceridwen yn coginio gwledd - o'n i'n edrych mewn i Ceridwen a'i symbolaeth. Dwi'n hoffi edrych ar y symbolau a rhoi darnau rownd y llun sy'n dweud mwy amdanyn nhw.
Mae dyfrgi mewn 'na ar y calendr, mae ceiliog ar y cereal achos hi oedd duwies y grawn, felly o'n i'n meddwl creu hi fel merch modern gyda bowl o cereal. Hefyd mae'r eclips yn symbol.
Ac o'n i ishe creu rhywbeth body positive a dangos merch sy'n ymlacio yn creu potions. Fi'n ffan mawr o ymchwilio mewn i bethau. Fi'n hoffi bod rhywun arall yn gweld darlun a gallu gweud o'r elfennau bach pwy yw e.
Nessa yw hon (cymeriad Ruth Jones ar raglen Gavin and Stacey) - 'oedd hwn ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 2021. Dwin rili lico'r ffaith fod y gwisg yn gallu bod yn ciwt ac yn retro gyda'r hat. Fi wastad yn lico rhoi eicons Cymreig yn gwaith fi - mae gymaint o bobl rili doniol yn dod allan o Gymru.
'Nath Ruth Jones weld e ac o'dd hi'n rili licio fe. Mae hi'n berson mor gorjys a dwi'n rili body positive yn y pethe dwi'n creu. Fel person queer ac fel menyw mae'n neis i gael y female gaze mewn 'na. Pam na allwn ni gael Ruth Jones fel y pinup girl?
Gyda profiad fi yn ysgol yn dysgu am gelf, ni mor gyfarwydd gyda gweld beth mae dynion yn peintio - dwi'n hoffi dangos beth mae menywod yn gwerthfawrogi a bod yn fwy onest.