Arestio AS Pen-y-bont ar Ogwr yn dilyn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae AS Pen-y-bont ar Ogwr, Jamie Wallis wedi cael ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad ym Mro Morgannwg.
Cafodd yr heddlu eu galw i "wrthdrawiad un cerbyd" ar Church Road ym mhentref Llanfleiddan, ger Y Bont-faen ychydig ar ôl 01:00 ddydd Sul 28 Tachwedd.
Dywed Heddlu De Cymru bod dyn 37 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o yrru pan nad oedd mewn cyflwr i wneud hynny a'i ryddhau dan ymchwiliad.
Mae llefarydd ar ran yr Aelod Seneddol Ceidwadol wedi cadarnhau ei fod "wedi bod mewn damwain ac mae'n rhoi cymorth i'r heddlu gyda'u hymholiadau".
Ychwanegodd y llefarydd na fydd Mr Wallis yn gwneud sylw pellach tra bod ymchwiliad yr heddlu'r parhau.
"Roedd y digwyddiad yn ymwneud â char oedd wedi gwrthdaro â pholyn lamp," meddai'r heddlu mewn datganiad.
"Cafodd dyn 37 oed o'r Bont-faen ei arestio ar amheuaeth o yrru tra nad oedd mewn cyflwr [i yrru].
"Mae wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad. Doedd dim adroddiadau o unrhyw anafiadau."
Yn ôl neges ar dudalen Facebook Mr Wallis bu'n rhaid canslo cymhorthfa ar gyfer etholwyr ddydd Sadwrn a'i gohirio tan y flwyddyn newydd am ei fod wedi cael prawf Covid positif.