'Gallai 17% o staff iechyd fod yn absennol yn Ionawr'
- Cyhoeddwyd
Fe allai hyd at un ym mhob pump aelod o staff fod yn absennol o'u gwaith yn ystod brig ton Omicron, yn ôl prif weithredwr newydd y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Yn ôl Judith Paget mae modelau yn awgrymu y gallai tua 17% o'r gweithlu fod yn sâl neu'n hunan-ynysu yn ystod mis Ionawr - lefel fyddai gyda'r uchaf ers dechrau'r pandemig.
Os dyna fydd y sefyllfa, mae'n dweud y gallai'r gwasanaeth ofyn i staff iechyd sydd wedi ymddeol a gwirfoddolwyr, sydd eisoes yn helpu'r ymdrech frechu, i roi cymorth i wasanaethau eraill.
Dywedodd y byddai'n rhaid i'r gwasanaeth iechyd, o dan yr amgylchiadau hynny, flaenoriaethu gwasanaethau fel gofal brys, canser ac iechyd meddwl.
Byddai hynny, meddai, yn anochel yn amharu ar driniaethau sydd wedi cael eu trefnu o flaen llaw.
Daw'r rhybudd wrth i'r ystadegau diweddaraf ddangos bod mwy o bobl nag erioed yn aros am driniaeth yng Nghymru.
Yn y cyfamser, mae'r gweinidog iechyd Eluned Morgan wedi dweud nad yw Llywodraeth Cymru, "am y tro", yn bwriadu torri nifer y dyddiau y mae'n rhaid i bobl hunan-ynysu os ydyn nhw wedi cael Covid.
Yn Lloegr, gall pobl sydd wedi'u heintio â Covid stopio hunan-ynysu hyd at dri diwrnod yn gynnar os ydyn nhw'n profi'n negyddol ddwywaith - yn rhannol i helpu gyda lefelau staffio.
Ar hyn o bryd cyfrifoldeb byrddau iechyd yw dewis os oes angen gohirio triniaethau er mwyn ymateb i heriau lleol.
Dywedodd Ms Paget fod byrddau iechyd hefyd yn gwneud cynlluniau a allai weld rhai ysbytai maes yn ailagor os oes angen ymateb i Omicron.
Awgrymodd y gallan nhw gael eu defnyddio i ryddhau cleifion sydd wedi gwella yn gynt o wardiau - petai lefelau staffio yn caniatáu hynny.
"Mae absenoldeb staff oddeutu 7% ar hyn o bryd sy'n cynnwys salwch ar wahân i Covid a salwch ac hunan-ynysu sy'n gysylltiedig â Covid 19," dywedodd Ms Paget.
"Rydym yn disgwyl i hynny gynyddu wrth i ni fynd drwy ton Omicron. Rydym yn dechrau gweld hynny'n digwydd nawr... ond mae'n anodd rhagweld.
"Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y modelwyr yma yn Llywodraeth Cymru yn edrych ar opsiynau amrywiol gan gynnwys hyd at oddeutu 17% o absenoldeb staff.
"Ond mae hynny'n seiliedig ar fodel yn unig," meddai, gan ychwanegu y gallai cyfyngiadau newydd Llywodraeth Cymru effeithio ar hynny.
"Yr hyn sy'n amlwg yw yr uchaf yw'r lledaeniad mewn cymunedau - y mwyaf y mae'n effeithio ar staff.
"Fe welon ni lefel tebyg o absenoldeb mewn tonnau cynharach, ac fe wnaethom ymateb i hynny.
"Mae'r Gwasanaeth Iechyd yn gwybod sut i addasu. Ond ie, byddai hynny yn golygu adleoli staff...
"Ry'n ni'n wedi dod â staff sydd wedi ymddeol yn ôl eisoes i helpu - yn enwedig gyda'r rhaglen frechu ond byddai modd eu defnyddio mewn meysydd eraill.
"Ond yn sicr bydd angen ail-feddwl drwy'r amser am ba wasanaethau allwn ni eu darparu. Ble rydym yn blaenoriaethu ein staff? Ac yn amlwg byddai gofal brys ac argyfwng, gofal canser ac iechyd meddwl ar frig y rhestr."
Aros cyhyd â phum mlynedd am driniaeth
Mae Hilary Davies o Gapel Hendre yn aros am driniaeth cataract ers dwy flynedd ac wedi clywed y gallai aros cymaint â phum mlynedd.
Yn y cyfamser mae hi'n derbyn triniaeth gyson ar gyfer macular degeneration.
"O'n i'n hoffi darllen, hoffi gwnïo... fi 'di colli rheina. Dwi'n gwneud tamaid bach. Ond darllen - dwi ddim yn licio darllen ar [declynnau] digidol na headings ar y teledu.
