'Pobl i golli gwaith' o achos cyfyngiadau Omicron
- Cyhoeddwyd
Mae'n bwysig bod cymorth ariannol Llywodraeth Cymru yn ddigonol ac yn "cyrraedd y busnesa' cywir cyn gynted â phosib".
Dywedodd cyd-Gadeirydd Cymdeithas Twristiaeth Ynys Môn hefyd bod angen i'r broses fod "mor rhwydd â phosib".
Daw wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi nifer o gyfyngiadau Covid newydd am y tro cyntaf ers mis Awst, yn sgil pryderon am yr amrywiolyn Omicron.
Bydd hyd at £60m o gymorth ariannol i'r busnesau sy'n cael eu heffeithio gan y cyfyngiadau newydd, meddai'r llywodraeth.
Ond fe ychwanegodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y byddai angen cymorth y Trysorlys os oes angen mwy na hynny, gan ddweud nad yw'r system bresennol o ddosbarthu arian Covid yn deg ar y gwledydd datganoledig.
Yn y cyfamser, mae perchennog tafarn a chlwb nos yng Nghaernarfon wedi dweud y bydd "llwyth o bobl" yn colli eu gwaith yn sgil y cyfyngiadau Covid-19 diweddaraf.
'Mi ddown ni drwyddi'
O 27 Rhagfyr ymlaen bydd rheolau'n dod i rym i orfodi pellhau cymdeithasol o ddau fetr mewn swyddfeydd a bydd clybiau nos yn cau.
Mae pobl eisoes yn canslo byrddau mewn bwytai, meddai Nia Rhys Jones o Gymdeithas Twristiaeth Môn, ac mae llawer iawn o fusnesau, sy'n dibynnu ar gyfnod prysur gwyliau'r Nadolig "ar eu gliniau erbyn hyn".
"Dwi'n siŵr bydd llawer yn meddwl 'ydy o werth i mi gario 'mlaen' [a] bydd 'na lawer i sgwrs yn y byd busnes ym cymryd lle dros y gwylia' rŵan," meddai ar raglen Dros Frecwast.
"Yn union fel llynedd ma'r llefydd ma' wedi prynu stoc, ma'r rota staff [wedi ei drefnu] - ma' popeth yn ei le ar gyfer y cyfnod prysura' a dyma ni eto.
"Drwy'r cyfnod coronafeirws ma' i gyd, ma'r diwydiant wedi parchu'r canllawia' a mi neith y diwydiant eto."
Serch y straen y mae hi'n ei ragweld dros yr wythnosau nesaf, dywedodd: "Mi ddown ni drwyddi.
"Mae'n ddiwydiant sy'n dod yn ôl dro ar ôl tro, ond ma' rhaid i rywun gydymdeimlo eto efo'r diwydiant lletygarwch sy'n ca'l yr hit yma, fel petae, ar gyfnod sy' mor hanfodol i'w cynllun busnes."
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi annog pobl i gael dathliadau llai dros y Nadolig ac osgoi cyfarfod "rhagor o ffrindiau" am y tro.
Ni fydd unrhyw gyfyngiadau newydd yn dod i rym nes 27 Rhagfyr, ond mae'r llywodraeth yn rhoi "canllawiau cryf" i bobl cyn hynny.
Mae Cymru wedi bod ar lefel rhybudd 0 ers mis Awst bellach, a dyma fydd y tro cyntaf i gyfyngiadau newydd gael eu cyflwyno ers hynny.
Rhybuddiodd Mr Drakeford ddydd Iau y bydd Omicron yn taro Cymru "yn gyflym iawn ac yn serth iawn" ym mis Ionawr.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Fore Gwener, awgrymodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod y llywodraeth yn ystyried cyfyngiadau fwy caeth ar ôl y Nadolig.
Wrth siarad ar BBC Breakfast, dywedodd: "Byddwn yn siarad gyda'r sector ynghylch a oes angen iddynt ailagor gydag amddiffyniadau ychwanegol fel bod pobl yn teimlo'n hyderus, os ydyn nhw'n mynd allan i dafarn neu fwyty, bod popeth yn cael ei wneud i gadw nhw'n ddiogel.
"Efallai y bydd angen i ni fynd yn ôl at y repertoire o bethau yr oedd angen i ni eu defnyddio yn gynharach yn y pandemig.
"Rhai cyfyngiadau ar nifer y bobl sy'n gallu cyfarfod mewn tafarn, gwisgo masgiau pan rydych chi'n symud o amgylch tafarn."
Pryderon am dafarndai hefyd
Mae Gwyndaf Jones yn berchennog ar glwb nos COPA a thafarn y Castell yng Nghaernarfon.
Mae'n dweud ei fod yn "siomedig iawn" gyda'r cyfyngiadau diweddaraf a'i fod yn poeni am ei staff.
