'Diolch i'r rhai sy'n gweithio dros yr Ŵyl'
- Cyhoeddwyd

Yn ei neges Nadolig mae'r Prif Weinidog yn diolch i'r rhai sy'n gweithio dros yr Ŵyl i gadw pawb yn ddiogel rhag y pandemig.
Ar ddechrau ei neges dywed ei fod yn gobeithio y bydd pawb yn cael Nadolig diogel, heddychlon a hapus ymhlith ffrindiau a theulu "ond mae cysgod y pandemig yma o hyd," meddai, "ac unwaith eto byddwn yn tynnu gyda'n gilydd i ddod drwy'r cyfnod anodd hwn, i roi help llaw i deulu, ffrindiau a chymdogion ac i edrych ymlaen at y dyfodol gyda gobaith ac optimistiaeth".
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd Mark Drakeford hefyd fod "ymroddiad a gwasanaeth y fyddin frechu werth y byd i ni".
"Y Nadolig hwn bydd llawer o bobl yn gweithio ddydd a nos i'n cadw yn ddiogel - gwirfoddolwyr yn y gymuned, staff y Gwasanaeth Iechyd a'r gwasanaethau brys ac wrth gwrs yr holl bobl sydd wedi aberthu eu Nadolig i weithio yn y canolfannau brechu ledled y wlad i'n hamddiffyn rhag y feirws ofnadwy hwn.
"Mae ymroddiad a gwasanaeth y fyddin frechu yn werth y byd i ni. Rwyf am i chi gyd gael gorffwys, hedd a llawenydd dros yr Ŵyl," ychwanegodd.
Daw ei neges ddeuddydd cyn y bydd Cymru yn symud i rybudd lefel dau.
Ar ddydd San Steffan bydd cyfyngiadau newydd yn dod i rym i atal lledaeniad Covid-19.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2021