Trochi yn y môr ar ddydd Gŵyl San Steffan ers 1972
- Cyhoeddwyd
"Dyma'r ffordd orau erioed i deimlo'n fyw."
Dyna eiriau Dai Roberts o Saundersfoot, Sir Benfro, am y wefr o nofio yn y môr bob blwyddyn ar ddydd Gŵyl San Steffan.
Ar 26 Rhagfyr eleni, bydd yn trochi yn y môr oddi ar Traeth y Gogledd, Dinbych-y-pysgod; traeth ei drochfa cyntaf yn 1972 pan oedd yn 11 mlwydd oed.
Dros y blynyddoedd mae Dai wedi cyflawni'r drochfa mewn mannau ledled y byd; o Ddinbych-y-pysgod i'r Almaen a'r Unol Dalieithau, i Afghanistan hyd yn oed.
Dai fu'n rhannu ei atgofion am drochfeydd rhynllyd, ac ambell un anarferol gyda Cymru Fyw.
Dinbych-y-pysgod
Yn 1971 y trefnodd Tenby Sea Swimming Association (TSSA) drochfa Gŵyl San Steffan am y tro cyntaf, digwyddiad sy'n denu cannoedd i'r traeth yn flynyddol er mwyn codi arian at elusennau lleol a chenedlaethol.
Ar ôl i Dai gyfarfod ei ffrind a alwai yn 'Curly' yn yr ysgol uwchradd yn Saundersfoot yn 1972 a ddywedodd wrtho "fod yn rhaid iddyn nhw wneud y dip ar y traeth", daeth nofio yn y môr ar 26 Rhagfyr yn draddodiad blynyddol.
Meddai Dai am ei drochfa cyntaf yn 1972: "11 oed o'n i, wnaeth Mam fy nanfon i Draeth y Gogledd, Dinbych-y-pysgod a wy'n cofio pa mor oer oedd hi wrth sefyll yn fy speedos gyda Curly ar y traeth."
"Roedd Curly gyda flip-flops am ei draed a wy'n cofio fe'n dweud wrtha i i gofio rhai flwyddyn nesa'; mae rhywbeth ar eich traed yn help mawr i ddygymod gyda'r oerni.
"Ar ôl cwpwl o flynyddoedd fe ddechreuon ni wisgo i fyny. Fel teenager roedd e'n hwyl ac yn cool, do'n i ddim yn poeni be' oedd pobl yn feddwl ohona i a ro'n i jest isie gwneud pethau gwirion."
"Wnes i wneud y dip yn Ninbych-y-pysgod bob blwyddyn wedyn nes ymuno â'r llynges yn 1979. Hyd yn oed wedyn, ro'n i'n dod adref bob Nadolig i fynd i'r môr yn Ninbych-y-pysgod pan o'n i'n gallu."
Chwifio'r ddraig goch lle bynnag y bo
Treuliodd Dai y rhan fwyaf o'i yrfa yn y llynges, ac yn sgil hynny mae wedi treulio cyfnod y Nadolig mewn gwledydd ledled y byd. Ond nid yw hynny wedi ei rwystro rhag trochi mewn môr neu ddŵr o ryw fath ar 26 Rhafyr ers ei drochfa cyntaf yn 1972. Bob blwyddyn hefyd, mae'r ddraig goch yn gwneud ymddangosiad; boed ar dywel wedi ei or-olchi, neu faner sy'n cyhwfan dan awel y môr.
America
Yn y flwyddyn 2000, aeth Dai, ei wraig Denise a'u tri o blant i fyw i'r Unol Daleithiau oherwydd gofynion gwaith Dai.
Tra'n byw yn nhalaith Virginia, cyflwynodd Dai draddodiad Gŵyl San Steffan ei deulu i Americanwyr a phobl o bob cwr o'r byd.
"Fe wnes i ddechrau perswadio pobl ddes i adnabod yno i wneud y dip gyda fi a'n nheulu ar draeth Virginia neu draeth cyfagos; rhieni ffrindiau fy mhlant a phobl o'r clwb rhedeg ac ati," eglura Dai.
"Tydi'r Americanwyr ddim yn dathlu Boxing Day, felly roedd hyn yn hollol newydd iddyn nhw, a'r rheol oedd, roedd pwy bynnag oedd yn gwrthod rhedeg i'r môr yn gorfod mynd i mewn ddwywaith y flwyddyn wedyn!"
Afghanistan
Mae Dai a'i deulu wedi byw mewn sawl lle dros y blynyddoedd gan gyflawni'r drochfa flynyddol ym Môr Baltig yr Almaen, Môr y Gogledd yn yr Iseldiroedd a hyd yn oed yn Afon Tafwys tra'n byw yn nhref Marlow, Lloegr.
Ond mae Dai wedi gorfod treulio cyfnod y Nadolig ymhell o gwmni ei deulu hefyd. Cafodd ei anfon i Ynysoedd y Falklands yn ystod Rhyfel y Falklands; treuliodd dri Nadolig yno gan gyflawni'r drochfa ar ynys De Georgia, yn ne Cefnfor Iwerydd. "Roedd y môr yno yn ddychrynllyd o oer," meddai Dai am y profiad hwnnw.
Dipyn llai o ddŵr a drochodd Dai ynddo tra'n treulio dydd Gŵyl San Steffan yn Afghanistan. Eglura Dai: "Roedd dip Afghanistan yn ddoniol achos ro'n i a'n ffrind wedi gorfod cynllunio ymhell o flaen llaw; doedd ond un pwll nofio posib i ni yn yr US Embassy, ond roedd hwnnw'n gynnes a doeddwn i ddim yn meddwl y byddai'n cyfri'. Felly wnes i sôn wrth fy ngwraig, Denise, ac anfonwyd paddling pool drwy'r Forces Mail i ni."
Gwisgoedd ffansi
Yn rhan o'r traddodiad hefyd mae'r gwisgoedd ffansi. Yr arferiad yn nheulu Dai ydy eu creu gyda gwastraff o becynnu'r anrhegion ar ôl y cinio Nadolig.
Trochfa Dinbych-y-pysgod, 2021
Yn sgil cyfyngiadau Covid-19 llynedd, gohirwyd y drochfa swyddogol ar draeth Dinbych-y-pysgod a rhedodd Dai i'r môr yn lleol, ar draeth Saundersfoot. Mae'r Tenby Boxing Day Swim wedi ei ohirio eto eleni yn sgil pryderon am Covid-19.
Fodd bynnag, bydd Dai yn parhau i nofio. Meddai:
"Mae'r arferiad wedi bod yn rhan o 'mywyd i ers rhedeg i'r môr yn Ninbych-y-pysgod yn 11 oed. Mae gen i atgofion hyfryd o weld pawb ar y traeth a chymuned yn dod at ei gilydd. Mae'n siomedig na alla i gymryd rhan yn y dip swyddogol eleni, ond bydda i'n rhedeg i'r môr yn Ninbych-y-pysgod 'run fath, a chael trochfa go iawn."
Ei fwriad yw rhedeg o Saundersfoot i Draeth-y-Gogledd, mynd i mewn ac allan o'r môr, cyn dychwelyd adref i gynhesrwydd ei gartref.
Hefyd o ddiddordeb: