'Ofni colli 'nghartref yn sgil cyfyngiadau ar gampfeydd'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Pobl ar feic mewn campfaFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd cyfyngiadau pellter cymdeithasol yn cael eu cyflwyno eto mewn campfeydd o 27 Rhagfyr

Mae perchnogion campfeydd yn pryderu y gallai cyfyngiadau Covid newydd eu taro mor galed fel y gallen nhw golli eu cartrefi.

Dywedodd un y byddai hi eisoes yn ddigartref os na fyddai wedi dychwelyd i weithio yn llawn amser fel ffisiotherapydd ysbyty.

Dywedodd un arall y gallai golli popeth y flwyddyn nesaf os na fyddai pethau yn gwella.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd hyd at £60m ar gael i helpu busnesau sydd wedi eu heffeithio gan y cyfyngiadau newydd.

Fe ddaeth cyhoeddiad ddydd Iau y bydd rhaid i gampfeydd ailgyflwyno rheolau pellter cymdeithasol a system unffordd o Ragfyr 27.

Mae'n rhan o fesurau sy'n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru i atal "storm Omicron".

'Mater o amser'

Yn ôl perchennog Energie Fitness yng Nghaerdydd, James Kempton, mae'n "fater o amser" cyn y bydd mewn trafferthion ariannol.

"Mae gen i tan fis Mawrth nesaf cyn i mi redeg allan o arian," meddai'r gŵr 39 oed.

"Mae'n siŵr y byddai'n ddigartref ac mewn dyledion enfawr i Fanc Lloyds a Hitachi Capital."

Ffynhonnell y llun, Jin Bowring
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jin Bowring a'i gŵr Matthew yn rhedeg campfa ond mae hi wedi gorfod dychwelyd i weithio llawn amser fel ffisiotherapydd hefyd

Fe wnaeth Jin Bowring ddychwelyd i weithio yn llawn amser fel ffisiotherapydd ysbyty i gadw dau ben llinyn ynghyd.

Roedd hi'n gweithio fel ffisiotherapydd a chynnal dosbarthiadau nos yn y gampfa mai'n ei redeg ym Mhenarth gyda'i gŵr Matthew.

"Mae'n le bach, felly dim ond rhyw hanner dwsin allai gael yma wrth gadw at bellter cymdeithasol," meddai.

"Er i mi wneud dosbarthiadau ar-lein roedd yn hunllef. Dydi busnesau bach ddim am oroesi."

'Hynod ffodus'

Yn draddodiadol, mae mis Ionawr yn gyfnod llewyrchus i fusnesau o'r fath wrth i bobl wneud addewidion blwyddyn newydd neu geisio colli pwysau yn dilyn gloddesta'r ŵyl.

Ac mae'r cwsmeriaid yma yn bwysig i fusnesau llai oroesi.

"Petai dyma fy mhrif waith, fyddwn i'n methu dygymod ac yn methu talu biliau," eglurodd Ms Bowring.

"Fe fyddwn i'n ddigartref oni bai i mi allu dychwelyd i'm gwaith, dwi'n hynod ffodus."

Ffynhonnell y llun, Anna Prince
Disgrifiad o’r llun,

Mynd o ddiwrnod i ddiwrnod mae Anna Prince efo'i busnes

Dywedodd perchennog busnes Hydrofitness Ladies Gym, yn Y Barri, Anna Prince, ei bod yn dygymod yn ariannol "o fis i fis".

"Dwi ond yn gobeithio na fydd y llywodraeth yn ein cau ni eto," meddai.

"Heb gymorth ariannol, fyddwn ni ddim yn gallu ailagor."

Arian i helpu

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod mesurau ychwanegol yn cael eu cyflwyno i helpu atal lledaeniaid Covid.

"Fe fydd hyd at £60m o arian ar gael i fusnesau sy'n cael eu heffeithio yn uniongyrchol gan y cyfyngiadau newydd," meddai llefarydd.

"Rydym yn gweithio'n galed gyda phartneriaid i weld sut mae modd rhoi'r gefnogaeth mwyaf effeithiol a byddwn yn gwneud cyhoeddiad pellach mor fuan â phosib."

Pynciau cysylltiedig