Ifan Phillips, bachwr y Gweilch, wedi colli ei goes ar ôl gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae chwaraewr rygbi wedi cadarnhau ei fod wedi colli ei goes yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau feic modur.
Dywedodd Ifan Phillips, bachwr y Gweilch, nad oedd hi'n bosib i ddoctoriaid achub ei goes wedi'r digwyddiad ar 5 Rhagfyr.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad yn Abertawe, ac fe gafodd Phillips ei gymryd i Ysbyty Treforys.
Yn ystod llawdriniaeth yno, dywedodd Phillips, 25, y bu'n rhaid torri ei goes i ffwrdd uwchben ei ben-glin.
'Diolch o galon'
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol brynhawn Sul, dywedodd fod ei "ysbryd yn uchel" ac y byddai'n parhau i fod yn "actif".
Roedd ymgyrch ar-lein i gasglu arian i Phillips - sy'n fab i gyn-fachwr Cymru a Chastell-nedd, Kevin - wedi codi bron i £60,000 nos Sul.
Yn y neges, ychwanegodd Phillips yn Gymraeg: "Diolch o galon i bawb am eich negeseuon a'ch cyfraniadau hael.
"Dwi'n gwerthfawrogi'r cyfan yn fawr iawn."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae'r bachwr wedi chwarae 40 o gemau dros y rhanbarth, a bu'n ymarfer gyda charfan Cymru yr haf diwethaf.
Fe chwaraeodd dros Grymych, Cwins Caerfyrddin a Chastell-nedd cyn ymuno â'r Gweilch, ble wnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros y rhanbarth ym mis Chwefror 2017.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2021