"Dwi'n gweld lluniau ond 'na gyd dwi'n gweld yw llun ond dwi'n methu gwnïo a rhoi colur arno.
"Fi'n gorfod byw gyda fe ac mae'n rhaid i fi fod yn bositif a trio ffeindio pethau eraill. Fi'n gwrando lot ar y radio a pethau fel 'na a fi'n wneud gymaint ag y galla i fy hunan.
"Dwi'n byw wrth fy hunan, fi'n lwcus dros ben o'r ddwy ferch a'r teulu. Ond fi'n llwyddo i fyw wrth fy hunan a fi'n gobeithio gallai sefyll fel 'na."
Mae ei bwrdd iechyd wedi cynnig triniaeth mewn ysbyty preifat, ond oherwydd fod hynny'n golygu teithio ac aros yng Nghaerloyw neu Fryste mae hi a'i theulu wedi penderfynu aros yn hirach am driniaeth yn agosach i adref.
'Maint y rhestrau aros yn ofid'
Bu'n rhaid i dad Llinos Jones o Beniel ger Caerfyrddin ohirio triniaeth ar gyfer canser y prostad yn ystod y clo mawr llynedd.
Cafodd ei drin ddau fis yn ddiweddarach ac ers hynny mae wedi gweld meddyg yn gyson. Mae hi'n dweud fod maint y rhestrau aros yn peri gofid,.
"Mae e'n gwneud chi ofidio, yn enwedig os ydych chi'n mynd mewn a chi'n gwybod mae rhywbeth arna i.
"Synnen i ddim fod lot o bobl yn delayo mynd achos maen nhw'n meddwl ble fi arni - mae'n well gen i ddioddef fel ag yr wyf fi na gorfod aros a chael y gofid o aros a ddim yn gwybod ble maen nhw arni.
"Ond chi'n gweld y cyfryngau a meddwl, 'Oh My Gosh'. Mae'n gwneud chi feddwl fod yr NHS wyneb i waered ond chi'n gwybod maen nhw'n gweithio'n galed yn yr amgylchiadau mae'n rhaid dweud.
"Dyw e ddim yn rhwydd arnyn nhw. Mae 'da nhw ganllawiau, mae 'da nhw budgets a phethau, mae'n anodd."
Heriau'r Gwasanaeth Ambiwlans
Yn y cyfamser mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau y bydd 184 yn rhagor o aelodau o'r lluoedd arfog yn ymuno i rhoi cymorth i'r gwasanaeth ambiwlans o 4 Ionawr ymlaen.
Fe fyddan nhw'n ymuno â'r 129 sydd wedi bod yn cefnogi'r gwasanaeth ers mis Hydref.
Fe fydd y mwyafrif yn gweithio fel 'gyrwyr ychwanegol' mewn ymgais i ryddhau mwy o ambiwlansys i alwadau brys.
Bydd y gefnogaeth yn para tan ddiwedd mis Mawrth.
Dywedodd Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Rydym yn ddiolchgar iawn i gael cefnogaeth y fyddin eto a wnaeth waith gwych o'n cynorthwyo ar ddau achlysur o'r blaen.
"Bydd cael ein cydweithwyr yn y Lluoedd Arfog yn ein helpu i roi mwy o ambiwlansys ar ddyletswydd fel y gallwn gyrraedd mwy o gleifion, yn gyflymach, tra bod y pwysau eithafol yn parhau.
"Cyfnod y gaeaf yw ein hamser prysuraf a bydd cael cymorth milwrol yn cryfhau ein gallu ac yn ein rhoi yn y sefyllfa orau bosib i ddarparu gwasanaeth diogel i bobl Cymru."
Hunan-ynysu
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol gwerth £34m i gefnogi'r gwasanaeth gan gynnwys arian ar gyfer cerbydau newydd a 36 o staff er mwyn dyblu'r capasiti i roi cymorth clinigol o ddesg a darparu cyngor dros y ffôn i gleifion 999.
Dywedodd Eluned Morgan fod y llywodraeth yn "benderfynol o gefnogi'r Gwasanaeth Iechyd - a'i holl staff - ym mhob ffordd y gallwn ni".
O ran torri'r dyddiau hunan-ynysu o 10 i 7, fel yn Lloegr, ychwanegodd "nid ydym yn yr un sefyllfa ag y maen nhw'n Lloegr o ran lle'r ydym ar y curve".
"Dydyn ni ddim yn mynd i fod yn dilyn y cyngor hwnnw am y tro.
"Byddem am gymryd math o ddull mwy gwrth-risg os gallwn, wrth geisio parhau i roi stop ar Omicron gymaint â phosib.
"Felly yn sicr ni fyddwn yn gwneud hynny am y tro, ond yn amlwg byddwn yn parhau i adolygu'r sefyllfa honno."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd22 Medi 2021