Gamblo'n 'difetha bywydau' yn ôl doctor a dwyllodd y GIG
- Cyhoeddwyd
Mae doctor o Gaerdydd a dwyllodd y Gwasanaeth Iechyd wedi siarad am y profiad a "ddifethodd ei fywyd".
Fis Mawrth fe gyfaddefodd Dr Aled Meirion Jones ei fod wedi twyllo'r Gwasanaeth Iechyd o bron i £68,000 - arian y mae e bellach wedi ei dalu'n ôl yn llawn.
Yn ôl Aled, fe gollodd mwy na £800,000 oherwydd ei brofiad gyda gamblo.
Ond dywedodd wrth Newyddion S4C mai'r perthnasau gollodd yn sgil y gamblo yw ei ofid mwyaf.
Dywedodd: "Rwy'n ei chael hi'n anodd rhoi union ddyddiad pryd trodd y gamblo yn batholegol.
"Rwy sicr yn gallu cofio'r bet gyntaf tra yn y brifysgol, roedd 'na bromosiwn mewn papur newydd lle o'n i a'n ffrindiau yn rhoi £10 i lawr a boed chi'n ennill neu golli roeddech chi'n cael £10 yn ôl," ychwanegodd.
"Dyna pryd y plannwyd yr hadyn 'na am fetio yn fy mhen."
Yn ddiweddarach yn ei fywyd, wrth wynebu anawsterau, dioddef o broblemau hwyliau ac anfodlonrwydd â'i waith, roedd Aled yn "cael rhyddhad" trwy gamblo.
Mae'n cofio'r noson pan drodd swm cychwynnol o £500 yn £10,000 drwy fetio ar gyfres o ganlyniadau chwaraeon.
Colli ei arian wnaeth Aled.
"Wrth wylio fy arian yn diflannu, dylwn i fod wedi meddwl £500 oedd o i ddechrau felly beth yw'r ots, a chydnabod bod gamblo yn gêm beryg a cherdded i ffwrdd.
"Ond chi ffili meddwl yn rhesymegol rywsut pan chi'n gaeth i rywbeth, ac yn sicr doeddwn i ddim yn gwybod fy mod i'n gaeth ar y pryd, dydy eich meddwl chi ddim yn meddwl felly.
"O'n i'n berson styfnig hefyd ac yn benderfynol o ennill yr arian yma yn ôl, er o'n i'n araf bach yn ennill peth arian nôl yn anochel o'n i'n colli e."
Gan weithio fel meddyg, roedd Aled o'r farn ar y pryd ei fod yn gallu fforddio'r arferiad, ond yn y pendraw roedd yn ddibynnol ar fenthyciadau a chardiau credyd.
"Fyswn i'n dechrau osgoi pethau. Osgoi mynd i ddigwyddiadau cymdeithasol oherwydd roeddwn i eisiau gamblo, ac weithiau gan fod dim arian gyda fi. Fe gymerodd drosodd fy mywyd ac mae'n eich newid chi.
"Dechreuais fenthyg arian gan ffrindiau, yn amlwg doeddwn i ddim yn dweud wrthynt mai gamblo oedd y rheswm, ond doeddwn i ddim yn gweld hynny'n niweidiol.
"Ro'n i'n teimlo bod angen yr arian arnaf. Ro'n i'n mynd i'w ennill yn ôl a'u talu nhw'n ôl. Ro'n i'n byw mewn cyfrinachedd nes i mi droi at droseddu.
"Ro'n i'n cyflawni twyll. Ac yn y pen draw, cefais fy nal. Ond dyna wnaeth i mi fynd i'r afael â'm problemau mewn gwirionedd."
'Bydda i wastad â chywilydd'
Plediodd Aled yn euog ym mis Ionawr i ddau achos o dwyll a cham-drin pŵer.
Roedd wedi hawlio am sifftiau locwm nad oedd wedi gweithio ac wedi dwyn sieciau.
Ym mis Mawrth, cafodd ddedfryd o 24 mis o garchar wedi'i gohirio am ddwy flynedd, gorchymyn i wneud 200 awr o waith di-dâl ac fe'i gwaharddwyd o'r gofrestr feddygol am o leiaf 12 mis.
Mae e bellach wedi cwblhau 628 awr o waith gwirfoddol ar wardiau Covid.
"Pan dwi'n trio esbonio hyn i bobl sydd efallai ddim wedi profi caethiwed, dwi ddim yn gwybod os ydy nhw'n deall achos dwi'n cael trafferth deall fy hun.
"Mae gen i gywilydd mawr a bydda i wastad â chywilydd, ond dwi methu newid y gorffennol a'r cyfan fedra i ei wneud yw gwella a cheisio gwneud pethau da. Nid er mwyn newid yr hyn sydd wedi digwydd ond i wneud y gorau o'r sefyllfa."
Mae Aled newydd ddychwelyd i Gaerdydd ar ôl cwblhau her seiclo i Cancun, Mecsico.
Mae'n angerddol am roi yn ôl i elusen Ystafell Fyw sy'n helpu pobl gyda phroblemau gyda chaethiwed.
Dywedodd Aled na fyddai byth wedi gwella heb gefnogaeth yr elusen.
"Roedd yna adeg pan doedd gen i ddim gobaith o gwbl ac yn methu gweld unrhyw ffordd allan. Ond mae ffordd allan, mae rhaglenni triniaeth a chwnsela llwyddiannus iawn ar gael sy'n gallu newid bywydau pobl.
"Dyw e ddim yn hawdd, dyw e ddim yn digwydd dros nos, ond mae 'na obaith a dwi wir eisiau pwysleisio hynny."
Mae Llywodraeth Cymru a Phrif Swyddog Meddygol Cymru wedi dweud eu bod wedi blaenoriaethu mynd i'r afael â'r niwed a achosir gan gaethiwed gamblo.
Ychwanegodd eu bod yn dilyn camau i leihau'r effaith ar iechyd y cyhoedd drwy ddarparu cwnsela ar-lein am ddim i bobl sydd â phroblemau gamblo.
Mae Cyngres yr Undebau Llafur yng Nghymru yn amcangyfrif bod 30,000 o bobl yn profi problem gamblo.
Ar ôl colli dros £800,000 mae Aled nawr yn awyddus i godi ymwybyddiaeth am beryglon gamblo a'i effeithiau.
"Yn drasig, amcangyfrifir bod 500 o bobl sy'n gaeth i gamblo yn cyflawni hunanladdiad bob blwyddyn yn y DU ac mae miloedd o bobl eraill sy'n gaeth i gyffuriau yn gwneud yr un peth. Gyda'r gefnogaeth gywir mae modd osgoi hyn."
Gallwch wrando mwy am hanes Dr Aled Jones ar Gwneud Bywyd yn Haws - rhaglen Radio Cymru sydd ar gael ar iPlayer trwy glicio yma.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2016