"Mae ganddon ni dros 80 o bobl yn dal i weithio i ni a 'dyn nhw ddim yn gw'bod be' sy'n mynd i ddigwydd i'w gwaith nhw mewn wythnos," meddai.
"Be 'da ni fod i ddweud wrthyn nhw?
"'Da ni ddim wedi cael dim contact gan track and trace ers misoedd yn y ddau glwb nos sydd ganddon ni.
"Dwi yn meddwl neith o effeithio ar dafarndai hefyd. Os ydy'r social distancing rule, 2 metre rule - neu rule of 6 yn dod i mewn - bydd hynny yn cau tafarndai hefyd.
"Mae pobl yn ofn mynd allan a 'dy o ddim yn rhoi cymorth i dafarndai. Mae'n cau ni lawr heb watchad ar ôl ni, a heb roi compensation iawn. Mae 'na lwyth o bobl yn mynd i golli gwaith.
"Mae ganddon ni chwech busnes i gyd ac mae'r cancellations yn rhedeg ar tua 40% ar y funud. Ma' cyfnod Dolig tua 30% o trade y flwyddyn i ni.
"Mae pob busnes a lletygarwch yn dibynnu ar fis Rhagfyr i gario ni drwadd ym mis Ionawr a mis Chwefror - so be mae hyn yn golygu ydy bod llwyth o businesses yn mynd i'r wal efo pobl yn colli eu gwaith."
Ychwanegodd: "Yn lle dod â cyfyngiadau i mewn - os ydy [Mr Drakeford] yn serious am y peth, a ma'i mor serious â mae o'n dd'eud - cau ni lawr a talu am gau ni lawr.
"Lle 'da ni arni ar hyn o bryd ydy yn y tŷ hanner ffordd. 'Neith pobl ddim dod allan, bydd y cyfyngiadau mor ddrwg 'dy o'm gwerth i ni agor - 'da ni mewn no man's land mewn ffordd."
'Rhwystr mawr i fusnesau'
Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach am gael "eglurder ar frys" a ydy hyn ar gael i'r busnesau sydd wedi "colli archebion ar raddfa frawychus yn y bythefnos ddiwethaf".
"Mae angen i Lywodraeth Cymru roi manylion cynnar am y cyllid hwn a sicrhau ei fod ar gael i fusnesau cyn gynted â phosib," meddai Ben Francis, Cadeirydd Polisi Cymru yn Ffederasiwn y Busnesau Bach.
Dywedodd Ian Price, Cyfarwyddwr CBI Cymru: "Wrth i achosion Omicron barhau i godi, mae'n iawn i'r llywodraeth flaenoriaethu iechyd y cyhoedd, ond mae cyfyngiadau newydd yn rhwystr mawr i fusnesau, yn enwedig i'r rhai mewn lletygarwch.
"Trwy gydol y pandemig mae cwmnïau wedi bod yn gweithredu nifer o fesurau i gadw eu staff a'u cwsmeriaid yn ddiogel."
Ychwanegodd ei bod yn "gadarnhaol gweld y llywodraeth yn darparu cefnogaeth ariannol newydd".
Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd Eluned Morgan, y byddai'n anodd fod wedi cynnig yr arian ychwanegol heb gefnogaeth Llywodraeth y DU.
"Fe fyddwn ni yn gweithio allan dros yr wythnosau nesa' sut i ddosbarthu'r £60 miliwn," meddai.
"Ni wedi bod yn ymbil i'r Trysorlys am arian ychwanegol fel ein bod ni yn gwybod pa mor bell ry'n ni'n gallu mynd o ran amddiffyn a diogelu pobl Cymru. Mae'n anodd y tro yma heb ffyrlo.
"Fe fyddwn ni yn gwneud penderfyniadau pellach yn ystod yr wythnos nesa.
"Mae'n rhaid deall y bydd cannoedd ar filoedd o bobl yn cael Omicron yn ystod yr wythnosau nesa.
"Fe fydd lot o bobl off gwaith, posib y bydd hyd at 30% o bob yn sâl o'r gwaith all roi pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd ar yr adeg waethaf o'r flwyddyn o ran pwysau, ac nid dim ond y Gwasanaeth Iechyd."
'Dyw e ddim yn deg'
Yn y gynhadledd ddydd Gwener dywedodd Mark Drakeford nad yw'r system bresennol o ddosbarthu arian Covid yn deg ar y gwledydd datganoledig.
"Os ydy gweinidogion yn San Steffan yn gwneud penderfyniadau, bydd y Trysorlys tu ôl iddyn nhw ac yn rhoi arian iddyn nhw i wneud be' maen nhw eisiau gwneud i ddiogelu pobl," meddai.
"Os ni'n gwneud yr un penderfyniadau fan hyn, ni fyddai'r arian yna ar gael. Dyw e ddim yn deg a dyna'r pwynt dwi wedi'i roi i'r gweinidogion yn San Steffan sawl gwaith dros yr wythnos ddiwethaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2021