Rhestrau aros: 'Cleifion yn cwestiynu ydy bywyd werth ei fyw'
- Cyhoeddwyd
Mae llawfeddygon blaenllaw o Gymru wedi dweud bod effaith oedi hir ar iechyd corfforol a meddyliol cleifion yn "erchyll", gyda nifer yn "cwestiynu a yw eu bywyd werth ei fyw oherwydd y boen maen nhw ynddo".
Daw'r rhybudd wrth i Lywodraeth Cymru gynnal uwchgynhadledd fawr i drafod sut i fynd i'r afael â rhestrau aros - gyda dros 20% o bobl yng Nghymru yn aros am driniaethau.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd y byddai'n buddsoddi £170m ychwanegol y flwyddyn i "drawsnewid" gofal sydd wedi'i gynllunio, fel gwasanaethau orthopaedeg.
Yn ôl melin drafod iechyd flaenllaw, delio â'r rhestrau aros mwyaf erioed yw'r her fwyaf y mae'r GIG yng Nghymru wedi'i hwynebu ers ei chreu yn yr 1940au.
Bydd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan yn dweud wrth yr uwchgynhadledd ei bod yn gobeithio y bydd yr arian ychwanegol yn "creu system gofal wedi'i gynllunio sy'n fwy o faint, yn well ac yn fwy effeithiol nag yr ydym wedi'i weld o'r blaen".
Bydd y £170m y flwyddyn yn canolbwyntio'n bennaf ar endosgopi, cataract, orthopaedeg a gwasanaethau diagnostig a delweddu, ond bydd rhywfaint o'r arian yn mynd tuag at wasanaethau canser a strôc.
Mae Helen Howson, cyfarwyddwr y felin drafod Comisiwn Bevan, yn dweud mai delio â'r amseroedd aros hyn fydd yr her fwyaf sydd wedi wynebu'r GIG ers ei greu dros 70 mlynedd yn ôl.
Mae'n dweud y dylai'r anrhefn mae Covid wedi ei achosi orfodi'r GIG i fynd i'r afael â phroblemau gyda gwasanaeth iechyd Cymru oedd yn bodoli cyn y pandemig.
Beth yw maint y broblem?
Dangosodd y ffigyrau amseroedd aros diweddaraf fod nifer y bobl sy'n aros am driniaeth yn yr ysbyty wedi cynyddu i'r lefel uchaf erioed, unwaith eto.
Mae nifer y cleifion sy'n aros dros 36 wythnos - neu naw mis - i ddechrau triniaeth wedi tyfu naw gwaith ers dechrau'r pandemig.
Ym mis Chwefror 2020 roedd 25,634 o bobl yn aros, ond mae hynny wedi codi i 243,674 erbyn mis Awst eleni.
Roedd yr amseroedd aros hiraf yn cynnwys 56,279 o bobl a oedd i fod i gael triniaeth orthopedig neu drawma.
Mae'r rhestr aros gyffredinol am driniaeth yn 657,539 - mae hyn yn cyfateb i un ym mhob pum person yng Nghymru.
'Nes i ddechrau llefain'
Roedd Jill Davies, sy'n dod o'r Gellifedw ger Abertawe, yn wynebu aros am saith mlynedd am driniaeth i osod clun newydd.
Yn dilyn pedair blynedd o boen cyson yn ei chlun a'i chefn ac anghytuno rhwng arbenigwyr ynglŷn ag achos y boen, dywedodd ei doctor newydd wrthi yn y gwanwyn y byddai'n rhaid iddi ailymuno â'r rhestr aros o'r dechrau - gyda thair blynedd o ddisgwyl am glun newydd yn ei wynebu.
"Dyna'r pwynt nes i ddechrau llefain," meddai.
"Dydw i ddim y math o berson sy'n llefain, ond roeddwn i mor rhwystredig ac roeddwn i'n teimlo pe bydden nhw wedi gwneud hyn tair blynedd yn ôl pan wnes i ddweud fod gen i arthritis, fyddai o wedi ei wneud erbyn hyn."
Erbyn dechrau'r flwyddyn doedd hi methu cerdded dros 25 medr ar y tro, ac yn poeni y byddai rhagor o oedi yn ei gweld hi'n dirywio ymhellach.
Doedd Ms Davies methu fforddio triniaeth breifat ym Mhrydain, fyddai'n costio rhwng £12,000 a £15,000, felly fe benderfynodd deithio i Lithwania am y driniaeth ym mis Gorffennaf am £6,000.
Erbyn hyn mae hi'n gallu nofio, gyrru a cherdded unwaith eto, ond gyda phroblemau'n dechrau dod i'r amlwg gyda'i chlun arall, mae hi'n dweud y byddai'n rhaid iddi dalu unwaith eto os nad ydy pethau'n gwella gyda'r gwasanaeth iechyd.
Mae Iwan Hughes o'r Fflint yn un arall sydd wedi bod yn disgwyl am lawdriniaeth ers mis Gorffennaf, a hynny am ben-glin newydd.
Er ei fod yn disgrifio'r gofal y mae wedi'i gael hyd yma'n "benigamp", dywedodd ei bod hi wedi cymryd sawl blwyddyn o drafferthion gyda'r anaf cyn cyrraedd y pwynt ble roedd modd cael llawdriniaeth.
"Wedyn pan wnaethon nhw benderfynu y bydden i'n cael MRI, fe ddaeth Covid - ac mae'r ben-glin wedi dirywio o fod yn torn meniscus i gael pen-glin newydd, ac mae arthritis wedi dod at y ben-glin," meddai.
Ychwanegodd ei fod bellach hefyd wedi datblygu sciatica, cyflwr "tu hwnt o boenus" y gallai fod wedi osgoi "pe bai fi wedi cael rhywun yn edrych arna i yn gynt".
"Tydw i ddim mor sionc ac oeddwn ni," meddai Iwan, sydd yn ei 50au.
"Tydw i ddim yn dweud mod i'n crymu tuag at y bedd, ond mae'r sioncrwydd oedd yn rhan o'm mywyd i wedi hen fynd.
"Dwi methu chwarae gyda'r plantos yn yr ardd, ac mae mynd am dro yn gallu bod yn tu hwnt o boenus y diwrnod wedyn.
"Mae rhaid fi jyst i dderbyn o mae'n debyg, tydi yr amgylchiadau ar y funud ddim yn hwylus i neb."
'Byw efo'r boen'
Mae Sian Williams o Flaenau Ffestiniog wedi bod yn aros dwy flynedd am lawdriniaeth i'w chlun dde, wedi iddi eisoes gael triniaeth llwyddiannus i'w chlun chwith yn 2018.
Yr unig gynnig a gafodd hi am lawdriniaeth yn ystod Covid oedd mynd i Gaer - ond mae'n dweud bod cyfuniad o fod eisiau cael yr un llawfeddyg a'i llawdriniaeth cyntaf, a'r ffaith bod y "pandemig ar ei anterth" bryd hynny ym mis Rhagfyr 2020, wedi ei hatal.
Roedd sôn hefyd y byddai'n gorfod cael triniaeth ac yna gadael ar y diwrnod, rhywbeth sydd hefyd bellach yn cael ei ystyried yng Nghymru i geisio cyflymu'r broses - ond dyw Sian ddim eisiau hynny.
"Pan 'dan ni'n sôn am ddod at eich hun, maen nhw'n awyddus i chi godi o'r gwely cyn gynted â phosib, mae'r arbenigwyr yna efo chi jyst rhag ofn bod 'na rywbeth yn mynd o'i le," meddai.
"Fedrai weld pam bod nhw'n cysidro cwtogi ar hwnnw, ond ar y pryd roedd hynna'n bryder i mi."
Yn y cyfamser, meddai, mae'n parhau i fyw gyda'r boen bob dydd.
"Dwi'n gallu cario 'mlaen... ond dim ond yr ansawdd bywyd yna, lle dwi'n gwybod pan gai'r llawdriniaeth mi fyddai'n ddi-boen."
Beth yw'r ateb felly?
Roedd problemau gyda rhestrau aros enfawr yn ardal Bwrdd Iechyd Bae Abertawe hyd yn oed cyn y pandemig.
Gohiriwyd llawdriniaethau dewisol am saith mis yn Ysbyty Treforys yn ystod 2019 am fod pwysau gofal brys ar yr ysbyty.
Ond yn debyg i fyrddau iechyd eraill fe wnaeth y pandemig y sefyllfa gymaint gwaeth.
