Chwaraeon yr ŵyl wedi'u llethu gan Covid
- Cyhoeddwyd
Mae lledaeniad Omicron a chyfyngiadau newydd wedi arwain at ganslo digwyddiadau chwaraeon drwy Gymru, o nofio cymunedol i rygbi proffesiynol dros y Nadolig.
Bydd miloedd yn aros adref yn lle mynd i nofio dros yr ŵyl, tra bod Parkrun wedi caslo'i holl ddigwyddiadau i oedolion o ddydd Calan ymlaen.
Mae gemau proffesiynol Gŵyl San Steffan hefyd wedi eu heffeithio - mae'r ddwy gêm ddarbi rhwng rhanbarthau rygbi Cymru wedi'u gohirio, tra bod gemau pêl-droed Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam wedi wynebu'r un ffawd.
O 26 Rhagfyr, ni fydd mwy na 50 o bobl yn cael cymryd rhan mewn digwyddiadau tu allan, a bydd yn rhaid chwarae gemau proffesiynol tu ôl i ddrysau caeedig.
Dim nofio dros y Nadolig
Mae digwyddiadau nofio dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd wedi cael eu canslo am yr ail flwyddyn yn olynol oherwydd Covid a'r rheolau newydd.
Fel arfer mae miloedd o bobl yn cwrdd i nofio ar ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan, a dydd Calan.
Mae'r digwyddiadau canlynol wedi eu canslo:
Porthcawl: Dydd Nadolig
Dinbych-y-Pysgod: Gŵyl San Steffan
Llandudno: Gŵyl San Steffan
Pen-bre: Gŵyl San Steffan
Porthmawr: Dydd Calan
Llanusyllt: Dydd Calan
O 26 Rhagfyr dim ond 50 o bobl fydd yn cael mynychu digwyddiadau tu allan.
Dywedodd trefnwyr ym Mhorthcawl ei fod yn teimlo'n "anghyfrifol" annog 5,000 o bobl i gwrdd 24 awr cyn i'r rheol hyn ddod i rym.
Ychwanegodd trefnwyr Porthmawr eu bod wedi cymryd y cam "swynhwyrol" i ganslo yn sgil lledaeniad Omicron a chyngor cryf y Llywodraeth i adael diwrnod rhwng cymdeithasu.
Galw am 'flaenoriaethu' rhedeg
Mae holl ddigwyddiadau Parkrun yng Nghymru hefyd wedi cael eu canslo o 1 Ionawr ymlaen.
Ond fe fydd eu digwyddiadau i blant yn parhau.
Mae Parkrun yn trefnu rhediadau 5km bob bore Sadwrn ar hyd y DU.
Dywedodd prif weithredwr Athletau Cymru fod Parkrun yn bwysig i iechyd corfforol a iechyd meddwl pobl drwy'r gymdeithas, ac y dylai gael ei flaenoriaethu.
"Dyw e ddim ar gyfer dy redwyr difrifol yn unig," meddai James Williams.
"Mae'n beth mae o'n gwneud i gael pobl i symud, a chael pobl i ddechrau 'couch to 5k' - mae twf enfawr Parkrun wedi dod o'r bobl sydd heb wneud unrhyw fath o weithgaredd corfforol o'r blaen, heb sôn am redeg.
"Wrth i ni edrych ar yr her enfawr y bydd angen i'r GIG ei wynebu wedi'r pandemig, gallai cenedl actif ond bod yn beth da er mwyn cefnogi iechyd y wlad."
"I fod yn deg i Lywodraeth Cymru, mae'r mwyafrif helaeth o chwaraeon cymunedol yn gallu parhau," meddai.
Ond dywedodd mai Parkrun sy'n cael yr effaith mwyaf ar iechyd pobl, ac nid yw'n gallu parhau.
Llu o gemau proffesiynol wedi'u canslo
Yn y cyfamser, mae Covid yn parhau i effeithio ar chwaraeon proffesiynol.
Ddydd Nadolig daeth i'r amlwg na fyddai'r gêm rhwng Rygbi Caerdydd a'r Scarlets yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn mynd yn ei blaen ddydd Sul oherwydd achosion Covid ymysg carfan y rhanbarth o'r brifddinas.
Roedd disgwyl mai honno fyddai'r gêm gyntaf i gael ei chwarae heb dorf wedi cyflwyno'r cyfyngiadau newydd am 06:00 ddydd Sul.
Roedd gêm y Gweilch a'r Dreigiau ddydd Sul eisoes wedi ei gohirio yn sgil achosion Covid yn ngharfan y Gweilch.
Yn y byd pêl-droed, mae gêm Abertawe yn erbyn Millwall yn y Bencampwriaeth wedi ymuno â'r rhestr o gemau sydd wedi eu canslo ddydd Sul achos Covid, ac yna brynhawn Iau daeth cadarnhad fod gêm Wrecsam yn erbyn Solihull Moors yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr hefyd wedi'i gohirio.
Dywedodd hyfforddwr yr Elyrch ddydd Mercher fod yna ddau achos Covid yn y garfan, ac mae sawl achos wedi eu cadarnhau yng ngharfan Millwall hefyd.
Roedd gêm Caerdydd yn erbyn Coventry City a gêm Casnewydd yn erbyn Forest Green ar Ŵyl San Steffan eisoes wedi eu gohirio.
Dywedodd Caerdydd bod yna achosion Covid ymysg eu chwaraewyr a staff, a chafodd gêm Casnewydd ei gohirio oherwydd achosion yng ngharfan Forest Green.
Mae 12 gêm yn y Cymru Premier dros gyfnod y Nadolig bellach wedi cael eu gohirio yn sgil y penderfyniad i chwarae gemau tu ôl i ddrysau caeedig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2021