Nel Mai o Fethesda sy'n falch o enillydd byddar cyntaf Strictly Come Dancing

  • Cyhoeddwyd
Rose Ayling-Ellis yn cipio tlws Strictly Come Dancing. Rose yw enillydd byddar cyntaf Strictly Come Dancing
Disgrifiad o’r llun,

Rose Ayling-Ellis yn cipio tlws Strictly Come Dancing. Rose yw enillydd byddar cyntaf Strictly Come Dancing

Mae seren EastEnders Rose Ayling-Ellis wedi dod yn enillydd byddar cyntaf cyfres BBC One, Strictly Come Dancing. Cyflwynwyd tlws sgleiniog Strictly i Rose a'i phartner proffesiynol, Giovanni Pernice ar ddiwedd y ffeinal byw nos Sadwrn 18 Rhagfyr.

Un sy'n falch fod Rose Ayling-Ellis wedi dangos i'r byd bod pobl fyddar fel unrhyw un, yn medru bod yn ddawnswyr arbennig yw Nel Mai, dawnswraig stryd a hip hop o Fethesda.

Ers mynychu Academi Westend ym Mangor a derbyn gwersi dawnsio gan ei thiwtor, Efa Gaffey, mae Nel, sy'n fyddar, wedi dod i gredu ynddi hi ei hun fel dawnswraig. Daw hynny ar ôl cyfnodau o deimlo stigma a rhagfarn nad ydi pobl fyddar yn medru dawnsio na mwynhau cerddoriaeth.

Gwyliwch Nel yn trafod ei chariad at ddawnsio stryd a sut mae profiadau pobl fyddar o gerddoriaeth a dawns yn wahanol i bobl sydd ddim yn fyddar, ond yr un mor gyfoethog.

Disgrifiad,

Gwyliwch Nel Mai yn dweud sut mae hi'n dysgu dawnsio heb glywed y gerddoriaeth

Cyhoeddwyd rhannau o'r darn yma ym mis Hydref, 2021.

Hefyd o ddiddordeb: