Y sylw'n troi at is-etholiad bwysig dros y ffin

  • Cyhoeddwyd
Owen Paterson y cyn-AS
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i'r AS blaenorol - Owen Paterson - ymddiswyddo ar ôl iddo dorri rheolau lobïo

Fel arfer ni fyddai is-etholiad mewn sedd fel Gogledd Sir Amwythig yn denu llawer o sylw.

Ond yn ddiweddar, mae pobl yr etholaeth wedi dod yn gyfarwydd â gweld gwleidyddion amlwg o San Steffan yn eu trefi, yn ogystal â newyddiadurwyr o Lundain.

Gyda Boris Johnson o dan bwysau cynyddol, mae llawer iawn o sylw wedi bod ar yr etholaeth sydd wedi cael ei chynrychioli gan aelod Ceidwadol erioed.

Ond mae rhai Ceidwadwyr yn ofni y gallai'r blaid golli ei mwyafrif o bron i 23,000.

Bu Cymru Fyw yn clywed gan rai o'r Cymry sy'n byw yn yr etholaeth cyn y bydd y gorsafoedd pleidleisio yn agor ddydd Iau.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae lot fwy o sylw wedi bod yn y cyfryngau - a dyw hi ddim yn ardal sy'n cael lot o sylw fel arfer," meddai Lowri Roberts

Mae Lowri Roberts yn berchen ar Siop Cwlwm ym marchnad Croesoswallt.

Mae hi'n byw yn y dref ac yn dweud iddi ryfeddu wrth weld cynifer o gamerâu newyddion yna yn ddiweddar.

"Mae'r Guardian wedi bod yma, mae'r Telegraph wedi bod a lot o bobl wedi cael cyfweliadau," meddai.

"'Da ni'n cael sylw am reswm gwahanol - wrth gerdded yma o'r farchnad yn ganol y dref gwelais i bedwar criw camera yn ffilmio pobl.

"Ar hyd y blynyddoedd dwi wedi clywed mai Gogledd Sir Amwythig yw'r sedd saffaf i'r Ceidwadwyr - dy'n nhw erioed wedi gorfod poeni am golli'r sedd.

"Ond dwi'n meddwl y tro yma maen nhw yn poeni - mae Boris Johnson wedi bod yma, a Michael Gove hefyd a rhai o'r enwau mawr eraill y blaid Geidwadol a dwi'n meddwl bod y ffaith eu bod nhw yn dod yma yn dangos eu bod nhw'n poeni, ac am y tro cyntaf yn eu hanes falle bod nhw yn mynd i golli Gogledd Sir Amwythig."

Materion lleol

Mae'r is-etholiad yn cael ei gynnal ar ôl i'r aelod seneddol blaenorol - Owen Paterson - ymddiswyddo wedi iddo dorri rheolau lobïo.

Mae materion yn San Steffan - lle mae'r llywodraeth wedi wynebu rhes o broblemau dros yr wythnosau diwethaf - yn cael dylanwad ar yr is-etholiad.

Ond yn ôl Lowri mae materion lleol wedi bod yn bwysig hefyd.

"Mae un mater lleol sy'n cael lot o sylw," meddai Lowri. "Roedd gorsaf ambiwlans y dref yma wedi cau yn ddiweddar, ac roedd y penderfyniad wedi cael ei wneud cyn bod y bobl leol yn gwybod unrhyw beth am y cynlluniau.

"Ac fe ddaeth allan ar y pryd bod Owen Paterson yn gwybod am y cynlluniau ond heb wrthwynebu nhw.

"Felly mae lot o'r ymgeiswyr ar yr ochr chwith yn defnyddio'r mater yma ac yn dweud y byddan nhw'n ailagor yr orsaf."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n "bur debyg" mai'r Ceidwadwyr fydd yn mynd mewn eto, yn ôl Melfyn Evans

Mae Melfyn Evans yn dod yn wreiddiol o Langynog ym Mhowys ond mae wedi byw yng Nghroesoswallt ers 46 o flynyddoedd.

"Dwi'n meddwl bod pobl yn teimlo eu bod wedi cael eu gadael i lawr gan Owen Paterson," meddai Melfyn.

Tra bod nifer yn darogan y gallai'r Ceidwadwyr golli eu gafael ar y sedd dyw Melfyn ddim yn cytuno, er ei fod e'n gobeithio am newid.

"Yn yr etholiad diwetha' roedd bron iawn 23,000 o bleidleisiau o fwyafrif [gan y Ceidwadwyr]," meddai.

"'Swn i'n meddwl y bydd e lawer iawn yn llai y tro yma. Mae'n bur debyg mai nhw fydd yn mynd mewn eto baswn i'n meddwl. Mae gogledd y sir yma yn las iawn!"

Os yw mwyafrif y Ceidwadwyr yn gostwng fe fydd hynny'n golygu naill ai bod cefnogwyr arferol y blaid wedi aros adref neu wedi symud eu pleidlais i blaid arall.

Disgrifiad o’r llun,

"Storm mewn cwpan de" ydy'r problemau sy'n wynebu Boris Johnson, meddai Tom Davies

Mae un Cymro yng Nghroesoswallt - sydd fel arfer yn cefnogi'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi penderfynu pleidleisio i'r ymgeisydd Torïaidd ddydd Iau.

Dywedodd Tom Davies nad yw'r problemau y mae Boris Johnson wedi'u hwynebu yn ddiweddar yn ei boeni o gwbl.

"Storm mewn cwpan de, ynde? Mae Boris yn un da am wneud creisis i'w hun, ac mae cymaint ohonyn nhw wedi bod, a dim ond y diweddara' yw'r rhain.

"Dyw e ddim yn gwneud gwahaniaeth i fi achos mae e'n ddynol fel 'da ni i gyd. Does neb yn berffaith nag oes?"

Mae cyfanswm o 14 o ymgeiswyr yn yr is-etholiad:

Suzie Akers Smith - Annibynnol

Andrea Allen - UKIP

Boris Been-Bunged - Rejoin EU

Martin Daubney - The Reclaim Party

Russell Dean - The Party Party

James Elliot - Heritage Party

Alan 'Howling Laud' Hope - Official Monster Raving Loony Party

Earl Jesse - Cynghrair Rhyddid

Yolande Kenward - Annibynnol

Duncan Kerr - Y Blaid Werdd

Helen Morgan - Democratiaid Rhyddfrydol

Dr Neil Shastri-Hurst - Ceidwadwyr

Kirsty Walmsley - Reform UK

Ben Wood - Llafur

Hefyd gan y BBC