Sut i aros yn ddiogel yn y môr

  • Cyhoeddwyd
Bad achubFfynhonnell y llun, RNLI

"Peidiwch dod at draeth bob dydd a meddwl bod e'n mynd i fod yr un peth bob dydd."

Dyma neges Tirion Dowsett o Geredigion sy'n gweithio i'r RNLI yn goruchwylio achubwyr bywyd yn yr ardal.

Mae'r mudiad, sy'n dathlu 20 mlynedd o wasanaeth achub bywydau eleni, yn barod am haf prysurach nag arfer wrth i ymwelwyr heidio i lan y môr ar ôl cyfnodau clo Covid.

'Parchwch y dŵr'

Meddai Tirion: "Mae llawer o bobl ddim yn gwybod pa mor beryglus a phwerus mae dŵr yn gallu bod.

"Roedd yr RNLI arfer gosod pwysau ar y traeth a dweud 'triwch wthio hwn'. Y neges oedd ti ffaelu ei wthio fe - a dyna pa mor drwm yw'r dŵr sy'n gallu dod atoch chi yn y môr.

RNLI
Os ydych chi'n gweld unrhyw un mewn trafferth ar yr arfordir ffoniwch 999 a gofyn am gwylwyr y glannau.
RNLI

"Hyd yn oed os chi'n gyfforddus yn y dŵr, checiwch be' mae'r llanw yn neud bob dydd a gwnewch yn siŵr eich bod yn adnabod y traeth a'n gwybod ble mae'r cerrynt a beth mae'r gwynt yn 'neud.

Peryglon

"Mae'r problemau mwyaf yn ymwneud gyda'r llanw a phobl ddim yn deall bod nhw'n gallu cael eu dal allan gan lanw uchel.

Ffynhonnell y llun, Jonathan Evans
Disgrifiad o’r llun,

'Os ydych yn cymryd rhan mewn gweithgareddau dŵr fel padlfyrddio neu caiacio, gwisgwch ddyfais arnofio a chariwch ffôn symudol'

"Hefyd mae lot o broblemau gyda inflatables a gwyntoedd offshore, dyw lot o bobl ddim yn gwybod bod nhw'n gallu mynd allan yn bell.

"Mae padlfyrddio yn ffenomenon eleni ac mae'r padlfyrddau yn gallu cael eu chwythu allan yn bell; ni wedi cael cwpl o bobl yn mynd i drafferth achos hynny.

"A dyw pobl ddim yn gwisgo lifejacket na gwybod lot am yr ardal felly maen nhw'n gallu cael eu dal mewn rip currents. 'Na'r trafferthion mwyaf ar hyn o bryd."

Defnyddiwch wefan neu ap y BBC i weld yr amseroedd llanw diweddaraf yng Nghymru.

Mae tua hanner y bobl sy'n marw ar yr arfordir heb unrhyw fwriad i fynd i'r dŵr ond mae pethau'n gallu newid yn sydyn.

Meddai Tirion: "Mae lot o bobl yn cerdded ar y creigiau yn edrych ar rockpools ac mae'r llanw'n dod mewn ac maen nhw'n cael eu dal allan ac yn cwympo mewn i'r dŵr.

"Mae trafferth yn dilyn achos mae'r dŵr mor oer, yn enwedig wrth ystyried y gwahaniaeth rhwng tymheredd y dŵr a thymheredd yr aer ar y foment.

"Maen nhw'n gallu mynd mewn i cold water shock. Mae hyn yn 'neud i bobl panicio felly maen nhw ffaelu edrych ar ôl eu hunain achos maen nhw mewn panic mode."

Sioc oherwydd dŵr oer: Beth i wneud

  • Cymrwch funud: Mae'r sioc cychwynnol o fod mewn dŵr oer yn gallu achosi chi i fynd yn fyr o anadl a phanicio. Cofiwch fod effaith y dŵr oer yn pasio mewn llai na munud felly peidiwch trio nofio yn syth.

  • Ymlaciwch ac arnofio: Arnofiwch ar eich cefn tra'ch bod yn dal eich anadl. Trïwch afael ar rywbeth sy'n gallu helpu chi i arnofio.

  • Peidiwch â chynhyrfu: Galwch am help neu nofiwch i le diogel os ydych yn medru.

'Meddyliwch am eich diogelwch'

Meddai Tirion: "Hyd yn oed os does dim lifeguards ar y traeth, mae fel arfer baneri sy'n dweud beth yw'r peryglon. Cyn ymweld ag unrhyw draeth trïwch gael cymaint o wybodaeth â chi'n gallu am y traeth.

"Casglwch wybodaeth am lanw isel ac uchel. A byddwch yn rili ofalus.

"Nofiwch mewn grŵp - peidiwch mynd ar ben eich hunain. A dwedwch wrth rhywun ble chi'n mynd o hyd.

"Edrychwch allan am rip currents - chi'n gallu gweld nhw felly peidiwch mynd i'r dŵr os oes un."

Ffynhonnell y llun, RNLI/Nigel Millard
Disgrifiad o’r llun,

Y bwlch yn y tonnau yn dangos cerrynt rip

Os ydych yn cael eich dal mewn cerrynt rip:

  • peidiwch panicio

  • os ydych chi'n gallu sefyll, cerddwch drwy'r dŵr yn hytrach na nofio

  • cadwch afael yn eich bwrdd neu'ch dyfais arnofio os oes un gyda chi

  • codwch eich llaw a galw am help

  • peidiwch â nofio yn erbyn y rip neu fyddwch chi'n gorflino

  • nofiwch gyfochr (parallel) â'r traeth nes eich bod chi'n dianc o'r cerrynt, yna nofiwch i'r lan

'Cofiwch beth i wneud mewn argyfwng'

Meddai Tirion: "Arnofiwch i fyw - sef arnofio ar eich cefn, arafu eich anadlu a pheidiwch panicio.

"Os ydy chi ar caiac neu badlfwrdd dylech chi fynd â ffôn er mwyn cael gafael ar wylwyr y glannau mewn argyfwng.

"Os ydy chi yn y môr ac angen help, rhowch un fraich i fyny i gael sylw achubwr bywyd neu bobl ar y traeth."

Prif gyngor yr RNLI

  • I fwynhau'r môr yn ddiogel ewch i draeth gydag achubwyr bywyd RNLI.

  • Mae'r baneri coch a melyn yn dangos y llefydd mwya' diogel i nofio. Mae achubwyr bywyd yn gwylio'r ardaloedd hyn.

  • Os ydych mewn trafferth codwch eich braich a galw am help.

  • Cofiwch edrych ar amseroedd y llanw ac amodau tywydd ar gyfer y diwrnod.

  • Os ydych yn cymryd rhan mewn gweithgareddau dŵr fel padlfyrddio neu caiacio, gwisgwch ddyfais arnofio a chariwch ffôn symudol.

Hefyd o ddiddordeb