Omicron: Clybiau nos i gau yng Nghymru o 27 Rhagfyr

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

'Rhaid paratoi' at don Omicron yng Nghymru, meddai'r gweinidog iechyd, Eluned Morgan

Bydd clybiau nos yn cau yng Nghymru ar 27 Rhagfyr fel rhan o'r ymateb i amrywiolyn newydd Omicron o Covid-19.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd rhagor o fesurau yn dod i rym i fusnesau hefyd o'r diwrnod hwnnw, gan gynnwys rheidrwydd i gadw pellter mewn swyddfeydd.

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford hefyd yn rhoi "canllawiau cryf" i annog pobl i gael dathliadau llai dros y Nadolig ac osgoi cyfarfod "rhagor o ffrindiau" am y tro.

Ychwanegodd fore Gwener nad oedd yn diystyru cyfyngiadau pellach yn cynnwys ail-gyflwyno aelwydydd estynedig, a rheol ar uchafswm o chwech o bobl i gymdeithasu mewn bwytai a thafarndai.

Mae disgwyl penderfyniad pellach ar ddigwyddiadau mawr awyr agored, fel chwaraeon, yr wythnos nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi hyd at £60m o gymorth ariannol i'r busnesau sy'n cael eu heffeithio gan y cyfyngiadau newydd.

Beth fydd yn newid ar 27 Rhagfyr?

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd clybiau nos ar agor ar gyfer dathliadau'r flwyddyn newydd yng Nghymru

Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi cynllun dau ran - y cyntaf yw cynghori pobl i fod yn fwy gofalus cyn y Nadolig, ac yna bydd cyfyngiadau newydd ddod i rym ar ôl Gŵyl San Steffan.

Bydd mesurau ychwanegol mewn lle i fusnesau i "ddiogelu cwsmeriaid a staff" fel systemau unffordd a rhoi rhwystrau mewn lle ble fo angen.

Fe fydd archfarchnadoedd yn dychwelyd i "uchafswm o bobl sy'n cael siopa" o 27 Rhagfyr.

Bydd rheolau'n dod i rym i orfodi pellhau cymdeithasol o ddau fetr mewn swyddfeydd hefyd, a bydd clybiau nos yn cau.

Pan ofynnwyd i Mr Drakeford fore Gwener pam nad oedd tafarndai'n cael eu cau hefyd, atebodd: "Maen nhw'n dweud wrtha'i fod clybiau nos yn llefydd y mae pobl yn mynd i fod yn agos ac yn bersonol."

Ychwanegodd fod Cymru mewn cyfnod o "lonyddwch cyn y storm".

Disgrifiad,

Cyfyngiadau newydd: Beth yw'r farn yng Nghaerfyrddin?

Mae'r Prif Weinidog yn "cynghori pawb yn gryf" i wneud pum peth cyn y Nadolig er mwyn cadw'n ddiogel:

  • Cael eich brechu - boed yn bigiad cyntaf, ail, neu frechlyn atgyfnerthu;

  • Cymryd profion llif unffordd os yn mynd allan - fel i siopa neu weld rhywun;

  • Cwrdd tu allan os yn bosib, ac awyru ystafelloedd os oes rhaid cwrdd dan do;

  • Gadael o leiaf un diwrnod rhwng gwahanol ddigwyddiadau;

  • Cofio am gadw pellter, gwisgo gorchudd wyneb a golchi eich dwylo yn gyson.

Bydd y rheoliadau'n cael eu newid hefyd i gynnwys gorchymyn i weithio adref ble fo hynny'n bosib.

Ychwanegodd Mr Drakeford yn y gynhadledd ddydd Gwener y bydd cyngor newydd ar ymweld â chartrefi gofal yn cael ei gyhoeddi yn fuan, ac y bydd y Prif Swyddog Meddygol yn ysgrifennu at bawb ar y rhestr gysgodi yn rhoi cyngor am sut i ddiogelu eu hunain.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Prif Weinidog yn annog pobl i gael dathliadau llai dros y Nadolig

"Delta fydd prif achos heintiau coronafeirws yng Nghymru hyd at y Nadolig. Ond rydym yn gweld achosion o Omicron yn cynyddu'n gyflym bob dydd yma yng Nghymru - ac ar draws y DU," meddai Mr Drakeford.

"Mae angen cynllun arnom i'n cadw ni'n ddiogel y Nadolig hwn ac mae angen mesurau cryfach arnom i'n hamddiffyn wedi hynny, wrth inni baratoi ar gyfer ton fawr o heintiau Omicron.

Ychwanegodd mai'r amrywiolyn newydd yw'r "datblygiad mwyaf difrifol yn y pandemig hyd yma", a bod yn rhaid rhoi mesurau newydd mewn lle i "ddiogelu bywydau pobl a'u bywoliaeth".

"Dyma feirws sy'n ffynnu ar gyswllt dynol. Mae pob cyswllt ag eraill yn gyfle inni ledaenu neu ddal y feirws."

Effaith ar wasanaethau yn 'anorfod'

Dywedodd Mr Drakeford yng nghynhadledd y llywodraeth ddydd Gwener ei bod yn "anorfod" y bydd cynnydd mawr mewn achosion Omicron yn cael effaith ar wasanaethau cyhoeddus.

Mae'r GIG, cynghorau sir, yr heddlu a gwasanaethau eraill yn gweithio'n galed i drefnu "pa bynnag fesurau fydd eu hangen fel bod gwasanaethau'n parhau i bobl Cymru", meddai.

Ychwanegodd: "Os yw'r amrywiolyn yma'n lledu yn y ffordd y mae rhai o'r modelau'n awgrymu, yna bydd y bobl ry'n ni'n dibynnu arnyn nhw i ofalu amdanom mewn argyfwng yn cael eu heffeithio ganddo eu hunain."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Mark Drakeford gadarnhau'r cyfyngiadau newydd mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Gwener

Ychwanegodd y Prif Weinidog: "Eleni, Nadolig llai fydd y Nadolig mwyaf diogel. Wrth gyfyngu ar nifer y bobl y byddwn yn cwrdd â nhw, byddwn yn llai tebygol o ddal neu drosglwyddo'r feirws.

"Mwynhewch y Nadolig gyda'ch anwyliaid - ac ystyriwch gwrdd â rhagor o ffrindiau a chydnabod pan fydd Omicron yn llai o fygythiad."

Yn siarad fore Gwener, dywedodd Mr Drakeford nad oedd yn diystyru cyflwyno mesurau llymach ar ôl y Nadolig, gan ddweud y bydd yn "dysgu llawer iawn mwy dros y 10 diwrnod nesaf".

Dywedodd nad oedd aelwydydd estynedig a'r rheol o chwech mewn bwytai a thafardai yn cael eu diystyru, ac y byddai penderfyniad am ddigwyddiadau awyr agored mawr fel chwaraeon ddydd Llun.

Mae Cymru wedi bod ar lefel rhybudd 0 ers mis Awst bellach, a dyma fydd y tro cyntaf i gyfyngiadau newydd gael eu cyflwyno ers hynny.

Rhybuddiodd Mr Drakeford ddydd Iau y bydd Omicron yn taro Cymru "yn gyflym iawn ac yn serth iawn" ym mis Ionawr.

Dywedodd y gallai pob math o wasanaethau - o'r GIG i gasgliadau biniau - gael eu heffeithio pe bai llawer o weithwyr i ffwrdd yn sâl.

Fe allai hanner poblogaeth y DU gael eu heintio, yn ôl rhai amcangyfrifon, meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i Omicron fod yr amrywiolyn mwyaf blaenllaw o Covid yng Nghymru cyn hir

Ychwanegodd Prif Swyddog Meddygol Cymru fod y wlad "ychydig ddyddiau" y tu ôl i rai mannau yn y DU o safbwynt y cynnydd mewn achosion o amrywiolyn Omicron.

95 achos o Omicron sydd wedi'u cadarnhau yng Nghymru hyd yma, ond mae disgwyl iddo fod yr amrywiolyn mwyaf blaenllaw o Covid yma cyn hir.

Mewn ymateb i hynny mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o gynnig brechiad atgyfnerthu i bob oedolyn cymwys cyn diwedd y mis.

Angen 'eglurder' am gymorth busnesau

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd bod angen "eglurder" am yr arian sydd ar gael i fusnesau.

Croesawodd Andrew RT Davies y £60m sydd wedi ei gyhoeddi, ond dywedodd bod mwy ar gael gan weinidogion.

"Mae £600m ar gael yng nghyllideb y llywodraeth sydd ar gael i'w wario ar Covid," meddai.

"Mae'n hollbwysig ein bod yn cael eglurder am yr arian yna er mwyn cefnogi busnesau sy'n cael eu heffeithio."

Galw am ailddechrau'r ffyrlo

Ychwanegodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price ei fod yn croesawu'r cyngor diweddaraf ar sut i leihau'r perygl o heintio cyn y Nadolig, a'r safbwynt gofalus sy'n cael ei gymryd gan y llywodraeth.

"Rwy'n credu fod y llywodraeth wedi cael hyn yn iawn yn gyffredinol," meddai.

Ond ychwanegodd fod angen i unrhyw fesurau sy'n effeithio ar fusnesau yn dod law yn law â chefnogaeth ariannol gan y Trysorlys.

Dywedodd fod angen ailddechrau'r cynllun ffyrlo i helpu'r sector lletygarwch, gan fod busnesau'n dioddef er eu bod ar agor.