Nawr mae disgwyl i'r bwrdd iechyd gyflwyno cynlluniau i drawsnewid gwasanaethau gyda'i dri ysbyty yn canolbwyntio ar wahanol bethau er mwyn diogelu llawdriniaethau sydd wedi'u cynllunio o flaen llaw rhag anghenion brys neu bwysau'r gaeaf.
Bydd Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn dod yn ganolfan ragoriaeth orthopedig, gyda buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pedair theatr newydd.
Mae'r bwrdd iechyd yn dweud fod y sefyllfa bresennol yn creu'r posibilrwydd o weithredu radical i ddelio â'r problemau hyn.
Dywed Coleg Brenhinol y Llawfeddygon y bydd angen cyflwyno canolfannau rhanbarthol o'r math yma - sy'n canolbwyntio ar lawdriniaethau arferol - ledled Cymru er mwyn mynd i'r afael â'r ôl-groniad.
Paul Williams, sy'n llawfeddyg orthopedig, yw arweinydd clinigol y cynlluniau canolfan ragoriaeth orthopaedig ar gyfer Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ac mae'n dweud bod effaith yr oedi yma ar gleifion yn "erchyll".
"Mae bod yn byw gyda phoen yn ofnadwy," meddai.
"Fe wnaethon ni anfon holiadur allan yn ddiweddar, ac mae llawer o'r cleifion wedi ateb eu bod yn cwestiynu a yw eu bywyd gwerth ei fyw oherwydd y boen maen nhw ynddo.
"Mae orthopaedeg bob amser wedi cael ei weld fel ardal lle gall cleifion aros ychydig yn hirach, ac ychydig yn hirach, ac efallai ychydig yn hirach o hyd ond ni allwch roi pris ar hynny."
Mae'r cynlluniau ar gyfer y tri ysbyty wedi cael eu cefnogi gan bobl leol.
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei ddweud?
Dywed Llywodraeth Cymru ei bod am i fyrddau iechyd "drawsnewid yn sylweddol" y ffordd y mae'n darparu gofal iechyd arfaethedig.
Yn ogystal â'r £170m ychwanegol, bydd y Gweinidog Iechyd yn amlinellu £1m a fydd yn mynd tuag at gronfa i gefnogi byrddau iechyd i gyflwyno datblygiadau arloesol yn y ffordd y caiff gofal iechyd ei ddarparu.
Bydd prif weithredwr newydd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, Judith Padgett, yn nodi pum nod ar gyfer trawsnewid gofal cynlluniedig, gan gynnwys sicrhau bod yr holl lwybrau gofal yn addas i'r diben er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael eu trin yn y ffordd fwyaf priodol, a gwaith dilynol i annog unigolion i reoli eu cyflyrau eu hunain.
"Mae angen inni drawsnewid ein ffordd o ddarparu gwasanaethau," meddai Ms Padgett.
"Mae llawer o ddatblygiadau a ffyrdd newydd o weithio wedi'u rhoi ar waith yn ystod y pandemig, ond mae'n bwysig adeiladu ar y rhain a manteisio ar y cyfle i greu gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol modern ar gyfer y dyfodol."
Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan: "Mae'r pandemig wedi effeithio'n sylweddol ar ofal wedi'i gynllunio, gan greu ôl-groniad enfawr o gleifion sy'n aros am driniaethau.
"Yn ogystal, rydyn ni'n ofni bod yna lawer o gleifion nad ydyn nhw eto wedi mynd at wasanaethau gofal sylfaenol gyda'u salwch.
"Mae angen edrych ar y ffordd o ddarparu gofal yn y system gyfan a thrwy fuddsoddi £248m yn yr adferiad Covid, £170m mewn gofal wedi'i gynllunio a £42m mewn gofal cymdeithasol, ein nod yw rhoi'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru mewn sefyllfa gryfach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
"Rydyn ni'n galw ar fyrddau iechyd i drawsnewid y ffordd o ddarparu gofal wedi'i gynllunio.
"Rydyn ni am wneud mwy na dim ond adfer o'r pandemig; rydyn ni am greu system gofal wedi'i gynllunio sy'n fwy o faint, yn well ac yn fwy effeithiol nag yr ydym wedi'i weld o'r blaen."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2021